Wedi ei bostio ar 18 Ebrill 2011

Dr Jo Smedley ac yr Athro Silvia Pulino
Yn dilyn llwyddiant y cynllun arbrofi cychwynnol y llynedd, mae’n bleser gan Brifysgol Cymru gyhoeddi enwau’r rhai sydd i dderbyn Gwobrau Cymrodoriaeth Addysgu 2011.
I gydnabod eu gwasanaeth i ragoriaeth addysgu dyfernir Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Cymru eleni i Dr Jo Smedley o Brifysgol Cymru, Casnewydd a’r Athro Cynorthwyol Silvia Pulino, o Brifysgol John Cabot yn Rhufain.
Mae pob dyfarniad yn werth £5000 a bydd yn galluogi’r Cymrawd i ddilyn prosiect yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â dysgu ac addysgu. Gall canolfannau sy’n cymryd rhan enwebu aelodau staff unigol neu dimoedd o hyd at dri o bobl.
Mae enillydd cyntaf y dyfarniad, Dr Smedley, yn Ddeon Cysylltiol Dysgu ac Addysgu yn Ysgol Fusnes Casnewydd ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Mewn gyrfa ym myd addysg uwch sy’n ymestyn dros 25 mlynedd, mae hi wedi arwain a bod yn rhan o ddatblygiadau tîm mewn nifer sylweddol o brosiectau Dysgu ac Addysgu er mwyn cynyddu a chodi ansawdd profiad myfyrwyr. Bydd yn defnyddio ei harian tuag at ddatblygu prosiectau cefnogi dysgu ar draws rhwydwaith Prifysgol Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’r ail enillydd, Silvia Pulino, yn Athro Cynorthwyol mewn Gweinyddu Busnes ym Mhrifysgol John Cabot ac mae hefyd yn cyd-lynu mewn Canolfan Gwasanaethau Gyrfaol. Mae ganddi radd MA mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Rhydychen a chwblhaodd radd MBA yn yr Harvard Graduate School of Business. Gydag 20 mlynedd o brofiad mewn busnes rhyngwladol, mae wedi teithio’n helaeth a chasglu toreth o fentrau entrepreneuraidd llwyddiannus. Bydd yr arian a dderbyn yn cael ei ddefnyddio tuag at astudio a datblygu cwrs ar-lein rhyngweithiol ar entrepreneuriaeth byd-eang wedi ei anelu at fyfyrwyr di-fusnes.
Bydd y ddau Gymrawd yn derbyn eu gwobr mewn seremoni wobrwyo mis nesaf, a bydd disgwyl iddyn nhw rannu canlyniadau eu hymchwil mewn cynhadledd a gynhelir gan y Brifysgol i hybu lledaenu arfer gorau.
Sefydlwyd y cynllun i hyrwyddo a chynyddu proffil dysgu ac addysgu yn Sefydliadau Cynghrair a Sefydliadau Cydweithredol y Brifysgol trwy gydnabod a dathlu unigolion a wnaeth gyfraniad nodedig i brofiad dysgu myfyrwyr o fewn y sefydliadau hyn.
Mesurir ymgeiswyr â ffon fesur lem i sicrhau mai’r prosiectau mwyaf haeddiannol a gydnabyddir ac a wobrwyir. Rhaid i Gymrodyr arfaethedig ddarparu tystiolaeth o hyrwyddo profiad myfyrwyr, addysgu ysbrydoledig a chefnogi cydweithwyr.
Trwy greu rhwydwaith o Gymrodyr ym maes addysgu a dysgu mewn addysg uwch, gobeithir y daw Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Cymru yn adnodd ar gyfer cydweithwyr sydd am ymhel ag ymchwil bedagogaidd. Yn ogystal â gwella gweithgaredd proffesiynol Cymrodyr, bydd hyn yn cynyddu gwybodaeth y sector ar y thema yma.
Mae maint ac amrywiaeth cymuned myfyrwyr y Brifysgol cymaint, rhaid i ddysgu ac addysgu fod wrth galon ei gweithgaredd. Nid yw ond yn iawn a chymwys bod y Brifysgol yn gwobrwyo ymarfer da yn y maes hwn ac yn ymdrechu i sicrhau bod hyn yn cael ei rannu ar draws ei rhwydwaith a thu hwnt.
/Diwedd
Am fanylion pellach am Gymrodoriaethau Addysgu Prifysgol Cymru:
http://www.cymru.ac.uk/Resources/Documents/Academic/Scholarships/TeachingFellowships/GuidelinesforTeachingFellowshipApplication.pdf Am wybodaeth bellach am Brifysgol Cymru, ewch at:
www.cymru.ac.uk Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t
.barrett@cymru.ac.uk