Cyn-fyfyriwr PC ar Gyfnod Preswyl Cerameg yn y V&A

 

Cyhoeddwyd mai’r artist cerameg a chyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Keith Harrison fydd Artist Preswyl Cerameg Amgueddfa’r V&A yn Llundain.

Astudiodd Keith yn Athrofa Addysg Uwch Caerdydd gan sicrhau BA mewn Cerameg 3D a Thystysgrif Athro Celf Ôl-raddedig ac yna aeth yn ei flaen i gwblhau MA mewn Cerameg a Gwydr yn y Coleg Celf Brenhinol (RCA).

Ers graddio o’r RCA yn 2002, bu Keith yn ymwneud â chyfres o arbrofion byw yn seiliedig ar broses sy’n ymchwilio i drawsnewidiad ffisegol uniongyrchol clai o gyflwr amrwd gan ddefnyddio systemau trydan diwydiannol a domestig. Yn ogystal â thanio byw mewn lleoliadau amgen megis ystafell fyw a labordy gwyddonol, mae gweithiau ar raddfa fawr wedi’u gwireddu ar gyfer orielau cyhoeddus ac Amgueddfeydd gan gynnwys y V&A, Jerwood Space, Camden Arts Centre a mima, Middlesbrough. Bu’n Uwch-ddarlithydd rhan amser yn Ysgol Celf a Dylunio Caerfaddon ac yn Ddarlithydd Ymweliadol mewn nifer o Ysgolion Celf yn y DU ac Ewrop.

 Keith-Harrison-M25-Orbital-CROP

M25 Orbital, Keith Harrison, V&A 2006

Mae ei weithiau yn cynnwys 20 Whittington Street (Camden Arts Centre, 2007), Blue Monday/White Label (Landmark, Bergen, 2010), Brother (mima, Middlesbrough, 2009) a Grand (Oriel Barhaol, Brighton, 2008). Gan sicrhau clod eang, mae ei waith wedi derbyn cefnogaeth Cymrodoriaeth Artistiaid Rhyngwladol Gasworks/Cyngor y Celfyddydau yn 2004, Grant gan Arts Council England yn 2006, Dyfarniad Grantiau Bychan AHRC yn i'n 2007, Gwobr Sefydliad Henry Moore yn 2009 a Chomisiwn Agored Jerwood Makers yn 2011.

Wrth sôn am ei ddiddordebau ymchwil yng nghasgliad y V&A a’i gyfnod preswyl, dywedodd Keith:

“Mae gen i ddiddordeb yn y gweithiau clai yng nghasgliadau’r V&A, yn cwmpasu nid yn unig yr Orielau Cerameg arbenigol ond hefyd Cerflunio a Phensaernïaeth.

Dan y thema eang ‘Moderniaeth Eilaidd’ mae gen i ddiddordeb mewn defnyddio’r cyfnod preswyl hwn i edrych ar ffyrdd newydd i archwilio potensial trawsnewidiol clai a thrydan mewn ystyr materol a chymdeithasol ac rwyf i'n rhagweld y bydd y cyfnod yn gyfle i ddatblygu dulliau newydd i ymarfer mewn amgylchedd newydd a symbylol."

Dechreuodd y cyfnod preswyl ddechrau mis Hydref a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2013. Yn ystod y cyfnod bydd Keith yn cynhyrchu nifer o weithiau newydd i’w lleoli a’u gosod o fewn casgliadau parhaol yr Amgueddfa a hefyd datblygu prosiect oddi ar y safle ar ystâd o dai yng Ngogledd Llundain. Bydd y gweithiau’n cynnwys set amrywiol o gyfeiriadau gan gynnwys neidfa mwd BMX, rampiau cadeiriau olwyn, Tectonau Sŵolegol Berthold Lubetkin, ystadau tai ar ôl y rhyfel, generaduron trydan mewn ffeiriau, arsylwi torfol o’r Dosbarthiadau Gwaith a theledu cylch cyfyng.

Keith Harrison, Lucie Rie Vs Grindcore

Lucie Rie Vs Grindcore, Keith Harrison,
V&A 2012

Yn ogystal, bydd Keith yn cynhyrchu sawl Aflonyddwch amser cinio a gyda’r nos mewn amrywiol leoliadau yn yr Amgueddfa yn ystod ei gyfnod preswyl ac yn cynnal Stiwdios Agored rheolaidd.

Bydd y Stiwdios Agored hyn yn gyfle i’r cyhoedd gyfarfod â Keith, ei holi am ei waith a chynnig golwg ddifyr ar y prosesau y mae ymarferwyr creadigol yn eu defnyddio i ddatblygu eu syniadau.

I gael gwybodaeth gyfoes am yr Aflonyddwch a Stiwdios Agored, ewch i wefan y V&A - www.vam.ac.uk/residencies

I ddarllen mwy am Keith Harrison a’i gyfnod preswyl ewch i’w broffil ar wefan y V&A -www.vam.ac.uk/content/people-pages/keith-harrison