|
Astudiodd Dr R. Iestyn Daniel Ladin a Groeg i ddechrau ond newidiodd ei ddiddordeb wedyn i’r maes Celtaidd ac yna, yn fwy penodol, i lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol. Ymddiddorodd lawer yn y rhyddiaith ac ef yw golygydd y traethawd ar gyfriniaeth, Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995). Y mae hefyd wedi cyfrannu papur Saesneg ar y gwaith hwn i gyfres Papurau Ymchwil y Ganolfan: A Medieval Welsh Mystical Treatise (Aberystwyth, 1997). Cyhoeddwyd golygiadau ganddo o waith Bleddyn Ddu, Gwilym Ddu o Arfon, Iorwerth Beli, Sypyn Cyfeiliog, Llywelyn ab y Moel, Casnodyn, Dafydd y Coed, Ieuan Llwyd ab y Gargam, Meurig ab Iorwerth, y Prol, y Mab Cryg, Tudur ap Gwyn Hagr, Tudur Ddall, Ieuan ap Rhydderch, Llawdden a Llywelyn ap Gutun yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.|
Y mae golygiad o waith Ieuan Gethin, bardd o Forgannwg a ganai yn y bymthegfed ganrif, ar y gweill ganddo ac fe’i cyhoeddir maes o law. Ers mis Ionawr 2008 y mae Iestyn yn gweithio ar brosiect newydd y Ganolfan sy’n canolbwyntio ar fywyd a gwaith y bardd Guto’r Glyn.|
Dros y blynyddoedd y mae Iestyn hefyd wedi cyhoeddi amryw o erthyglau ar lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, gan gynnwys un yn Saesneg ar amseriad, tarddiad ac awduraeth y chwedlau brodorol yn The Journal of Celtic Studies, iv (2004).
Detholiad o Gyhoeddiadau
Gwaith Llywelyn ap Gutun (Aberystwyth, 2007).
Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006).
‘The Date, Origin, and Authorship of “The Mabinogion” in the light of Ymborth yr Enaid’, Journal of Celtic Studies, 4 (2004), 117–52.
‘Awdl Saith Weddi’r Pader’, yn Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, goln. Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Jenny Rowland (Caerdydd, 2003), tt. 220–36.
Gwaith Dafydd y Coed a Beirdd Eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002).
‘Y Ffynhonnau yng Nghanu’r Cywyddwyr’, Dwned, 7 (2001), 65–81.
Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999).
Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd ‘Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998).
A Medieval Welsh Mystical Treatise (Aberystwyth, 1997).
Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995).
|