Y Clasuron yn yr Eisteddfod

Wedi ei bostio ar 9 Awst 2023
Classics

Aelodau’r Adran yn Eisteddfod y llynedd

Bydd Adran y Clasuron Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru yn cynnal eu cyfarfod nesaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012

Ddydd Llun 6 Awst am hanner dydd, bydd yr Adran yn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau 1 i glywed darlith gan Dr Huw S. Thomas, Caerdydd. Bydd yn darlithio ar y testun: Groeg, Lladin a’r Gymraeg - Ieithoedd byw? Ieithoedd marw?

Llynedd dathlodd adran y Clasuron ei Jiwbilî Diemwnt yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, a disgwylir i’r digwyddiad eleni fod lawn mor ddifyr ac addysgiadol.

Cyfarfod cyhoeddus yw hwn ac estynnir croeso cynnes i bawb.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau