Ysgoloriaeth ar gael i ddarpar fyfyrwyr o ardal Merthyr Tudfil

Wedi ei bostio ar 14 Ebrill 2010
merthyrlandscape

Cwm Merthyr (h) Freefoto.com

Yn 1996, bu farw 116 o blant ysgol yn nrychineb Aberfan -cenhedlaeth gyfan wedi'i cholli.  Ac er bod Aberfan yn bentref bychan yng nghwm Merthyr, fe wnaeth y digwyddiad hwn ennyn cydymdeimlad o bob cwr o'r byd.

Yn 1968, fe wnaeth Cymdeithas Gymraeg San Francisco ofyn i Brifysgol Cymru ofalu am gronfa goffa i blant y pentref. Mae'r gronfa bellach yn ariannu ein hysgoloriaethau i helpu ac i annog darpar fyfyrwyr o Aberfan a Chwm Merthyr i barhau gyda'u hastudiaethau uwch.

Mae'r ysgoloriaeth o £1000 yn cael ei rhoi yn flynyddol gan Brifysgol Cymru i berson ifanc sydd ar fin gadael ysgol, sydd â rhieni oedd yn byw yn Aberfan pan ddigwyddodd y drychineb neu i berson o'r un oed sydd yn byw ym Merthyr. Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng dau neu fwy o ymgeiswyr teilwng a bydd yn ddilys am hyd at dair blynedd.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sy'n gobeithio dilyn astudiaethau mewn Prifysgolion neu Cholegau Prifysgol Cymru fel myfyrwyr blwyddyn gyntaf. Yn y gorffennol mae enillwyr yr ysgoloriaeth wedi mwynhau llwyddiant mewn ystod eang o yrfaoedd o'r Celfyddydau i Feddyginiaeth.

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen gais ar gyfer yr ysgoloriaeth trwy ymweld â:

http://www.wales.ac.uk/en/Scholarships/ScholarshipRecords/AberfanChildrensScholarship.aspx

Neu trwy ebostio: awards@wales.ac.uk 

Diwedd

Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ymwelwch â'r wefan: www.cymru.ac.uk

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau