Y Bywgraffiadur Cymreig

 

Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am y Bywgraffiadur Cymreig mewn partneriaeth â  Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd cyfrolau gwreiddiol y Bywgraffiadur gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, ac mae’r cwbl bellach ar gael i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim ar wefan y Llyfrgell, http://yba.llgc.org.uk/cy. Y ddau Gyd-Olygydd yw’r Athro Dafydd Johnston a Dr Aled Gruffydd Jones, ac mae Dr Marion Löffler  yn Olygydd Cynorthwyol. Ar hyn o bryd mae’r Ganolfan a’r Llyfrgell, gyda chefnogaeth y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ceisio codi arian i gynnal a datblygu’r adnodd hanfodol hwn.