Geiriadur
Prifysgol
Cymru



English version

I waelod y tudalen


Cynnwys
Cefndir
Tudalen sampl
Ystadegau
Cyhoeddiadau
Archebion
>>Staff
Adnoddau i ymchwilwyr
Sut i'n helpu
Llyfryddiaeth
Hanes newidiadau


Cais-e
Cynorthwyydd-e
Slip-e
Holiadur




Chwiliad manylach

Cyhoeddiadau:


Geiriadur Prifysgol Cymru

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar dyfodol Geiriadur Prifysgol Cymru

Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2009

Crynodeb o'r canlyniadau

Daeth grŵp cymysg o ryw 25 o bobl ynghyd ar 4 Gorffennaf i glywed syniadau am ddyfodol cynllun Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC), geiriadur hanesyddol Cymraeg y Brifysgol, ac i drafod nifer o argymhellion a gyflwynwyd gan y Golygydd Rheolaethol (gw. copi o'r cyflwyniad isod). Pwysleisiodd nifer o gyfranwyr bwysigrwydd y Geiriadur fel adnodd cenedlaethol, a'r farn ei bod yn bwysig ei ddiweddaru'n barhaus i gofnodi datblygiadau yn y Gymraeg.

Un o'r prif argymhellion oedd bod angen ychwanegu geirfa newydd ar draws yr wyddor yn ogystal â pharhau i ailolygu'r Geiriadur yn drylwyr. Cymeradwywyd hyn gan y cyfarfod.

Ar y cyfan, ni ddyfynnir ar ôl tua 1803 (Geiriadur Pughe) yn yr Argraffiad Cyntaf. Cytunai pawb y byddai'n ddymunol cynnwys dyfyniadau enghreifftiol ar gyfer pob cyfnod, hyd y dydd hwn, yn hytrach na glynu at arferion yr Argraffiad Cyntaf. Dyfynnir yn helaethach o'r cyfnod diweddar yn B-, ond o C- ymlaen gobeithir y bydd modd gwneud cyfiawnder â'r cyfnod diweddar.

Trafodwyd anfanteision geiriaduron printiedig:

  • bod yn rhaid gweithio'n gyfresol drwy'r wyddor,
  • nad oes modd cywiro gwallau am ddegawdau,
  • bod geiriaduron amlgyfrol yn rhy ddrud i'w prynu ac yn anhylaw,
  • bod anawsterau o ran newid neu ychwanegu croesgyfeiriadau,
  • mai dim ond wrth ailolygu'r gwaith y mae'n bosibl cynnwys geiriau newydd

a manteision geiriaduron electronig/ar lein:

  • bod modd chwilio'r holl destun er mwyn dod o hyd i wybodaeth,
  • bod modd cysylltu â geiriaduron eraill, â chopïau ar lein o'r ffynonellau, &c.,
  • bod modd dewis geiriau i'w hailolygu ar draws yr wyddor,
  • bod modd eu cyhoeddi'n rhad iawn ar lein neu hyd yn oed am ddim,
  • bod modd gadael i'r defnyddiwr ddewis metaiaith (metalanguage) y Geiriadur (iaith fewnol y tarddiadau a'r wybodaeth ramadegol, &c.) - h.y. dewis rhwng Cymraeg a Saesneg (ac efallai ieithoedd eraill megis Sbaeneg), a chefnogwyd y syniad o roi'r gorau i gyhoeddi'r Geiriadur ar ffurf brintiedig o C- ymlaen, a chanolbwyntio ar ddarparu fersiwn llawn ar lein.,

Pwysleisiwyd bod llawer o wallau yn y data o'r ddwy gyfrol gyntaf oherwydd y ffordd y paratowyd y data (drwy eu teipio unwaith yn unig heb gael cyfle i'w prawfddarllen yn drylwyr), ond y teimlad cyffredinol oedd y byddai'n well cyhoeddi'r Geiriadur cyfan ar lein fel y mae, ac awgrymwyd y gellid nodi pa rannau o bob erthygl sydd yn llai dibynadwy fel rhybudd i ymchwilwyr sydd am eu dyfynnu.

Cymeradwywyd bwriad y Geiriadur i gefnogi cais Canolfan Bedwyr i greu corpws cynrychioliadol traddodiadol diweddar (o ffynonellau printiedig yn bennaf) ac i barhau i gefnogi gwaith Yr Athro Kevin Scannell i ddatblygu ei gorpws gwe enfawr (o tua 120,000,000 o eiriau o destun hyd yn hyn) ymhellach. Soniwyd hefyd am y posibilrwydd o gael caniatâd awduron a golygyddion i gynnwys eu gweithiau mewn corpws testunol mawr ar gyfer gwaith y Geiriadur. (Nodwyd hefyd fod sawl casgliad testunol helaeth yn yr arfaeth, e.e. 144 o lyfrau cynnar o'r cyfnod 1546 -1700 drwy gynllun EEBO/TCP, a rhyw 220,000 o dudalennau o gylchgronau Cymraeg o'r 20fed ganrif (a rhan o'r 19eg ganrif) drwy gynllun Cylchgronau Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, heb sôn am y cyfoeth cynyddol o ddeunydd ar y We, yn enwedig drwy gynlluniau digido fel Google Books.

Crybwyllwyd yr adnoddau sain sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa yn Sain Ffagan fel ffynhonnell wybodaeth bwysig, ond derbyniwyd na fyddai'n ymarferol i staff y Geiriadur eu defnyddio heb lawer o waith ychwanegol.

Soniwyd am yr angen i gael cyhoeddwyr ac awduron/golygyddion i gynnig copiau electronig o'u cyhoeddiadau at ddefnydd y Geiriadur. Awgrymwyd y dylid paratoi cytundeb cyfreithiol er mwyn tawelu ofnau (di-sail) cyhoeddwyr y gallant golli eu hawliau dros y gwaith.

Cafwyd peth trafodaeth ar swyddogaeth geiriadur hanesyddol: a ddylid cofnodi ffurfiau llai safonol (e.e. wrth decstio, blogio, &c.) neu a ddylai'r geiriadur fod yn gosod safon. Cydnabyddai'r rhan fwyaf fod yn rhaid i eiriadur hanesyddol fod yn ddisgrifiadol yn bennaf gan gynnal safonau orgraff cydnabyddedig.

Soniwyd am arfer yr OED o ohirio ychwanegu geiriau neu dermau newydd i'r OED nes iddynt ennill eu plwyf dros gyfnod o amser. Teimlad rhai cyfieithwyr oedd ei bod yn bwysig bod bathiadau newydd ar gael yn fuan yn GPC er mwyn lledaenu eu defnydd. Pwysleisiwyd na allai GPC nac unrhyw eiriadur hanesyddol o iaith fyw fod yn hollgynhwysfawr.

Rhybuddiodd rhai pobl na ddylid ceisio gwneud gormod. Er enghraifft, soniwyd am yr angen am ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am enwau Cymraeg ac enwau lleoedd Cymraeg (yng Nghymru a thu hwnt), ond cytunwyd nad Geiriadur Prifysgol Cymru oedd y lle ar gyfer hynny, ond gwaith (neu weithiau) pwrpasol.

Mae staff y Geiriadur yn ddiolchgar iawn i bawb a fynychodd y cyfarfod ac i'r bobl hynny a anfonodd syniadau cyn y cyfarfod. Os hoffech gynnig sylwadau pellach, byddwn yn falch iawn o'u derbyn.

Manylion cysylltu


  Cyflwyniad 2009.pdf  Copi o'r cyflwyniad a roddwyd yn y cyfarfod.
                                        Rhybydd i ddefnyddwyr cysylltiad ffôn - ffeil fawr 10MB.

Lawrlwytho Adobe Acrobat Reader. Mae angenAdobe™ Acrobat Reader i weld y cyflwyniad hyn ac mae ar gael am ddim ar gyfer y rhan fwyaf o systemau.
Bydd angen instalio Acrobat Reader drwy glicio ar y ddolen gyswllt uchod oni bai bod Acrobat Reader ar eich system yn barod.

Tudalen cartref / cynnwys
1921-2009

Cynnwys

I frig y tudalen

English version

I'r tudalen nesaf
Prif. Cymru/Univ. of Wales


Rhodder gwybod i geiriadur@aber.ac.uk os ceir trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn.
Diweddarwyd: 2 Medi 2009. © Hawlfraint Prifysgol Cymru, 1997-2009

Cynnwys | Cefndir | Enghraifft | Gwaith mewn llaw | Ffigurau | Cyhoeddiadau | Archebion | Staff | Adnoddau i ymchwilwyr | Sut i'n helpu | Cais-e | Cynorthwyydd-e | Slip-e | Holiadur | Llyfryddiaeth | Hanes newidiadau | Brig | Nesaf | English