Wedi ei bostio ar 19 Mehefin 2018

Yr Athro Simon Haslett
Cynulliad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru yn Hong Kong
Ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2018, bydd yr Athro Simon Haslett, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Hong Kong i siarad am bartneriaeth y Brifysgol gyda Chymdeithas Rheolaeth Hong Kong a chyfarfod a thrafod cyfleoedd gyda Chyn-fyfyrwyr Cymru yn Hong Kong.
Bydd hwn yn gyfle hefyd i gyd-Gyn-fyfyrwyr gyfarfod â’i gilydd a rhwydweithio.
Manylion y digwyddiad:
Dyddiad: dydd Mawrth, 26 Mehefin 2018
Amser: 2:30pm – 3:30pm
Lleoliad: N104, Canolfan Confensiwn ac Arddangos Hong Kong, 1 Expo Drive (New Wing), Wanchai
Os oes gennych ddiddordeb yn y cynulliad cyn-fyfyrwyr, cysylltwch â Priscilla Wu (Ffôn: 2774 8563; priscillawu@hkma.org.hk) neu Jacqueline Chui (Ffôn: 2774 8537; jacquelinechui@hkma.org.hk) erbyn 22 Mehefin 2018.