Cymynrodd Ellen Thomas Stanford

Wedi ei bostio ar 22 Tachwedd 2010
pompei

Pompei

Fel sefydliad cenedlaethol pwysig, mae Prifysgol Cymru yn gwbl ymrwymedig i roi sylfaen i fywyd Cymru a chefnogi ei diwylliant, ei hamgylchedd a’i heconomi. Caiff hyn ei gyflawni’n rhannol gan y buddsoddiad y mae’r Brifysgol yn ei wneud wrth gefnogi myfyrwyr o bob rhan o’r byd i gyflawni eu gorau drwy eu profiad yn y brifysgol. Bob blwyddyn mae'r Brifysgol yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau, gwobrau ac efrydiaethau i unigolion o ansawdd academaidd haeddiannol neu o gefndir difreintiedig.

Un dyfarniad o’r fath a gynigir gan y Brifysgol yw Cymynrodd Ellen Thomas-Stanford, sy’n cyflwyno cyllid i fyfyrwyr anrhydedd dethol sy’n dymuno ymgymryd â chwrs pellach yn y Clasuron, Groeg neu Ladin mewn prifysgol gymeradwy. Bydd ysgolheigion eraill a ddewisir ar gyfer y wobr hon yn derbyn cyllid ar gyfer taith dramor yn gysylltiedig ag astudio’r clasuron; byddai hyn yn cynnwys ymweld ag amgueddfeydd a safleoedd archeolegol perthnasol i’w rhaglen astudio.

Isod ceir adroddiad gan Cheryl Heart, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o garfan o fyfyrwyr sydd wedi derbyn Cymynrodd Ellen Thomas-Stanford eleni. Mae’n adrodd hanes ei thaith drwy’r Eidal, oedd yn bosibl oherwydd y dyfarniad a wnaed iddi:


TAITH I DDINASOEDD TURIN, RHUFAIN A POMPEII
Cheryl Hart (Prifysgol Abertawe)


Fe es ar daith i’r Eidal i gynorthwyo fy ymchwil yn ystod egwyl y Pasg o’r Brifysgol.

Y lle cyntaf i mi deithio iddo oedd dinas Turin lle treuliais i bedwar diwrnod. Y prif reswm dros ddewis Turin oedd er mwyn ymweld â’r Amgueddfa Eifftaidd. Roeddwn i wedi ymweld â’r amgueddfa rai blynyddoedd yn ôl ond ers hynny mae wedi’i hailwampio ac mae llawer o'r arteffactau wedi'u hailosod, yn enwedig yr oriel cerfluniau enfawr sydd bellach yn drawiadol tu hwnt. Mae'n oriel fawr iawn ac er mai golau pŵl sydd yno, mae'n cynnig dull arloesol o edrych ar y cerfluniau gan fod drychau maint llawn ar bob wal drwy'r ardal gyfan. Mae hyn yn galluogi i chi weld pob ochr o’r gweithiau ac mae hefyd yn ei wneud yn eithaf hawdd darllen arysgrifau, hyd yn oed os ydynt yn uchel ar y cerflun, oherwydd mae modd eu gweld ychydig yn bellach i ffwrdd.

Mae fy niddordeb penodol mewn Eifftoleg yn gorwedd yn y cyfnod cyn-Freninlinol ac mae nifer dda o arteffactau'r cyfnod yn amgueddfa Turin. Roedd modd i mi wneud trefniant gyda’r curadur, yr wyf yn ei adnabod, i weld rhai o’r arteffactau o’r storfeydd. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn yn ystod y flwyddyn nesaf wrth ymchwilio i fy nhraethawd hir. Mae gan yr orielau arddangos ddetholiad o grochenwaith cyn-Freninlinol, ffigurynnau ffrwythlondeb tybiedig, paletau cosmetig a chladdfa cyn-Freninlinol.

Yn y Museo Egizio gwelir y casgliad Schiaparelli a ddechreuwyd ddiwedd y 19eg ganrif. Yn fwy diweddar (1960au) roedd yr amgueddfa yn ddigon ffodus i gaffael teml a achubwyd cyn boddi Llyn Nasser pan adeiladwyd Argae Aswan. Mae’r amgueddfa hefyd yn gartref i Feddrod Kha ond yn anffodus ar yr ymweliad hwn roedd ar gau.

Llwyddais i amseru fy ymweliad â Turin i gyd-fynd ag Arddangosfa Amdo Turin. Er nad oedd yn gysylltiedig â fy astudiaethau’n uniongyrchol, mae’n arteffact hanesyddol y bu gennyf ddiddordeb ynddo ers blynyddoedd, ar ôl treulio amser hir yn ymchwilio i’r amrywiol ddadansoddiadau a thrafodaethau ynglŷn â’i ddilysrwydd. Dim ond tua unwaith pob deng mlynedd y caiff ei arddangos ac roedd yn brofiad emosiynol iawn cael ei weld. Mae'n rhywbeth nad wyf i'n debygol o'i anghofio.

Un fantais o fod wedi aros mewn ciw yng ngerddi’r Palas Brenhinol i weld arddangosfa’r Amdo oedd i mi ddod yn ymwybodol o amgueddfa yng ngerddi ac adeiladau'r palas oedd yn cynnwys casgliad o greiriau Groegaidd a Rhufeinig nad oeddwn i'n gwybod amdanynt cyn hyn. Ymwelais â'r amgueddfa hon y diwrnod canlynol, gan dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd yno gan fod y casgliad mor helaeth. Roedd diddordeb penodol gennyf mewn arddangosfa eang o froetsus a chlasbiau Rhufeinig, ac rwyf i’n gobeithio dychwelyd i’r amgueddfa hon ryw dro i gyfarfod â'r curadur i drafod rhai pwyntiau o ddiddordeb a gweld y casgliad yn fanylach.
Treuliais i ddau ddiwrnod llawn yn yr Amgueddfa Eifftaidd ac un diwrnod llawn yn yr Amgueddfa Creiriau Groegaidd a Rhufeinig.

Wedi hyn, fe deithiais i ar y trên i Rufain ond dim ond deuddydd a hanner oedd gennyf i’w treulio yno, gan fy mod am roi mwy o amser i ddinas Pompeii, felly roedd hi’n rhuthr braidd i weld y prif safleoedd i gyd. Fodd bynnag roeddwn i unwaith eto’n lwcus o ran fy amseru oherwydd roedd rhai o’r safleoedd diddorol llai o faint oedd wedi cael eu cau newydd ailagor cyn fy ymweliad. Yr anfantais yn hyn o beth oedd bod llawer o ymwelwyr eraill am eu gweld nhw hefyd. Wrth gwrs fe dreuliais i beth amser yn crwydro’r Colisewm. Gan fy mod i ar y pryd yn astudio modiwl ar Chwaraeon yn y Byd Hynafol roedd yn berthnasol iawn cael gweld y safle hwn yn fanwl. Yn gysylltiedig â hyn fe ymwelais i hefyd â safle’r Syrcas.

Treuliais i tua hanner diwrnod - y cyfan y gallwn ei sbario - yn amgueddfa’r Fatican sydd â chasgliad da iawn o gerfluniau Rhufeinig hynafol. Hefyd fe ymwelais i â rhai o feddrodau neu feddgorau’r ymerawdwyr.

Rhan nesaf, a rhan olaf fy nhaith oedd Pompeii. Roeddwn i wedi bod yn ymchwilio i agweddau o’r safle hwn ar gyfer modiwl prifysgol ac roedd gweld yr adeiladau eu hunain yn fy helpu i ddeall mwy am yr amgylchedd yn y dref cyn ffrwydrad 789AD. Yn sgil yr ymchwil penodol hwn roeddwn i wedi creu cyswllt â thîm o gloddwyr oedd yn gweithio ar y pryd yn y ddinas a chyn teithio i’r Eidal roeddwn i wedi trefnu i gyfarfod â Chyfarwyddwr y cloddio i drafod rhai o’r cwestiynau oedd gennyf i am y safle. Roeddwn i’n hynod o ffodus yn hyn o beth oherwydd flwyddyn neu ddwy yn ôl roeddwn i’n ymwneud llawer â chloddfeydd Rhufeinig yn Ne Cymru drwy Brifysgol Caerdydd a chefais fy nghyflwyno i Gyfarwyddwr Pompeii gan fy narlithydd blaenorol. Oherwydd y profiad cloddio roeddwn i wedi’i gael cefais wahoddiad i helpu am ychydig ddyddiau yn ninas Pompeii ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i wneud hynny. Er fy mod wedi ymchwilio cryn dipyn ar gyfer fy aseiniad modiwl roedd hwnnw’n faes penodol iawn, a than i mi gyrraedd Pompeii doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor enfawr yw’r safle. Roedd un o’r cloddwyr yn gymorth arbennig gan fy arwain yn bersonol o gwmpas y dref i ddangos pwyntiau penodol o ddiddordeb, a hefyd esbonio’r gwaith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y tymhorau nesaf. Treuliais i beth amser hefyd yn amgueddfeydd dinas Naples lle mae llawer o’r arteffactau a ganfuwyd ger Pompeii yn cael eu harddangos.

Mae Pompeii yn safle y byddwn yn bendant yn gobeithio dychwelyd iddo, yn enwedig gan y byddaf mae’n debyg yn ymgorffori peth o’r ymchwil rwyf i eisoes wedi’i wneud ar y safle yn fy astudiaethau ôl-raddedig.

I orffen, hoffwn ddiolch i chi am ganiatáu i mi dreulio’r amser hwn yn teithio i’r safleoedd hyn drwy ddyfarnu’r grant teithio i mi. Gallaf eich sicrhau iddo fod yn fuddiol tu hwnt i fy astudiaethau fel y gwelir o’r marciau a gefais i yn y modiwlau perthnasol.


/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau Prifysgol Cymru:
http://www.wales.ac.uk/cy/Scholarships/ScholarshipRecords.aspx
neu e-bostiwch awards@cymru.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau