Wedi ei bostio ar 26 Medi 2011

Ffoto (chwith i'r dde): Dr Nick Potter (Tiwtor); ennillydd ysgoloriaeth Christine Steward; a David Warner, Is-Ganghellor SMU
Mae Prifysgol Cymru wedi dyfarnu Ysgoloriaeth PhD i fyfyriwr graddedig o Brifysgol Fetropolitan Abertawe i’w helpu i gyllido ei hymchwil unigryw i drin anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD).
Llwyddodd Christine Steward o Abertawe yn wyneb cystadleuaeth chwyrn a hi eleni sy’n derbyn Efrydiaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams Prifysgol Cymru. Bydd y gronfa yn helpu Christine i barhau â’i hymchwil yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe lle bydd yn cychwyn ar PhD.
Canolbwynt ei hymchwil yw datblygu mecanweithiau hunangymorth i ddioddefwyr PTSD gan ddefnyddio technegau llenyddol a geir mewn barddoniaeth. Cafodd Christine y syniad wrth ddadansoddi gwaith y bardd o’r Rhyfel Byd Cyntaf Robert Graves, a ddefnyddiai naratif i greu byd llenyddol a’i helpodd i ymdrin â thrawma erchyllterau bywyd y ffosydd. Drwy archwilio gwaith Graves ymhellach daeth o hyd i ddulliau seicolegol yn ei ysgrifennu a ddefnyddiai i gynnal ei iechyd meddwl o ddydd i ddydd.
Gan ddefnyddio’r un dull a ddefnyddiwyd i ddadansoddi gwaith Graves, mae Christine wedi datblygu system o ddadansoddi llenyddol y gellir ei defnyddio i ganfod dulliau cymorth seicolegol yng ngweithiau llenorion eraill. Bydd ei hymchwil PhD yn ehangu’r syniad o ddefnyddio technegau llenyddol i wrthsefyll PTSD drwy archwilio’r posibilrwydd o greu pecyn ysgrifennu therapiwtig lle gall dioddefwyr trawma geisio harneisio rhai o’r technegau hyn eu hunain.
Wrth siarad am y dyfarniad dywedodd Christine:
“Rwyf i wrth fy modd i gael y cyfle i ddilyn fy mreuddwyd a’r ddamcaniaeth, a gynlluniwyd i helpu dioddefwyr PTSD. Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi fy helpu i roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas Cymru ar ôl cael addysg ragorol gan y wladwriaeth ac yn y brifysgol, yn fy ysgol a’m prifysgol leol.
“Byddwn i’n annog graddedigion lleol eraill, a allai fod â syniadau i helpu twf a datblygiad cymunedol i ymchwilio ac i ymgeisio am ysgoloriaeth fel hon, oherwydd mae llawer o raddedigion talentog o Brifysgol Cymru a allai ddatblygu cysyniadau i helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd.”
Yn ogystal â bod yn fyfyriwr llawn amser, mae Christine hefyd wedi’i hyfforddi fel gwrandäwr gan y Samariaid. Ei nod yw datblygu ei damcaniaeth i greu pecyn cymorth y gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â rhaglenni adsefydlu cymunedol presennol.
Darperir yr ysgoloriaeth o incwm Cronfa Ymddiriedolaeth Llewelyn Williams a godwyd gan gyfeillion y diweddar W Llewelyn Williams KC AS (1867-1922), yn bennaf ym mhroffesiwn y Gyfraith, er cof amdano.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
I gael cymorth cyfrinachol, cysylltwch â llinell gymorth y Samariaid ar 01792 655 999 neu drwy ebost jo@samaritans.org
I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau Prifysgol Cymru ewch i: http://www.wales.ac.uk/cy/Scholarships/Scholarships.aspx
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk