Wedi ei bostio ar 27 Gorffennaf 2010

(h) Athrofa Prifysgol Cymru
Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC) yn arwain y ffordd pan ddaw hi’n fater o greu cyfleoedd amgen o fewn Addysg Uwch, yn ôl ffigyrau a ryddhawyd heddiw.
Mae ffigyrau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) yn dangos bod APCC yn perfformio’n arbennig o dda mewn cyrsiau nad ydynt yn arwain at raddau, megis HNDau, HNCau a’r graddau Sylfaen, gyda 96.5 y cant o fyfyrwyr llawn amser a 100 y cant o fyfyrwyr rhan amser yn cael eu cyflogi neu’n parhau i astudio o fewn chwe mis i raddio.
Mae hyn yn well na’r targed a roddwyd iddi gan y llywodraeth ar gyfer llwyddiant ei graddedigion dros y flwyddyn 2008/09, ac mae ymhell uwchlaw’r cyfartaledd yn y maes hwn yng Nghymru a’r DU.
Dangosa’r adroddiad hefyd bod bron i 90 y cant o fyfyrwyr ar raddau cyntaf llawn amser a ddilyswyd gan Brifysgol Cymru yn cael eu cyflogi neu’n parhau i astudio o fewn chwe mis i raddio.
Dywedodd Alyson Twyman, Rheolwr Gwasanaethau Datblygu Gyrfa APCC:
"Tystia’r ffigyrau i’r ffaith bod myfyrwyr gradd llawn amser APCC yn dal eu tir yn y dirwasgiad, gan berfformio yn union fel y cyfartaledd drwy’r DU, tra bo llwybrau amgen a gynigir, cymwysterau eraill ac astudiaethau rhan amser, yn gwbl gytnaws â gofynion y farchnad gyflogaeth.”
Mae Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd yn ran o Gynghrair Prifysgol Cymru.
/Diwedd
Am fwy o wybodaeth am Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ewch i: www.uwic.co.uk/
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
/Diwedd