Geiriadur
Prifysgol
Cymru



English version

I waelod y tudalen

Cynnwys
Cefndir
Tudalen sampl
Ystadegau
Cyhoeddiadau
Archebion
Staff
Adnoddau i ymchwilwyr
Sut i'n helpu
Llyfryddiaeth
Hanes newidiadau

Cais-e

Cynorthwyydd-e
Slip-e
Holiadur



Chwiliad manylach

Cyfarwyddiadau i ddarllenwyr

D.S. Cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi slipiau ysgrifenedig yw'r rhain: os ydych am baratoi slipiau electronig drwy bost-e, gweler slip-e.

Dyma enghraifft o slip:


   glas                                           1764




        A'i hecco yn ehedeg trwy'r awyr denau lâs.




                     W. Williams: Th 49

1. Coder unrhyw eiriau, idiomau, ymadroddion etc., sy'n anghyfarwydd neu'n ddieithr i chi, neu eiriau cyfarwydd a ddefnyddir mewn cyd-destun anarferol etc. H.y. coder unrhyw beth a dybiwch chi sy'n werth ei nodi.

2. Nid oes eisiau codi enwau lleoedd nac enwau personol.

3. Noder y gair yn ei ffurf unigol. Os yw'r gair yn lluosog yn y dyfyniad, rhodder y ffurf unigol ar gornel chwith uchaf y slip.

  e.e.  Rhoais iddi rhyw swyddau
        Rhugl foliant o'r meddiant mau.
                                          (coder o dan swydd)

4. Wrth godi berf, rhodder y person cyntaf presennol a'r berfenw ar gornel chwith uchaf y slip.

  e.e.  Gweddïais, nid gwedd eofn, /
        Dan gêl, megis dyn ag ofn.
                              (coder o dan gweddïaf: gweddïo)

5. Wrth godi ansoddair, rhodder y ffurf gysefin bob tro.

  e.e.  Ni welais y môr erioed yn lasach
                                           (coder o dan glas)

6. Coder ymadroddion, dywediadau etc. o dan yr elfen gyntaf.

  e.e.  Penderfynodd John roi pen ar y mwdwl am
        ddeg o'r gloch, ac aeth adref o'r swyddfa
       (coder fel hyn: rhoddaf: rhoddi - rhoi pen ar y mwdwl)

7. Wrth ysgrifennu'r dyfyniad ar y slip, tanlineller y gair dan sylw bob tro.

8. Y mae croeso i chi ychwanegu unrhyw wybodaeth neu sylw ar slip. Rhowch gylch am unrhyw ychwanegiad o'r fath.

D.S. Defnyddiwch y botwm 'back' i fynd yn ôl i'r tudalen gwreiddiol.

Tudalen cartref / cynnwys

 
Cynnwys I frig y tudalen English version
Prifysgol Cymru / University of Wales 

Rhodder gwybod i geiriadur@aber.ac.uk os ceir trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn.
Diweddarwyd: 26 Ebrill 2000. © Hawlfraint Prifysgol Cymru, 1997-2000.
Cynnwys | Cefndir | Enghraifft | Gwaith mewn llaw | Ffigurau | Cyhoeddiadau | Archebion | Staff | Adnoddau i ymchwilwyr | Sut i'n helpu | Cais-e | Cynorthwyydd-e | Slip-eHoliadur | Llyfryddiaeth | Hanes newidiadau | Brig | English