Wedi ei bostio ar 20 Medi 2011
Bydd pedwar myfyriwr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yn cael cyfle i ehangu eu gorwelion diolch i Ysgoloriaeth Deithio Prifysgol Cymru.
Bydd Arran Ewin, Katherine Jones, Matthew Smith a Lee Marable - pob un ohonynt yn astudio am Fagloriaeth mewn Pensaernïaeth (B. Arch) - yn derbyn £2500 yr un o Ysgoloriaeth Deithio Goffa T Alwyn Lloyd Prifysgol Cymru.
Nod y dyfarniadau yw galluogi deiliaid yr ysgoloriaeth i barhau i astudio Pensaernïaeth trwy deithio. Yn y gorffennol mae enillwyr yr ysgoloriaeth wedi mynd mor bell â Tsieina i fodloni eu harchwaeth am bensaernïaeth ryngwladol.
Un o amodau’r ysgoloriaeth yw bod yn rhaid i’r rhai sy’n ei derbyn ysgrifennu adroddiad ar eu taith ar ddychwelyd adref, a bydd gofyn iddynt ei gyflwyno mewn digwyddiad swyddogol wedi ei drefnu gan y Brifysgol.
/Gorffen
Nodiadau i Olygyddion:
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ysgoloriaethau Prifysgol Cymru, cliciwch yma
Am ragor o wybodaeth ynglyn â Phrifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk