Wedi ei bostio ar 2 Awst 2012
Gellir gweld rhifyn Haf 2012 o Campus ar-lein yn awr: www.cymru.ac.uk/GylchgrawnCynfyfyrwyr
Mae gan bob myfyriwr sydd wedi cwblhau Gradd, Diploma neu Dystysgrif a ddyfernir gan Brifysgol Cymru'r hawl i ddod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Yn ogystal â bod yn ffordd o gadw mewn cysylltiad gyda’r Brifysgol a chyda’ch gilydd, mae aelodau’n cael cyfle i rwydweithio ar raddfa fyd-eang a derbyn y newyddion diweddaraf am gyn-fyfyrwyr a digwyddiadau ar draws y byd.
Un o’r ffyrdd yr ydym yn gwneud hyn yw trwy gyhoeddi ein cylchgrawn blynyddol i gyn-fyfyrwyr -
Campus. Mae’n darparu ffordd reolaidd i’n graddedigion gadw cysylltiad â’i gilydd, rhannu eu llwyddiannau a’u digwyddiadau, a chadw’n gyfredol â’r datblygiadau a’r newyddion yn y Brifysgol.
Darllenwch ef yn awr ar www.cymru.ac.uk/GylchgrawnCynfyfyrwyr a gellir ei lawr lwytho neu ei argraffu er mwyn i chi ei ddarllen wrth eich pwysau.
Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn pob rhifyn o Campus yn y dyfodol, cofrestrwch yn awr
Ceir rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ar y wefan www.cymru.ac.uk/Cynfyfyrwyr