Ymholiadau

Cyn cysylltu â ni, darllenwch y cwestiynau cyffredin isod i weld a ellir ateb eich ymholiad yma:

FAQsRSS FeedAtom Feed

Ateb:

Mae’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â theitheb. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

Ateb:

Mae Prifysgol Cymru’n gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd – defnyddiwch yr adnodd Chwilio am Gwrs i weld os oes cwrs ar gael yn eich gwlad chi.

Mae cynlluniau astudio a restrir yma yn cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru, ond cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r ganolfan gydweithredol am wybodaeth ynglŷn â dyddiadau derbyn myfyrwyr yn y dyfodol.

Ateb:
 Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl sefydliadau y mae’r Brifysgol yn gweithio gyda nhw ar ein gwefan trwy ddefnyddio’r adnodd Chwilio am Sefydliad
Ateb:
Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â datblygiad y broses uno (gweler datganiad i’r wasg -Ymdeimlad o hanes, dechreuad newydd), rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr bryderon neu ymholiadau.  Fel sy’n cael ei ddatgan yn gyson, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i ofalu am ein myfyrwyr a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd.  Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan fyfyrwyr sy’n dal i bryderu am y newidiadau hyn.
Ateb:
Unwaith i ni dderbyn eich manylion cofrestru (yn cynnwys eich cyfeiriad ebost) oddi wrth eich sefydliad, byddwch yn derbyn ebost gennym yn eich croesawu a fydd yn cynnwys eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad ebost) a chyfrinair i ddefnyddio’r Llyfrgell Ar-lein
Ateb:

Mae gan Brifysgol Cymru ddull gweithredu penodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cwyn neu gyflwyno apêl academaidd.

 

Apeliadau gan Fyfyrwyr
Am ragor o wybodaeth ar y dull gweithredu, yn cynnwys meini prawf ac asesiad, neu i gyflwyno apêl cliciwch yma neu cysylltwch â
appeals@cymru.ac.uk

 

Cwynion gan Fyfyrwyr
Fe ddylech geisio datrys unrhyw anawsterau’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad ble bynnag y bo hynny’n bosib.  Os nad yw hynny’n bosib, gellir defnyddio dull gweithredu Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol os ydych yn dymuno cwyno ynglŷn ag agweddau o’ch profiad astudio sydd ddim yn berthnasol i asesiad neu arholiadau
.  Am ragor o wybodaeth cliciwch yma neu cysylltwch â complaints@cymru.ac.uk

Ateb:
Am wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau eich gradd / traethawd hir, cysylltwch â’ch man astudio. Yn anffodus ni all y Brifysgol ddarparu eich canlyniadau trwy gyfrwng ebost nac ar y ffôn.
Ateb:

Gallwch.  Os yw eich tystysgrif wedi ei ddifrodi byddwn yn anfon tystysgrif amnewid am ddim ar dderbyn y gwreiddiol. Codir ffi o £30 i amnewid tystysgrifau coll.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Ateb:
Wedi i’ch canlyniadau terfynol gael eu cadarnhau gan un o Fyrddau Arholi Prifysgol Cymru cânt eu cofnodi ar system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol. Cewch eich derbyn i’ch dyfarniad in absentia ac anfonir eich tystysgrif ac Atodiad Diploma i’r Sefydliad lle buoch yn astudio.
Arddangos 1 I 10 O 10


Os hoffech barhau i wneud ymholiad yna defnyddiwch y blwch isod, gan gyfeirio at yr adran briodol:

In: Ffurflenau