Wedi ei bostio ar 2 Mehefin 2010

Dr John Walters, Is-Cadeirydd Cyngor y Trindod, Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Trindod, Dr Medwin Hughes, Mrs Tricia Carter, Cadeirydd PC Llanbedr a Dr Brinley Jones, Llywydd PC Llanbedr.
Mae gweledigaeth newydd ar gyfer addysg ôl-16 yn Ne Orllewin Cymru wedi ei ddatguddio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llanerchaeron, Ceredigion.
Y weledigaeth yw sefydlu grŵp addysg rhanbarthol yn cynnwys dwy brifysgol a thri choleg Addysg Bellach yn Ne Orllewin Cymru er mwyn creu strwythur sector ddeuol er mwyn darparu llwybrau addysg ystyrlon, cyfoethogi’r dewis i fyfyrwyr a datblygu darpariaeth addysgol ar y cyd er mwyn ymateb i ofynion cyflogwyr.
Bydd Datganiad o Fwriad yn cael ei gyhoeddi heddiw rhwng Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (i’w greu erbyn 1 Medi drwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod), Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Coleg Sir Benfro, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Dywedodd Dr Medwin Hughes, Darpar Is-Ganhellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, “Wrth fynd i’r afael â’r amrywiol gyfarwyddebau polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r sector addysg uwch yng Nghymru yn wynebu heriau strategol mawr. Mae’r ddogfen bolisi Er Mwyn Ein Dyfodol yn nodi’r angen i ystyried goblygiadau partneriaethau strategol a modelau ad-drefnu newydd. Mae’r cynnig yn adeiladu ar yr ad-drefnu cyfredol o fewn y rhanbarth sydd eisoes wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda chreu Prifysgol newydd i Gymru - Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant”.
Ychwanegodd “Mae’r amser yn briodol i sefydlu isadeiledd addysgol newydd fydd yn trawsnewid y tirwedd addysgol. Mae angen i Gymru fod yn arloesol o ran ei chyfundrefn addysg a’i fframweithiau darparu er mwyn sefydlu grwpiau rhanbarthol a fydd yn gwella darpariaeth economaidd, yn cefnogi cyfalaf cymdeithasol ac yn ysgogi rhagor o lwybrau addysgol ôl-16 rhanbarthol. Trwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau mwy o synergedd yn ein darpariaeth sgiliau ac yn sefydlu partneriaethau strategol llawer cryfach â busnesau, cyflogwyr a darparwyr dysgu yn y gweithle”.
Dywedodd yr Athro David Warner, Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe “Mae’r posibilrwydd o weld Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a yn dod at ei gilydd o fewn isadeiledd addysgol unedig newydd yn seiliedig ar draddodiad hirsefydledig o gydweithio ac o rannu gwerthoedd, cenhadaeth a darpariaeth addysgol gyffredin. Canolbwyntia’r ddwy brifysgol ar genhadaeth ranbarthol glir a chyflwyno darpariaeth uchel ei safon sy’n cyfoethogi dilyniant rhanbarthol.”
Pwrpas y Datganiad o Fwriad rhwng y ddwy brifysgol, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion yw sefydlu cynghrair strategol rhanbarthol newydd ar gyfer addysg ôl-16 o fewn isadeiledd colegol.
Dywedodd Dr Medwin Hughes “Mae’r datganiad o fwriad hwn yn amlinelli’r cyd-destun strategol ar gyfer newid – parhad siwrnai â’r bwriad o drawsnewid addysg ôl-16 yn Ne Orllewin Cymru er mwyn cynnig newid sy’n ymatebol i heriau addysgol, economaid a chymdeithasol y rhanbarth”.
/Diwedd
Manylion pellach:
Dr Medwin Hughes, PC y Drindod Dewi Sant (Eleri Beynon 07968 249 335)
Yr Athro David Warner, Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Tom Cadwalladr 01792 481000)
Glyn Jones, Prifathro Coleg Sir Benfro, 01437 753000
Brian Robinson, Prifathro Coleg Sir Gâr, 01554 748000
Andre Morgan, Prifathro Coleg Ceredigion, 01970 639700
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk