Cynhadledd undydd ar yr Anterliwt
Mae Adran Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, ar y cyd â’r Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin, yn cyflwyno cynhadledd undydd ar Yr Anterliwt.
Gyda chefnogaeth Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, cynhelir y gynhadledd yn Neuadd Oakdale, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar Orffennaf 14.
Bydd tri siaradwr gwadd—Dr Rhiannon Ifans, Dr Ffion Mair Jones a Dr Jerry Hunter— sy’n ymddiddori yn fawr yn y cyfrwng, yn cyflwyno papurau ar amryfal weddau ar yr anterliwt, math ar sioe amlgyfrwng a gynigiai hwyl a diddanwch, a dihangfa rhag gorchwylion bywyd caled ac undonog, i Gymry cyffredin y ddeunawfed ganrif.
Yn y sesiwn olaf bydd Dr A Cynfael Lake, ynghyd ag actorion o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, o dan gyfarwyddyd Ms Ceri Elen, yn enghreifftio rhai golygfeydd nodweddiadol yn yr anterliwt ac yn dod â pheth o hwyl a direidi'r dramâu gwerin hyn yn fyw drachefn. Seiliwyd y golygfeydd a gyflwynir ar bump o anterliwtiau Huw Jones o Langwm, un o faledwyr ac anterliwtwyr mwyaf adnabyddus ei oes.
Rhaglen
10.00 Cynnull ac ymgynnull yn Neuadd Oakdale
Coffi (trwy garedigrwydd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan)
10.30 Dr Ffion Mair Jones , Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
'Rwy'n synnu o achos Lloegr, / O ran ei bod hi mor ysgeler': Anterliwt
Huw Jones, Glan Conwy
11.20 Dr Rhiannon Ifans, Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Lodesi Twm o'r Nant
12.10 Cinio
13.10 Dr Jerry Hunter, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor
'Wel, y cwmni gweddus, / Mae arna-i fyd anafus': Hanes y Capten
Ffactor a'r ymrafael rhwng trefn ac anhrefn
14.15 Dr A Cynfael Lake, Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol
Abertawe ynghyd ag actorion o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, o
dan gyfarwyddyd Ms Ceri Elen
'O ran pleser i'r gynulleidfa': cyflwyniad i'r anterliwt
Bydd awr ginio rhwng 12.10 a 1.10. Bydd pawb yn gyfrifol am ei drefniadau bwyd ei hun. Mae caffi a bwyty yn y prif adeilad, a bwyd yn cael ei weini hefyd yn Ystafell De Gwalia sydd gyferbyn â neuadd Oakdale. Codir tâl am barcio yn y maes parcio wrth y fynedfa i’r Amgueddfa.
Gofynnir i bawb sy’n dymuno dod i’r gynhadledd roi gwybod ymlaen llaw i Dr A Cynfael Lake, a hynny erbyn 6 Gorffennaf. Codir tâl cofrestru o £5 ar bawb sy’n dod i’r gynhadledd am y dydd (sieciau yn daladwy i Adran Diwylliant 18–19 ganrif). Ni chodir tâl ar y rhai hynny a fydd yn dod i’r sesiwn olaf a fydd yn dechrau am 2.15. Cysylltwch â a.c.lake@abertawe.ac.uk
Sylwer: Bydd yr holl bapurau yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg