Gwobrau BAFTA dwbl i un o Raddedigion Prifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 17 Chwefror 2012
Asif-Kapadia

Credyd Ffoto: BAFTA/Stephen Butler

Mae Asif Kapadia, sydd â gradd o Brifysgol Cymru, wedi ennill dwy wobr glodfawr am ei ffilm ddogfen Senna yng Ngwobrau Academi Ffilm a Theledu Prydain (BAFTA) 2012.

Enillodd ffilm Asif Kapadia am y gyrrwr Fformwla Un Ayrton Senna y ddogfen orau a’r golygu gorau yn seremoni nos Sul.

Mae’r ffilm sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel yn adrodd hanes gyrfa Ayrton Senna, o'r dechrau fel gyrrwr go-kart i’r ddamwain a’i lladdodd ym 1994. Gan ddefnyddio ffilm archif a chyfweliadau yn unig, mae Senna yn ddarlun dramatig o un o yrwyr enwocaf Fformwla Un, a enillodd bencampwriaeth F1 y byd dair gwaith cyn marw’n 34 oed.

Enwebwyd Senna hefyd yn y categori Ffilm Nodedig o Brydain - y tro cyntaf i ffilm ddogfen gael enwebiad yn y categori ers 2009 - ond collodd i’r ffilm am ysbiwyr Tinker Tailor Soldier Spy..

Ganwyd Mr Kapadia yn Hackney ym 1972, astudiodd cynhyrchu ffilm ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd ddechrau’r 1990au, ac aeth yn ei flaen i gyflawni pethau gwych o fewn y diwydiant ffilm ym Mhrydain a thu hwnt.

Y wobr hon i Senna yw’r ail brif wobr BAFTA i Kapadia ei hennill. Mae wedi ennill o’r blaen am ei ffilm The Warrior (2002), pan ddyfarnwyd iddo Wobr Alexander Korda am y Ffilm Brydeinig Orau a Gwobr Carl Foreman am y Newyddian Mwyaf Addawol yn 2003.

I gael gwybodaeth am BAFTA, ewch i  www.bafta.org

Am ragor o wybodaeth am Brifysgol Casnewydd, ewch I www.newport.ac.u

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori