Cyn-fyfyrwyr - Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Wedi ei bostio ar 29 Gorffennaf 2014
2014-Eisteddfod

Cynhelir yr Eisteddfod o’r 2 i’r 9 Awst yn Llanelli a bydd Prifysgol Cymru unwaith eto’n bresennol yno, yn rhannu stondin gyda’n partner uno Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Er y bydd cynrychiolwyr o’r Brifysgol ar gael trwy’r wythnos i siarad â chyn-fyfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi neilltuo amser penodol ar ddydd Llun 4 Awst i ganolbwyntio ar ein cyn-fyfyrwyr.

Rhwng 1:00-2:00pm ar stondin y Brifysgol, bydd cyfle i aelodau Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr ddod i gwrdd â staff y Brifysgol mewn lleoliad anffurfiol a thrafod unrhyw faterion neu bryderon, neu i hel atgofion am eu cyfnod yn y Brifysgol. Bydd aelodau hefyd yn gallu darganfod mwy am ffurfio Fforwm y Cyn-fyfyrwyr a sut mae’n anelu at fod yn ganolbwynt ar gyfer trafodaethau rhwng y Brifysgol a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr , yn hwyluso cysylltu a chyfathrebu dwyffordd.

Bydd cyfle i aelodau Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr fynychu fforwm wedi ei drefnu gan Adran y Clasuron Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr cyn y digwyddiad hwn.

Am 12:00pm ym Mhabell y Cymdeithasau 1, Anerchir gan y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies (cyn-AS Llanelli) ar Addysg Glasurol yn Sir Gâr yn y pumdegau. Mae croeso i Gyn-fyfyrwyr fynychu’r cyfarfod cyhoeddus, a manteisio ar gyfle gwych i glywed yr hyn sy’n argoeli i fod yn anerchiad diddorol iawn.

Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu holl aelodau Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr i’r stondin, boed yn ystod y cyfarfod penodol ar y prynhawn Llun , neu ar unrhyw adeg arall yn ystod yr wythnos.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau