Linus Band-Dijkstra BA, MA

Linus Swydd: Myfyriwr Ymchwil 
e-bost: linus.band@cymru.ac.uk   
Ffôn: 01970 631034
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad Post:

Linus Band-Dijkstra,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

 

Astudiodd Linus Band-Dijkstra ar gyfer gradd BA mewn Ieithoedd a Diwylliant Celtaidd ym Mhrifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd. Yn ei draethawd ar gyfer gradd ymchwil MA mewn Astudiaethau Canoloesol, yn yr un brifysgol, bu’n edrych yn fanwl ar ddwy broblem yn seinyddiaeth hanesyddol tafodiaith Ushant, sy’n adlewyrchu ei brif ddiddordeb: seinyddiaeth hanesyddol yr ieithoedd Brythonig (Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg). Mae wedi bod yn fyfyriwr PhD yn y Ganolfan ers mis Chwefror 2013. Ar gyfer ei draethawd doethuriaeth, mae’n edrych ar hanes a defnydd berfau cyfansawdd Brythoneg, dan gyfarwyddyd yr Athro John Koch.