Wedi ei bostio ar 6 Mai 2010
Fe wnaeth Prifysgol Cymru gynnal seremoni wobrwyo a swper arbennig yr wythnos hon i ddathlu campau'r unigolion sydd newydd dderbyn ein Cymrodoriaethau Addysgu cyntaf.
Nod y rhaglen, a ddatblygwyd gan y Brifysgol mewn partneriaeth â grŵp Ansawdd Academaidd y Gynghrair, yw codi proffil dysgu ac addysgu ac annog arferion da yn y Sefydliadau sy’n dyfarnu graddau Prifysgol Cymru, drwy gydnabod a dathlu unigolion sydd yn gwneud cyfraniad eithriadol i brofiad dysgu’r myfyrwyr.
Gellir defnyddio’r dyfarniadau ar gyfer datblygiad personol a/neu broffesiynol o fewn dysgu ac addysgu, gyda’r cyfan yn fras o fewn thema Uchafu a/neu rannu arfer da. Aseswyd y ceisiadau gan banel o arbenigwyr ym maes dysgu ac addysgu.
Cyflwynwyd dystysgrifau arbennig a gwobr ariannol o £5,000 i Jacqueline Young, Cyfarwyddwr yr MSc mewn Therapi Maethol yn y Northern College, (NCA), yng Nghaerefrog; Ruth Matheson, Uwch-ddarlithydd yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC); a Ruth Dineen ac Annie Grove-White, Prif Ddarlithwyr ar y Rhaglen BA Cyfathrebu Graffig yn UWIC.
Croesawodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor y Brifysgol, y Cymrodorion newydd i'r seremoni wobrwyo gyntaf erioed ar gyfer Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Cymru yng nghwmni gŵr gwadd y noson, yr Athro Dennis Gunning, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Wrth gyflwyno'r dyfarniadau i'r Cymrodorion, soniodd yr Athro Gunning am ei falchder yn bod yn ran o'r digwyddiad a drefnwyd gyda'r pwrpas arbennig o gydnabod a dathlu dysgu ar ei orau a phwysigrwydd hybu proffil y cyfraniad ardderchog i brofiad dysgu myfyrwyr gan athrawon a darlithwyr.
Esboniodd yr Athro Nigel Palastanga, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru dros Addysg, Dysgu a Gwelliant, i westeion am gynlluniau'r Cymrodorion ar gyfer eu dyfarniadau.
Bydd Jacqueline Young yn defnyddio’i chymrodoriaeth mewn dwy ffordd: i ystyried datblygu meddylfryd ymchwil ymysg myfyrwyr; ac archwilio arferion gorau o ran addysgu a dysgu sgiliau ôl-fyfyrio i a chynnal a hwyluso dysgu i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu megis dyslecsia, dyspracsia ac ADD.
Mae Ruth Matheson yn bwriadu defnyddio ei Chymrodoriaeth i greu rhwydwaith Dysgu’n Seiliedig ar Broblemau / Dysgu’n Seiliedig ar Ymchwilio ar-lein i Gymru. Byddai hyn yn hybu cydweithio ar draws sefydliadau Cymru a hefyd byddai’n gyfle i arddangos y gorau o Gymru i’r byd. Drwy gyflenwi enghreifftiau o arferion cyfredol fel adnodd agored, gobaith Ruth yw y bydd mwy o staff academaidd yn ystyried y fethodoleg hon fel opsiwn dysgu ac y bydd yn hybu trafodaeth ymysg y gymuned addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth i Ruth Dineen ac Annie Grove-White fel tîm. Byddant yn defnyddio’r Gymrodoriaeth i’w cynorthwyo i sefydlu Canolfan gynaliadwy ar gyfer Addysgeg Greadigol yng Nghymru, sy’n cwmpasu holl Sefydliadau Addysg Uwch Cymru fel cyfranogwyr a chyfranwyr. Mae eu ffocws cychwynnol ar Gelf, y Cyfryngau a Dylunio, a chaiff y Ganolfan ei lansio mewn Cynhadledd ym mis Medi 2010.
/Diwedd
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i'n gwefan: www.cymru.ac.uk/