Wedi ei bostio ar 22 Awst 2014
Os ydych wedi ateb ydw i’r ddau gwestiwn hynny, yna nid ydy’n rhy hwyr i ymuno â’r cwrs TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yng nghampws Townhill Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sy’n dechrau yn gynnar ym mis Medi.
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer bwrsari o hyd at £15,000, gan ddibynnu ar bwnc a chymhwyster eich gradd.
Mae gan athrawon ITM heddiw'r cyfle i fod yn rhan o newidiadau cyffrous i wella llythrennedd ar draws ieithoedd, gan alluogi pobl ifanc i ryngweithio’n fyd-eang ac i gynyddu’u cyflogadwyedd.
Meddai Katie Roberts, un o raddedigion ITM PCYDDS yn 2014: “Mae fy nhiwtor pwnc wedi bod yn gefnogol dros ben ac mae hi wedi mynd ymhell tu hwnt i’w disgrifiad swydd i’n helpu ni. Roedd y mentoriaid yn anhygoel , gan gynnig cyngor a chyfarwyddyd amhrisiadwy. Mae ef [y cwrs TAR] yn lot o waith caled ond yn werthfawr iawn. Os ydy’r proffesiwn yn eich ysgogi chi, yn y diwedd byddwch chi’n llwyddo.”
Mae PCYDDS yn recriwtio myfyrwyr a chanddynt:
- Ffrangeg
- Ffrangeg gydag Almaeneg
- Ffrangeg gyda Sbaeneg
- Almaeneg gyda Ffrangeg
- Sbaeneg gyda Ffrangeg
- Ffrangeg gydag Eidaleg
Y gofynion mynediad ar gyfer rhaglen TAR PCYDDS ydy: gradd dda o 2.2 neu well mewn pwnc perthnasol; gradd B o leiaf (neu gyfwerth) mewn TGAU Mathemateg a Saesneg; a gradd C mewn TGAU Cymraeg os ydych am addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae lleoedd hefyd ar gael ar nifer o gyrsiau TAR Uwchradd eraill ym PCYDDS, gan gynnwys Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura a TGCh, a’r Gymraeg.
Gallwch gyflwyno cais am gwrs TAR Uwchradd drwy’r adran hyfforddiant athrawon ar wefan UCAS. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau addysg athrawon PCYDDS drwy e-bostio teach@sm.uwtsd.ac.uk