Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau (AEMA) Lansio cronfa ddata

Wedi ei bostio ar 24 Mawrth 2016

Ddydd Mercher 6 Ebrill, caiff cronfa ddata mynediad agored ar-lein, â’r nod o alluogi cydweithio a thaflu goleuni newydd ar darddiadau daearyddol yr ieithoedd Celtaidd, ei lansio.

Mae’r gronfa ddata’n benllanw ymchwil a wnaed fel rhan o brosiect yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru o’r enw Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau (AEMA): Cwestiynau am Iaith Gyffredin

Dan arweiniad y Prif Ymchwilydd (Arweinydd y Prosiect) yr Athro John T. Koch yn y Ganolfan Uwchefrydiau, gyda’r Cyd-ymchwilwyr yr Athro Syr Barry Cunliffe (Prifysgol Rhydychen), yr Athro Raimund Karl (Prifysgol Bangor), a Stuart Dunn (Coleg King’s Llundain), mae’r prosiect 3 blynedd hwn a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), wedi cronni tystiolaeth archeolegol ac ieithyddol cynyddol o Gymru, y DU a gwledydd eraill ffasâd Iwerydd Ewrop, a sicrhau ei bod ar gael a bod modd ei chymharu.

Bydd yr achlysur lansio’n cyflwyno’r gronfa ddata, gan gynnwys arddangosiad ffurfiol a chyfle i ryngweithio gyda’r adnodd newydd hwn. Bydd yr Athro Syr Barry Cunliffe yn cyflwyno’r tîm ymchwil ac yn arwain y sesiwn drafod i gloi. Mae’r gronfa ddata’n cynnwys amrywiaeth eang o ddata archaeolegol, ieithyddol a hanesyddol yn ymwneud ag amrywiol gategorïau nad ydynt ar gael i’w cymharu’n aml ar draws ffiniau cenhedloedd modern, disgyblaethau a chyfnodau cronolegol. Mae’r rhain yn cynnwys claddu, anheddu, dyddodiadau gwaith metel, cemeg metel, enwau llefydd ac arysgrifau.

Mae’r paramedrau cronolegol yn eang, o feteleg gynnar yn y rhanbarth (c. 2800 CC) hyd at drawsnewidiad yr ieithoedd Celtaidd hynafol (c. OC 500). Y rhychwant daearyddol yw Ffasâd yr Iwerydd, o’r Alban yn y gogledd i Iwerddon yn y gorllewin a Sbaen yn y de.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 3pm yn yr Amgueddfa Anatomi yn Adeilad King’s, Campws Strand Coleg King’s Llundain, a gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru eu bwriad i ddod drwy dudalen digwyddiadau’r prosiect - http://bit.ly/1RdrvBR

Gyda’r prosiect yn edrych ar dystiolaeth sy’n cefnogi damcaniaeth newydd fod yr ieithoedd Celtaidd wedi ymddangos yn rhanbarth yr Iwerydd mor gynnar â’r Oes Efydd, mae’r agwedd newydd hon yn herio’r farn draddodiadol am darddiad y Celtiaid yng ngorllewin canolbarth Ewrop yn ystod yr Oes Haearn (tua 800 CC).

Mae hwn yn faes pwnc wedi achosi llawer o drafod a chyfrannodd arweinydd y prosiect yr Athro Koch i erthygl yn ddiweddar yn y Washington Post yn ymwneud ag ymchwil a wnaed gyda Syr Barry Cunliffe a Dan Bradley o Goleg y Drindod Dulyn.

Roedd yr erthygl gan Peter Whoriskey, a gyhoeddwyd i gyd-fynd â Diwrnod Sant Padrig ar 17 Mawrth, yn ymwneud â darganfod cloddfa hynafol ddeng mlynedd yn ôl o dan Far McCuaig ar Ynys Rahtlin yn Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon. Mae dadansoddiad DNA o’r tri ysgerbwd a ganfuwyd ar y safle’n herio’r hanes traddodiadol dros y canrifoedd am darddiad y Gwyddelod ac yn helpu i gefnogi’r ddamcaniaeth a gyflwynir gan yr Athro Koch a phrosiect AEMA.

I ddarllen yr erthygl lawn ewch i wefan y Washington Post - http://wpo.st/rfaM1

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect AEMA ewch i - http://www.aemap.ac.uk/cy/

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau