|
Mae staff y Geiriadur wedi bod yn
gweithio’n ddiwyd drwy ddiwedd y llythyren A a dechrau’r
llythyren B. Cyhoeddwyd Rhan 10 ym mis Gorffennaf, sy’n
mynd mor bell â’r gair bil1 ac mae’r cyfan o
Ran 11 wedi ei ddrafftio a’i ragolygu erbyn hyn.
I roi syniad o natur drylwyr y gwaith ailolygu,
mae’n werth sylwi bod y deg rhan gyntaf o’r ail argraffiad yn
cynnwys dros 2,700 o gofnodion newydd sbon, cynnydd o 28%, a bod
nifer y dyfyniadau enghreifftiol wedi tyfu o lai na 28,000 i fwy
nag 68,000, cynnydd o ryw 40,000. Mae llawer mwy o ddyfyniadau
diweddarach wedi eu cynnwys hefyd: 1,785 o’r bedwaredd ganrif ar
bymtheg a 2,276 o’r ugeinfed ganrif ac yn ddiweddarach.
Mireiniwyd y diffiniadau yn sylweddol yn ogystal: maent bellach
dipyn yn fanylach nag yn yr argraffiad cyntaf. Chwyddwyd y
diffiniadau Cymraeg ryw 82% a’r cyfystyron Saesneg ryw 74%.
Er mis
Chwefror 2010 mae Dr Jenny Day wedi bod yn gweithio ar gynllun
peilot i geisio amcangyfrif faint o eiriau newydd y byddai modd
eu hychwanegu ar draws yr wyddor er mwyn gwneud y Geiriadur yn
fwy cyfoes a hefyd i amcangyfrif faint o amser mae hynny’n
debygol o’i gymryd. Bydd hyn o gymorth mawr i’r staff wrth
gynllunio gwaith y dyfodol.
Y bwriad yw
creu adnodd ar y We fydd yn cynnwys holl destun y Geiriadur mewn
ffurf y bydd modd ei chwilio’n rhwydd ac yn hyblyg. Bydd y
gwaith ailolygu trylwyr yn mynd yn ei flaen drwy’r wyddor, ond
hefyd bydd modd ychwanegu geiriau newydd unrhyw le yn y gwaith,
cywiro gwallau a chroesgyfeiriadau, ailddyddio testunau, gwella
tarddiadau, ac yn y blaen, heb orfod aros tan yr argraffiad
llawn nesaf. Hefyd bydd modd blaenoriaethu ailolygu rhai geiriau
pwysig na fyddai fel arall yn cael sylw am flynyddoedd efallai.
Oddi ar i’r
Ganolfan gymryd drosodd gyfrifoldebau’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd,
mae Mrs Glenys Howells wedi rhoi cymorth amhrisiadwy i’r
Geiriadur yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Golygyddol y
Ganolfan. Gwiriodd filoedd lawer o ddyfyniadau i’r gwaith, a
mawr yw ein dyled iddi am ei gwaith trylwyr a manwl gywir.
Hoffem ddymuno ymddeoliad hapus iawn iddi. Pleser yw croesawu
olynydd Glenys, Dr Gwen Gruffudd, sydd eisoes wedi gwneud
cyfraniad sylweddol i waith y Geiriadur.
Pleser hefyd
yw diolch i holl gymwynaswyr y Geiriadur sydd yn rhy niferus i’w
henwi’n unigol, yn eu plith yr Athro Emeritws R. Geraint
Gruffydd, y Golygydd Ymgynghorol, a Mr Gareth Bevan, yr
Ymgynghorydd Golygyddol Mygedol, sydd ill dau wedi rhoi cymorth
a chyngor i’r holl staff, a’r gwirfoddolwyr eraill sy’n darllen
y proflenni ac yn gwasanaethu fel ymgynghorwyr arbenigol. Rhaid
nodi yn arbennig gyfraniadau di-ri Dr Bruce Griffiths. Mae’r
Geiriadur ar ei elw’n sylweddol iawn o’r holl gymwynasau
gwirfoddol hyn a gwerthfawrogir pob cyfraniad a gwelliant a
gynigir.
Yn sgil y
bwriad i ddyfynnu’n llawn o’r ddwy ganrif ddiwethaf o C-
ymlaen, lansiwyd apêl am lyfrau o’r ugeinfed ganrif a’r unfed
ganrif ar hugain. Eisoes derbyniwyd ugeiniau lawer o gyfrolau
i’w hychwanegu at lyfrgell y Geiriadur. Hoffem dderbyn rhagor o
gyfraniadau, boed yn llyfrau, cylchgronau, neu, yn ddelfrydol,
destunau electronig, ond hoffem dderbyn manylion yn unig
amdanynt yn y lle cyntaf oherwydd y lle cyfyngedig sydd gennym
ar eu cyfer ac er mwyn osgoi cael dyblygion.
Traddododd
Andrew Hawke bapur ar ailolygu’r Geiriadur mewn cynhadledd ar
eiriadura hanesyddol yn Rhydychen ym mis Mehefin, a rhoddodd
Sarah Down gyflwyniad ar waith y Geiriadur ym mhabell Prifysgol
Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.
Dechreuwyd o
ddifrif ar y gwaith o gynllunio anghenion system olygu newydd
i’r Geiriadur yn ystod y flwyddyn. Ymwelodd M. Philippe Climent
o gwmni IDM (sydd wedi ei leoli ym Mharis) â staff y Geiriadur
ar 16 Ebrill. Yn ddiweddarach mynychodd Andrew Hawke gynhadledd
ryngwladol eiriadurol Euralex yn Ljouwert (Leeuwarden) yn
Ffrisland yn yr Iseldiroedd ym mis Gorffennaf, yn rhannol er
mwyn cynnal trafodaethau gyda phedwar o’r cwmnïau meddalwedd
pwysicaf yn y maes geiriadurol. Y bwriad yw dewis ac archebu
pedair prif elfen o’r gwaith yn ystod y flwyddyn i ddod: (1) y
system olygu ei hun wedi ei haddasu ar gyfer y prosiect, (2)
trosi holl ddata presennol y Geiriadur ar gyfer y system honno,
(3) darparu rhyngwyneb ar y We i’r Geiriadur electronig, a (4)
darparu system i alluogi’r staff i holi corpora testunol
y Geiriadur (a elwir yn Saesneg yn ‘corpus query system’).
Mae Prifysgol
Cymru wedi dyfarnu nawdd ychwanegol sylweddol i’r Geiriadur i
gynorthwyo’r proses o ddewis a sefydlu’r systemau caledwedd a
meddalwedd newydd ar gyfer y datblygiadau pwysig hyn. Yn fuan
cyflwynir cynllun busnes i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gan
obeithio sicrhau parhad ei gefnogaeth i waith y Geiriadur.
Y flwyddyn
nesaf, felly, gobeithir gorffen y llythyren B a sefydlu’r
systemau cyfrifiadurol angenrheidiol i symud y Geiriadur i’r
unfed ganrif ar hugain. Wedyn bydd modd cychwyn gweithio ar y
Geiriadur ar ei newydd wedd fel adnodd hygyrch i bawb ar y We.
Ar yr un pryd bwriedir dechrau trin y ddwy ganrif ddiwethaf yn
yr un ffordd â’r cyfnodau cynt, gan ddyfynnu’n helaethach o’r
cyfnod cynhyrchiol a phwysig hwnnw. Bydd y blynyddoedd i ddod yn
sicr yn rhai anodd yn ariannol ac o ran llwyth y gwaith y mae
angen ei wneud, ond credwn fod y Geiriadur mewn lle cryf i symud
ymlaen yn hyderus i ddyfodol digidol llewyrchus.
|