Dyfarnu grant AHRC i Ganolfan Geltaidd am brosiect ymchwil ar y cyd ar deithwyr i Gymru ac i'r Alban yn y cyfnod Rhamantaidd

Wedi ei bostio ar 16 Mehefin 2014
Thomas-Pennant

Delwedd o gyfrol addurnedig Thomas Pennant A tour in Wales, drwy haelioni Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru wedi derbyn grant o £785,784 oddi wrth Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a’r Celfyddydau (AHRC).

Bydd yr arian yn cefnogi prosiect ymchwil pedair blynedd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Glasgow, dan yr enw ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a theithio i Gymru ac i’r Alban 1760–1815’. Nod y prosiect yw archwilio’r adroddiadau a gynhyrchwyd gan deithwyr i’r ddwy wlad ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ysgrifau ‘Tad Twristiaid Cambria’, sef Thomas Pennant (1726–98), naturiaethwr a hynafiaethydd o Sir y Fflint, awdur Teithiau dylanwadol iawn i Gymru ac i’r Alban.

Croesawodd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan, y cyhoeddiad:

“Mae’n newyddion ardderchog. Prosiect cyffrous iawn ydy hwn, a bydd yr arian yn caniatáu i’r Ganolfan barhau gyda’i gwaith pwysig ac arloesol yn y cyfnod Rhamantaidd, gan adeiladu ar dros ddegawd o brofiad ar brosiectau ymchwil megis ‘Iolo Morganwg’ a ‘Chymru a’r Chwyldro Ffrengig’.”

Mae teithiau byd-eang y cyfnod – megis rhai James Cook neu Joseph Banks – wedi hawlio cryn sylw yn ddiweddar. Ond yr un mor bwysig, os llai adnabyddus, yw ‘teithiau ymchwil’ tebyg ym Mhrydain. Daeth y ‘Tour’ yn genre boblogaidd iawn, bron mor boblogaidd â’r nofel: trwy ysgrifau fel hyn ffurfiwyd syniadau y cyhoedd am Brydain y gorffennol. Datgelwyd hanes y wlad yn y dirwedd ei hun, yn y cromlechi, a’r eglwysi a’r cestyll; neu drwy ddiwylliant y werin, eu hiaith, eu caneuon a’u gwisg, yn ogystal â thrwy ddarganfyddiadau hynafiaethol – olion y Rhufeiniaid, y ‘Derwyddon’ ac eraill. Chwaraeodd awduron fel Pennant rôl bwysig yn y ffordd y crëwyd ac y daethpwyd i ddeall gorffennol, boed hynny’n hanes y pedair cenedl, neu’n hanes Prydain ei hun.

Dan arweiniad y Prif Ymchwilydd (ac Arweinydd y Prosiect), Dr Mary-Ann Constantine (Y Ganolfan), a’r Cyd-ymchwilydd, yr Athro Nigel Leask (Prifysgol Glasgow), bydd y prosiect yn cynhyrchu dau adnodd ymchwil a fydd ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd: bas-data yn catalogio gohebiaeth Pennant (yn cynnwys dros chwe chant o lythyrau, sydd ar wasgar mewn gwahanol archifau), a chorpws arlein chwiliadwy yn cynnwys rhyw drigain taith i Gymru ac i’r Alban sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen. Datblygir yn ogystal wefan 'Curious Travellers/Teithwyr Chwilfrydig', yn ffynhonnell o wybodaeth am y profiad o deithio yn y ddwy wlad. Bydd yn cynnwys mapiau rhyngweithiol yn dangos llwybrau’r teithiau, a llyfryddiaeth o gannoedd o deithiau cyhoeddedig. Cyflwynir adnoddau addysgiadol ar gyfer cyrsiau hanes mewn ysgolion yn ogystal.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Dr Mary-Ann Constantine:

“Bydd ein gwaith yn agor ffenestr ar lwyth o adroddiadau lliwgar a difyr gan y ‘teithwyr chwilfrydig’ a ddaeth yn llu i ymylon Prydain i chwilio am fyd delfrydol llawn golygfeydd aruchel – gan ddarganfod, yn aml iawn, fyd estron, rhyfeddol a chythryblus yn syfrdanol o agos.”

Mewn dwy gyfrol, bydd Constantine a Leask yn trafod y Daith yn ei chyd-destun ehangach, gan edrych ar sut yr helpodd i ddatgelu fersiynau gwahanol (ac weithiau gwrthgyferbyniol) o hanes cynnar Prydain; ar y berthynas rhwng ysgrifau teithio a dulliau llenyddol brodorol (Cymraeg, Sgoteg, Gaeleg); ar ddylanwad ieithwedd wyddonol (daearegol, naturiaethol), ac ar gyfraniad pwysig byd celf i’r genre.

Cynhelir cyfres o gynadleddau ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd cenedlaethol a lleol dros Gymru a’r Alban. Bydd y rheini’n tynnu sylw at agweddau gweledol a materol ar y teithiau – o beintio tirluniau i henebion Rhufeinig neu hanes byd natur. Bydd digwyddiadau creadigol yn ogystal, yn cynnwys rhai o’n hartistiaid ac awduron adnabyddus yn ailgerdded rhannau o lwybrau’r teithwyr gynt er mwyn creu fersiynau cyfoes o’r Daith.

Bydd y prosiect yn cychwyn ym mis Medi. Y digwyddiad cyhoeddus cyntaf yw cynhadledd undydd yn rhad ac am ddim yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, ar 19 Medi. Wedi ei gynllunio i gyd-fynd ag arddangosfa ryngwladol bwysig o dirluniau gan yr artist Richard Wilson (1714–82), bydd siaradwyr yn trafod dylanwad Groeg a Rhufain ar deithwyr i Gymru a’r Alban yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch ag: a.elias@cymru.ac.uk

/Diwedd

I gael cyfweliadau a gwybodaeth i’r cyfryngau cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru drwy cyfathrebu@cymru.ac.uk neu 029 20 375057. Am wybodaeth gyffredinol a chwestiynau cyffredin am y Brifysgol ewch i www.cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori