Geiriadur
Prifysgol
Cymru



English version
I waelod y tudalen.


Cynnwys
Cefndir
Tudalen sampl
Ystadegau
Cyhoeddiadau
Archebion
Staff
Adnoddau i ymchwilwyr
Sut i'n helpu
Llyfryddiaeth
Hanes newidiadau


Ffurflenni



Chwiliad manylach

Cynnig arbennig! - HANNER PRIS!

AIL ARGRAFFIAD DWYWAITH Y MAINT!

Os colloch chi'r cyfle i danysgrifio i Ail Argraffiad y Geiriadur, peidiwch â phoeni, 'dyw hi ddim yn rhy hwyr. Gallwch gael y chwe rhan sydd wedi'u cyhoeddi'n barod am hanner y pris arferol!

Cyhoeddwyd rhannau cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru dros hanner canrif yn ôl. Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg yn y cyfamser ym myd llenyddiaeth a'r cyfryngau, ac yn enwedig mewn addysg a gweinyddiaeth. Ar yr un pryd mae ysgolheictod y Gymraeg wedi datblygu'n fawr a chyhoeddwyd llu o olygiadau pwysig fel Gwaith Dafydd ap Gwilym.

Ar hyn o bryd mae staff y Geiriadur yn ailolygu'r rhannau cynharaf (A-B) yn llwyr, gan ychwanegu geiriau newydd sbon ac ystyron newydd i eiriau sydd eisoes yn bod. Yn y chwe rhan gyntaf ychwanegwyd dros 1,600 o eiriau newydd, dros 300 o gyfuniadau newydd, a thros 22,000 o ddyfyniadau enghreifftiol newydd. Bydd y rhan hon o'r geiriadur yn dyblu o ran maint. Gwaith newydd yw hwn, mewn gwirionedd, nid ail argraffiad syml.

Bydd y rhannau newydd hyn yn amhrisiadwy i bawb sy'n defnyddio'r iaith.

Ar gael drwy'ch siop lyfrau leol, neu o'r llefydd canlynol:

Os dyfynnwch y cyfeirnod hwn (GPC2006 ) wrth danysgrifio i ail argraffiad Geiriadur Prifysgol Cymru fe gewch:

* rannau 1-6 am bris arbennig, £29.95 (50% yn llai)
*
y rhannau sydd i'w cyhoeddi am bris gostyngol, £6.66 yr un (33.3% yn llai)

Gellir cael Rhannau 1-6 a thanysgrifio o hyn ymlaen (gyda cherdyn credyd yn unig*) drwy ddosbarthwyr Gwasg y Brifysgol,  NBN International. Gellir archebu drwy e-bostio orders@nbninternational.com, neu ffacsio 01752 202333, neu ffonio 01752 202301, neu ysgrifennu at: University of Wales Press Orders Dept., NBN International, Estover Road, Plymouth Devon PL6 7PY gan ddyfynnu'r cyfeirnod GPC2006). D.S. Gwell ymatal rhag anfon manylion eich cerdyn credyd drwy e-bost am resymau diogelwch.

Buy Parts 1-6 at Gwales.com Gellir archebu hefyd drwy Gwales.com (Cyngor Llyfrau Cymru): bydd y pecyn a archebir yn cynnwys ffurflen danysgrifio, neu gellwch ei chael yma (ar ffurf ffeil PDF).
(D.S. Os nad yw clicio ar ddolenni 'gwales' yn mynd â chi yn syth i'r eitem, defnyddiwch y botwm 'back' neu 'yn ôl' i ddychwelyd yma, a chliciwch ar y ddolen eto: yr ail dro dylai fynd â chi yn syth i'r eitem.)

Os yw hyn yn anghyfleus, gellirarchebu'n uniongyrchol o Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP (ffôn: 029 2049 6899, ffacs: 029 2049 6108; archebion@gwasg.cymru.ac.uk).

*D.S. Yn anffodus mae'n rhaid talu pob tanysgrifiad drwy awdurdod cerdyn credyd/debyd parhaol (Visa/MasterCard/Delta). Fe gysylltir â chi cyn anfon pob Rhan. (yn ôl). Os nad ydych yn fodlon/gallu talu gyda cherdyn credyd, mae modd gofyn i unryw lyfrwerthwr archebu'r rhannau fel y maent yn ymddangos am £9.99 yr un.

Tudalen cartref / cynnwys

1921-2010

'A Dictionary of words only can answer no important end; for one may be acquainted with all the words in a Language'and yet be an entire stranger to it's genius.' -- John Walters, An English-Welsh dictionary, 1794.

 

 

Dylid cyfeirio pob ymholiad arall at: Y Golygydd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystywth, Ceredigion, SY23 3HH (ffôn: 01970 6 31094, ffacs: 01970 631039; geiriadur@aber.ac.uk neu geiriadur@cymru.ac.uk).

 

 

Cynnwys

 
Prif. Cymru/Univ. of Wales

Rhodder gwybod i geiriadur@cymru.ac.uk os ceir trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn.
Diweddarwyd: 11 Awst 2010  © Hawlfraint Prifysgol Cymru, 1997-2010


Cynnwys | Cefndir | Enghraifft | Gwaith mewn llaw | Ffigurau | Cyhoeddiadau | Archebion | Staff | Adnoddau i ymchwilwyr | Sut i'n helpu | Cais-e | Cynorthwyydd-e | Slip-e | Holiadur | Llyfryddiaeth | Hanes newidiadau | Brig | Nesaf | English