Wedi ei bostio ar 8 Awst 2011

Ennillydd ysgoloriaeth Cerys Hudson
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru gyhoeddi mai Ms Cerys Hudson yw enillydd Gwobr Lleufer Thomas eleni am ei chyfraniad rhagorol i astudio hanes Cymru.
Bydd Cerys, a raddiodd gyda BA anrhydedd mewn hanes o Brifysgol Bangor yn ddiweddar, yn derbyn gwerth £500 o docynnau llyfrau Blackwell’s a bydd yn eu defnyddio i ‘w helpu i brynu llyfrau ar gyfer cam nesaf ei hastudiaethau.
Roedd gan un arholwr allanol a gefnogodd cais Cerys am y wobr glod arbennig i’w hymroddiad i hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig cyfnod teyrnasiad Owain Glyndŵr - y Cymro cynhenid diwethaf i arddel yr enw Tywysog Cymru. Ei thraethawd hir a wnaeth yr argraff ddyfnaf ar yr arholwyr fodd bynnag; roedd pob un ohonynt yn gytûn ei fod o safon digon da i’w gyhoeddi, yn cyfleu aeddfedrwydd o ran ymdriniaeth a dealltwriaeth.
Dyma ddywedodd Cerys am ennill y wobr:
“Rwy’n falch o dderbyn Gwobr Lleufer Thomas 2011. Mae’r tocynnau llyfrau’n gyfle i mi barhau ac ehangu fy niddordeb mewn hanes. Hoffwn ddiolch i’r darlithwyr yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor am eu harweiniad a’u cefnogaeth trwy gydol fy nghwrs.”
Bydd ceisiadau ar gyfer Gwobr Lleufer Thomas Prifysgol Cymru 2012 yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio Hanes Cymru fel rhan o’u harholiadau i ennill gradd anrhydedd. Yna bydd arholwr allanol mewn Hanes Cymru yn dewis yr ymgeisydd y mae’n credu sydd wedi cyrraedd y safonau uchaf yn ei waith academaidd.
Daw’r wobr o rodd i’r Brifysgol gan Mr D Gethin Williams er cof am Syr Daniel Lleufer Thomas MA (Oxon) Anrh/HonLLD (Cymru), Dirprwy Is-Ganghellor 1915-17.
/Gorffen
Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Ysgoloriaethau arlein: www.cymru.ac.uk/en/Scholarships/ScholarshipRecords.aspx
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru, os gwelwch yn dda: t.barrett@cymru.ac.uk