Ceir sesiwn holi ac ateb gyda'r ddau enwebai Indianapolis Prize

Mae’r cadwraethwyr anifeiliaid nodedig Gerardo Ceballos a Carl Jones wedi’u henwebu am Wobr Indianapolis 2012, sef y brif wobr drwy’r byd am gadwraeth anifeiliaid. Mae’r cyn-fyfyrwyr hyn o Brifysgol Cymru ymysg 29 sydd wedi’u henwebu ac a gysegrodd eu bywydau i achub y rhywogaethau sydd mewn perygl ar y Ddaear.

Mae gwaith holl enwebeion Gwobr Indianapolis yn rhychwantu’r byd, gan gynnwys amrywiaeth o rywogaethau a lleoliadau.

Daw Gerardo Ceballos, a raddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, fel yr oedd ar y pryd, â gradd MSc mewn Ecoleg, yn wreiddiol o Toluca, Mecsico, ac fe’i henwebwyd am ei waith yn arwain y byd yn gwerthuso a chynllunio strategaethau cadwraeth. Mae ei ymchwil arloesol wedi arwain at warchod ecosystemau hanfodol ym Mecsico sy’n cysgodi dwsinau o rywogaethau sydd mewn perygl. Yn fwyaf diweddar, cynhaliodd Ceballos yr astudiaeth fwyaf o gathod jagwar drwy’r byd, gyda’r cyfrifiad cyntaf o’i fath mewn unrhyw wlad.

Carl Jones, a gafodd raddau MSc a PhD o Brifysgol Cymru, Abertawe, fel yr oedd ar y pryd, yw cyfarwyddwr gwyddonol Sefydliad Bywyd Gwyllt Mauritius ac mae’n gymrawd cadwraeth rhyngwladol Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell. Mae wedi’i gydnabod am ei gyflawniadau yn dod â rhywogaethau prin oedd ar fin diflannu’n ôl yn gynaliadwy. Mae wedi helpu i adfer pum rhywogaeth adar gan gynnwys cudyll coch Mauritius, y golomen binc a’r barotan atsain.

Bu’r ddau yn ateb cwestiynau am eu gyrfaoedd a’r hyn y mae’r enwebiad hwn yn ei olygu iddynt.

Sut mae eich gradd wedi eich helpu i gyfrannu at eich gyrfa, pa sgiliau ddysgoch chi?

Ceballos: Roedd fy ngraddau Baglor, Athro a Doethuriaeth i gyd yn sail i ddatblygu gyrfa broffesiynol a hynod lwyddiannus. Rhoddon nhw’r cefndir damcaniaethol i mi, ynghyd â’r sgil technegol a’r profiad i ddatblygu fy niddordebau proffesiynol yn gadarn. Rwyf i'n credu y byddai wedi bod yn llythrennol amhosibl i ddod yn wyddonydd ac yn gadwraethwr rhyngwladol adnabyddus heb yr hyfforddiant academaidd priodol.

Roeddwn yn arbennig o hapus yn ystod fy mlynyddoedd ym Mhrifysgol Cymru ar gampws Bangor, lle cefais fy ngradd Athro. Roeddwn i’n ifanc iawn (21) ac yn awyddus i ddysgu cymaint â phosibl. Ecoleg oedd pwnc fy ngradd Athro. Rwy’n cofio’r awyrgylch academaidd gwych, cyfeillgarwch fy nghyd-ddysgwyr, a’r dirwedd braf oedd yn amgylchynu’r brifysgol.

Roedd fy ngraddau’n gymorth i mi ffurfio fy niddordeb mewn datblygu gyrfa wyddonol oedd yn ymwneud â datrys problemau. Dysgais ddamcaniaeth sylfaenol ecoleg, esblygiad, cadwraeth a dulliau gwyddonol. Roedd gennyf i’r arfau, yr wybodaeth a'r sgiliau a ddaeth gyda fy ngraddau, a dilynais fy hoffterau a fy ngreddf!

Jones: Rwyf i bob amser wedi gwybod beth roeddwn i am ei wneud. Roeddwn i am weithio gyda bywyd gwyllt, ymweld ag ardaloedd anghysbell a chyfrannu at gadwraeth y rhywogaethau oedd yn y perygl mwyaf. Ond dyw breuddwydio ddim yn ddigon a sylweddolais fod angen cymwysterau uwch.

Dechreuais fy ngradd Athro yn Abertawe ym 1978 gan astudio strategaethau datblygol mewn tylluanod. Roeddwn i ond wedi cofrestru am gwpwl o fisoedd pan gefais gynnig y swydd i arwain prosiect cadwraeth ym Mauritius. Dyma wireddu fy mreuddwyd a phan gyrhaeddais i Mauritius doedd dim amser i feddwl am dylluanod felly newidiais i deitl fy ymchwil i “Studies on the Biology of the Critically Endangered Birds of Mauritius” gan astudio’r cudyll coch, y golomen binc a’r barotan atsain. O’r astudiaeth hon roedd modd i mi ffurfio nifer o syniadau am y ffordd orau i warchod y rhywogaethau hyn ac yna bûm i’n helpu i osod y sylfaeni ar gyfer gwaith dilynol arnynt. Ar ôl fy ngradd MSc, cofrestrais am radd PhD yn Abertawe ar y Golomen Binc.

I fod yn effeithiol o ran cadwraeth bioleg mae’n well cael gradd athro neu ddoethuriaeth. Roedd sicrhau PhD yn gam mawr i mi a thros nos roeddwn i’n teimlo i mi sicrhau lefel newydd o barch.

Mae meddu ar radd uwch yn dangos eich bod wedi cyrraedd safon o feddwl beirniadol a gwybodaeth, ac yn aml mae gwleidyddion a phenderfynwyr yn rhoi mwy o amser i chi, ac mae gwell gwrandawiad i’ch syniadau chi, sy’n hanfodol os ydych chi am sicrhau canlyniadau fel cadwraethwr.

Beth mae cael eich enwebu am y wobr hon yn ei olygu i chi?

Ceballos: Mae cael fy enwebu am y wobr hon yn anrhydedd i mi, oherwydd mae’n gydnabyddiaeth i fy ngwaith a fy ymroddiad i warchod natur. Mae’r gydnabyddiaeth yn rhoi’r cryfder i mi barhau i weithio’n galed ar faterion cadwraeth ac mae'r enwebiad hefyd yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i ddifrifoldeb argyfwng y rhywogaethau a’r angen i weithredu. Yn olaf, mae’n gydnabyddiaeth i fy mhrifysgol, a ddarparodd y platfform ar gyfer datblygu fy ymchwil a fy mhrosiectau cadwraeth, ac yn anrhydedd i fy ngwlad.

Jones: Mae’r rhywogaethau rwyf i wedi treulio fy ngyrfa yn gweithio gyda nhw yn gymharol isel eu proffil. Felly, pan gefais fy enwebu roeddwn i wrth fy modd oherwydd mae’n beth da cael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym ni wedi’i wneud a hefyd i'r rhywogaethau.

Nid y mega-ffawna yn unig sy’n bwysig; mae’r byd yn llawn bywyd gwyllt rhyfeddol na wyddom lawer amdano ond yn ei ffordd ei hun, mae’r un mor ddiddorol a phwysig yn ecolegol â rhai o’r rhywogaethau mwy adnabyddus.

Fel cadwraethwr fy amcan yw y bydd y rhywogaethau y bûm i’n gweithio â nhw yn parhau â’u hanes esblygol ac yn cyflawni eu swyddogaethau ecolegol ymhell i’r dyfodol. Gobeithio y bydd fy olynwyr yn gallu gweld Cudyll Coch Mauritius yn hedfan fry dros Geunentydd Afon Ddu ym Mauritius ac yn clywed côr y wawr gyda’r Colomennod Pinc yn cŵan a’r parotanau’n sgrechian. Mae cadwraeth rhywogaethau mewn perygl yn hollol gyflawnadwy ac rwyf i’n gobeithio bod gwobrau fel Gwobr Indianapolis yn helpu i argyhoeddi pobl o hyn.

Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr cyfredol sy’n dymuno dilyn ôl eich traed?

Ceballos: Fy nghyngor i yw y dylen nhw gysegru eu bywydau proffesiynol i unrhyw bwnc maen nhw'n angerddol drosto. Dyna, mae’n debyg yw’r peth pwysicaf. Rwyf i’n credu po fwyaf o addysg ffurfiol sydd ganddyn nhw, y gorau. Os ydyn nhw am wneud gradd PhD, dylen nhw ei wneud a pheidio byth â cholli ffydd.

Dylen nhw fod mor greadigol â phosibl, heb ofni methu. Dylen nhw ddeall bod methu yn rhan o’r broses o ddysgu. Dylen nhw weithio’n galed iawn a chanolbwyntio ar bwnc penodol sy’n eu bodloni nhw’n broffesiynol ac sy’n gydnaws â’u bywyd preifat, gan fwynhau pob dydd.

Jones: Fy mentor a fy mos am ran gyntaf fy ngyrfa oedd Gerald Durrell yr awdur, y naturiaethwr a’r perchennog sw. Roedd Gerry o’r farn fod modd i unigolion wneud gwahaniaeth. Mae’n rhaid i ni freuddwydio ac wynebu sialensiau.

Mae llawer eto i’w gyflawni ac mae’r byd yn lle rhyfeddol ond mae angen i ni edrych ar ei ôl. Mae angen i unrhyw fyfyriwr sy'n dymuno gweithio ym maes cadwraeth sicrhau cymwysterau addas ond hefyd mae angen profiad ymarferol o weithio ar brosiectau maes. I fod yn gadwraethwr da rhaid i chi sicrhau sgiliau ymarferol ac academaidd. Breuddwydiwch am nodau cyraeddadwy ac ewch amdani.

Gerardo Ceballos:Ceballos-healdshot

Carl Jones:Carl Jones with echo parakeet