Dirprwy Is-Ganghellor newydd i Brifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 21 Ebrill 2010
KateSullivan2

Kate Sullivan

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru gyhoeddi penodi’r Athro Kate Sullivan, a fydd yn ymgymryd â rôl Dirprwy Is-Ganghellor dros Ansawdd. Bydd Kate yn arwain pob agwedd o waith y Brifysgol ar ansawdd a safonau ei dyfarniadau.

Yn wreiddiol hyfforddodd Kate, sy’n hanu o Ogledd Iwerddon, i fod yn nyrs ond symudodd draw at addysg nyrsio ym 1980, gan godi i fod yn uwch diwtor nyrsio. Ym 1992, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Nyrsio PhD Gogledd Iwerddon y DHSS i Kate. Hanner ffordd drwy ei doethuriaeth, penodwyd Kate i swydd Darlithydd mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Ulster cyn cwblhau ei hastudiaethau yno ym 1997.

Ar ôl ennill nifer o wobrwyon ac enwebiadau addysgu, erbyn 2001, roedd Kate wedi cyrraedd statws Uwch Ddarlithydd. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda llawer o sefydliadau Americanaidd, gan fenthyg ei harbenigedd i - ymysg eraill - Ysgol Nyrsio Prifysgol Hampton, Virginia a gweithredu fel ymgynghorydd i’r Gyfadran Nyrsio, Prifysgol Cedarville, Ohio.

Mae ei chyflawniadau yr un mor nodedig yn ei chynefin yng Ngogledd Iwerddon ac y maent y tu draw i’r Iwerydd. Mae gan Kate brofiad helaeth mewn gwaith rhyngddisgyblaethol gyda gofal lliniarol - maes astudio sydd â’r amcan o leihau, neu mewn rhai achosion, gwella difrifoldeb symptomau clefydau, megis y sgil-effeithiau sy’n gysylltiedig â chanser. Ymysg y sefydliadau sydd wedi elwa ar gydweithio â hi mae Gofal Canser Marie Curie, Cymorth Canser Macmillan ac Action Cancer.

Yn ogystal â chadeirio grwpiau ymchwil canser a gofal lliniarol, mae hefyd wedi cyhoeddi papurau ymchwil yn ymwneud â’r meysydd hyn. Ymhellach mae wedi arwain datblygiad rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn gofal lliniarol arbenigol mewn menter ar y cyd â Phrifysgol Ulster; Hosbis Gogledd Iwerddon, Prifysgol Glyndŵr a Hosbis Nightingale House Wrecsam.

Symudodd Kate i Gymru yn 2005 i ymgymryd â swydd Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru, cyn cael ei dyrchafu’n Ddirprwy Is-Ganghellor (Sicrhau Ansawdd ac Uchafu) unwaith i’r Athrofa ennill statws Prifysgol fel Prifysgol Glyndŵr. Pan ymddeolodd o Brifysgol Glyndŵr ym mis Ionawr 2010, dyfarnwyd statws Athro Emerita’r Brifysgol i Kate.

Wrth ymgymryd â’i swydd newydd, dywedodd Kate:

‘Rwyf i wrth fy modd yn ymuno â Phrifysgol Cymru ar adeg gyffrous iawn i’r sefydliad. Rwyf i’n hyderus y bydd fy mhrofiad yn caniatáu i mi gyfrannu mewn modd arwyddocaol i bob agwedd o waith y Brifysgol ar ansawdd a safonau. Mae’n debygol y bydd tirwedd prifysgolion Prydain yn newid yn ddramatig dros y blynyddoedd nesaf ac rwyf i’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad i yn sicrhau y bydd y Brifysgol mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny.’

Dywedodd yr Is-Ganghellor Marc Clement:

“Rydym ni wedi bod yn wirioneddol lwcus i sicrhau gwasanaethau Kate Sullivan ar gyfer y swydd allweddol hon. Mae’n dod â’r cyfuniad o drylwyredd, penderfyniad a bywiogrwydd sy’n angenrheidiol i feithrin yr ansawdd uchaf o fewn ein hamgylchedd sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sy’n datblygu drwy’r amser, ac rwyf i wrth fy modd ei bod wedi dewis gweithio gyda Phrifysgol Cymru.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk  02920 376991

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau