Wedi ei bostio ar 11 Ionawr 2012

Cangen Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2011
Fel rhan o'i rhaglen ddarlith 2011/12, bydd Cangen Bangor o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru yn cyflwyno darlith gan Y Barwn Wigley.
Traddodir y ddarlith ar 20 Ionawr am 5.15 pm yn ystafell gynadledda Yr Hen Goleg, Prifysgol Bangor.
Cafodd cyn arweinydd Plaid Cymru ei urddo’n Arglwydd yn 2010 ac mae’n eistedd ar y traws feinciau yn Nhŷ’r Arglwyddi . Fe ddylai ei ddarlith The Reform of the Second Chamber fod yn addysgiadol a difyr ac mae’n siŵr o ysgogi amrywiaeth barn a thrafodaeth.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ysgrifennydd y gangen, Ms Megan Hughes Tomos ar mht263@btinternet.com
Noder: Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi drwy gyfrwng y Saesneg.