Cangen yr Almaen - Digwyddiadau ar y Gweill

Wedi ei bostio ar 14 Ebrill 2016

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gyda’r gwanwyn daw dau ddigwyddiad pwysig i gangen yr Almaen o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Gyda thros 220 o aelodau mae wedi tyfu dros y blynyddoedd i gynnig cyfleoedd rhwydweithio ac adnoddau academaidd sylweddol i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru yn yr Almaen ynghyd â graddedigion Prifysgol Cymru sy'n siarad Almaeneg.

Dydd Iau 28 Ebrill – Parti Dathlu i Raddedigion Almaenig, Caerdydd
Mae Dathliad Graddio Prifysgol Cymru’n ddigwyddiad bythgofiadwy ym mywyd unrhyw fyfyriwr, ac mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau ei holl Raddedigion. Yn dilyn y digwyddiad, mewn ymdrech i gryfhau’r Gangen, gwahoddir yr holl raddedigion Almaenig sy’n dod i’r Dathliad Graddio eleni i ddathlu eu llwyddiant a chyfarfod â chyd-aelodau yn Henry's Cafe Bar yng Nghaerdydd. Bydd y noswaith yn dechrau am 6:00pm, ac mae’n gyfle da i bwysleisio manteision y corff Cyn-fyfyrwyr i ddarpar aelodau.

Sadwrn 4 Mehefin - Symposiwm Blynyddol, Potsdam
Cynhelir symposiwm blynyddol 2016 Cangen yr Almaen yng Ngwesty Mercure Potsdam. Yn ffinio â Berlin, Potsdam yw prif ddinas Brandenburg ac mae’n adnabyddus am ei chestyll a’i thirwedd ac fel Safle Treftadaeth y Byd.

Bydd agenda'r dydd fel a ganlyn: 
09.15 Cyfarfod 
09:45 Croeso a Chyflwyniad gan Dr. Martina Nieswandt, Llywydd Cangen yr Almaen
10.00 I Die Business Judgement Rule als Refugium des Vorstandes?– Papur gan Dominik Riebartsch, Technische Universität Dortmund
11.30 Cinio 
12.30 Beginnt das Zeitalter der Empathie im Management, wie es Ian Mac Millan vorhersagte? - Papur gan Andreas Pfeiffer, Denkwerkstatt für Manager
14:00 Egwyl coffi 
14:30
 Cyfarfod Blynyddol Aelodau o’r Cyn-fyfyrwyr (gydag agenda ar wahan)
16.00 Egwyl coffi 
16:30 Laterales Management: Das Erfolgsprinzip im digitalen Zeitalter - Papur gan Dr. Roland Geschwill, Denkwerkstatt für Manager
19:30 Derbyniad Diodydd
20:00 Cinio Dathlu

Dydd Sul 5 Mehefin
Yn dilyn y symposiwm blynyddol, mae’r Gangen wedi trefnu taith tywys o gwmpas Potsdam gyda Jörg Klaus Baumgart yn mynd ag aelodau ar daith hanesyddol ar hyd strydoedd y Ddinas.

Mae'n addo bod yn achlysur hynod o addysgiadol a chofiadwy, ac mae croeso i holl Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ymuno â ni. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar y wefan - www.alumni-wales.de

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau