Wedi ei bostio ar 15 Ebrill 2010

Llyn Fyrnwy (h) Freefoto.com
‘Roedd Llyn Fyrnwy yn gefndir ysblennydd i Gynhadledd Flynyddol Sefydliad Mecaneg Lifol an-Newtonaidd Prifysgol Cymru, sef cyfarfod wyddonol flynyddol y Sefydliad, ar ddiwedd mis Mawrth. ‘Roedd yna ugain o siaradwyr yn bresennol oll yn cyflwyno seminarau ar faterion gwyddonol perthnasol. ‘Roedd Cynhadledd eleni yn llwyddiannus iawn gyda chyfleoedd di-ri ar gyfer rhwydweithio a rhannu syniadau.
Creuwyd y sefydliad yn wreiddiol yn 1991 i ganolbwyntio ar weithgareddau ymchwil sefydliadau Cynghrair Prifysgol Cymru gan hybu cydweithrediad a chyfathrebu rhyngddynt. Mae’r sefydliad wedi tyfu’n sylweddol ers hyn ac yn dathlu ei benblwydd yn ugain oed yn 2011.
Prif fantais gwaith aelodau’r sefydliad yw i ddarparu amgylchfyd aml-ddisgybledig er mwyn cyrraedd y sialens o ddefnyddio mecaneg lifol mewn diwydiant. Gallwn olrhain y ddisgyblaeth yn ôl i’r hen Roeg –gyda’r mathemategydd o fri, Archimedes, yn arloeswr ar y pwnc.
Mae’r sefydliad hefyd yn mwynhau cysylltiad clos gyda noddwyr diwydiannol. Er enghraifft, mae TA Instruments wedi cytuno noddi un o giniawau’r sefydliad eleni ac yn cynnig gwobr ar gyfer cystadleuaeth posteri lle bydd yna gyfle i ymgeiswyr arddangos eu gwaith dylunio.
Edrychwn ymlaen nawr at y gynhadledd nesaf a dathliadau’r sefydliad ar gyfer eu penblwydd pwysig yn 2011.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk/
Am wybodaeth am y Sefydliad an-Newtonaidd cysylltwch â’r Athro Peter Townsend, Is-Gadeirydd y sefydliad: P.Townsend@swansea.ac.uk