Ymchwilydd yn ennill grant i astudio chwyldro yn Ysgolheictod Cymru

Wedi ei bostio ar 2 Hydref 2013

Ar ddechrau’r cyfnod Fictoraidd, tref Merthyr Tudful oedd un o’r trefi mwyaf yng Nghymru. Roedd yn gymuned ddiwydiannol oedd wedi chwyddo’n gyflym, yn dref llawn slymiau, wedi’i rhannu gan aflonyddwch cymdeithasol a’i hamddifadu rhag y gwasanaethau a’r sefydliadau sifig mwyaf sylfaenol. Eto i gyd, yn yr awyrgylch diffaith hwn, yn ei fferyllfa yn 113 Stryd Fawr Merthyr, ysgrifennodd Thomas Stephens ifanc y gyfrol Literature of the Kymry, hanes beirniadol a osododd y sylfaen ar gyfer ysgolheictod modern yng Nghymru.

Erbyn i Stephens farw ym 1875, yn ddim ond pum deg a thair oed, roedd wedi teithio Ewrop ac Iwerddon ac roedd yn ysgolhaig clodfawr â rhwydwaith o ohebwyr yn Lloegr, yr Almaen, Ffrainc ac Iwerddon. Roedd Literature of the Kymry wedi’i gyfieithu i’r Almaeneg, ac roedd monograffau ac erthyglau pellach gan Stephens wedi tanio’r dadleuon oedd yn symud ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd o fodel rhamantaidd i fodel ymchwil modern.

Felly sut y digwyddodd i brentis tlawd i Fferyllydd ddod yn ysgolhaig o fri rhyngwladol? Mae Dr Marion Löffler, cymrawd ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, wedi ennill grant ymchwil o £85,302 oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme i gynnal prosiect dwy flynedd sy’n gobeithio ateb y cwestiwn hwn.

Bydd y prosiect, ‘Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a'r ChwyldroynYsgolheictod Cymru', yn ymchwilio i gysylltiadau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd Stephens a’i noddwyr, yn eu plith Arglwyddes Llanofer, y Fonesig Charlotte Guest a’r Barwn Christian von Bunsen (llysgennad Prwsia i lys y Frenhines Victoria). Bydd hefyd yn ymchwilio sut y byddai gwybodaeth yn cael ei chyfnewid rhwng gwledydd fel yr Almaen, Cymru ac Iwerddon, gan ganiatáu i’r cysyniadau ymchwil modernaidd, oedd yn galluogi Thomas Stephens a’i gefnogwyr i chwyldroi dysg yng Nghymru, gyrraedd Cymru.

Gadawodd Stephens archif, sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys yn agos i chwe chant o lythyrau, chwe deg a thri o ysgrifau heb eu cyhoeddi a hyd yn oed ei lyfrau nodiadau Almaeneg.

Esbonia Dr Löffler bwysigrwydd y deunydd yn yr archif sy’n rhan bwysig o’r prosiect ymchwil:

“Pan welais i’r archif am y tro cyntaf, trawodd dau beth fi. Mae arogl y fferyllfa yn dal i fod ar ei lawysgrifau, lle’r oedd yn gweini cleifion yn ystod y dydd ac yn cynnal ei ymchwil yn y llofft gyda’r nos. Roedd yn amatur diddysg a lwyddodd, gyda chymorth dwy noddwraig bwysig, i gyrraedd pinacl ei faes a llwyddo i chwyldroi dysg yn ei wlad.

Yn ail, mae’r nodiadau yn ei ysgrifau ac yn enwedig y llythyrau a anfonwyd ato yn dangos bod ei lwyddiannau’n dibynnu ar gyfathrebu ymhell y tu hwnt i Gymru. Roedd ei ohebwyr yn cynnwys y Don o Rydychen Max Müller, yr hanesydd gwerin o Ffrainc Hersart de la Villemarqué ac ieithegwyr o’r Almaen fel Albert Schulz a Karl Meyer. Ymhlith y cysylltiadau a drefnwyd gan yr Arglwyddes Llanofer roedd yr hanesydd a’r ieithydd y Barwn Christian von Bunsen, llysgennad Prwsia yn llys y Frenhines Fictoria. Roedd troednodiadau Stephens yn cyfeirio at ddynion fel Barthold George Niebuhr, gwladweinydd arall o Brwsia a hanesydd blaenllaw, oedd hefyd yn gyfaill ac yn gydawdur gyda Bunsen.”

Mae’r deunydd a geir yn yr archif yn codi cwestiynau ac yn amlygu pwysigrwydd nawdd ariannol a chymdeithasol y dosbarthiadau uwch lleol, a roddwyd yma gan ddwy wraig ddylanwadol, er mwyn sicrhau llwyddiant a symudedd cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnig atebion posibl ynglŷn â sut yn union roedd syniadau a gwybodaeth yn teithio yn Ewrop y cyfnod Fictoraidd cynnar, o system brifysgol ddatblygedig a dosbarth proffesiynol Prwsia i Gymru, rhanbarth ymylol na fyddai’n gweld sefydlu prifysgol tan 1893.

Dros y ddwy flynedd nesaf bydd grant Leverhulme yn galluogi’r prosiect i ddilyn y cwestiynau hyn a dod o hyd i atebion. Bydd cynorthwyydd ymchwil yn ymchwilio ac yn dadansoddi’r ohebiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fydd yn caniatáu i Dr Löffler chwilio am lythyrau oddi wrth Stephens yn Llyfrgelloedd y Bodleian yn Rhydychen, Staatsbibliothek ym Merlin, ac archifau yn ne Cymru, Brandenburg ac Iwerddon. Bydd hefyd yn astudio papurau newydd y cyfnod ac yn archwilio ysgrifau Stephens sydd heb eu cyhoeddi i ganfod cysylltiadau newydd.

Bwriad y Prosiect yw cynhyrchu monograff ac antholeg o lythyrau yn ogystal â threfnu gweithdy ac arddangosfa am Thomas Stephens a’i noddwyr yn Llyfrgell Merthyr Tudful. Drwy’r ymchwil hwn, gobaith Dr Löffler yw datgelu’r hanes personol ac Ewropeaidd y tu ôl i’r chwyldro rhyfeddol yn ysgolheictod Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

/Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth  Leverhulme, ewch i’w gwefan - www.leverhulme.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori