Martin Crampin BA, MA

 

Swydd: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Gwydr Lliw yng Nghymru| 
e-bost: mccaber.ac.uk|
Ffôn:  01970 631035
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad    post:

Martin Crampin,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

   
  

 

MC
 

Martin Crampin

 

Ymunodd Martin Crampin â staff y Ganolfan ym 1999 i weithio gyda Peter Lord ar y gyfres o CD-ROMau a oedd yn rhan o’r prosiect Diwylliant Gweledol Cymru.| Gan adeiladu ar destun y tair cyfrol brintiedig, bu ganddo ran bwysig yn y gwaith o recordio a golygu cyfweliadau, ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am ddarparu ffotograffau ychwanegol ac am y gwaith dylunio.

Ymgartrefodd Martin yn y Ganolfan yn ystod ei gyfnod fel aelod o’r prosiect ymchwil Delweddu’r Beibl yng Nghymru|, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Lleolwyd y prosiect hwnnw ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel artist, ymchwilydd a dylunydd, Martin a oedd yn gyfrifol am greu’r gronfa ddata ar-lein a’r DVD-ROM, a ysgrifennwyd gyda John Morgan-Guy. Yn ogystal â dylunio’r wefan a’r DVD-ROM, a recordio a golygu cyfweliadau, tynnodd luniau rhai cannoedd o weithiau celf ar gyfer y prosiect mewn eglwysi a chasgliadau ledled Cymru. 

Wedi i’r prosiect AHRC hwn ddod i ben bu Martin yn gweithio fel cartograffydd a darlunydd ar y Prosiect Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd|, gan ddychwelyd at ei ddiddordeb yn archaeoleg y cyfnod cyn hanes a’r cyfnod canol, a ddatblygwyd yn ystod ei gwrs MA mewn Astudiaethau Celtaidd-Rhufeinig ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

Ar sail yr ymchwil a wnaed ar gyfer Prosiect Delweddu'r Beibl yng Nghymru, cynlluniodd Martin brosiect newydd a fyddai'n canolbwyntio'n benodol ar wydr lliw yng Nghymru. Yn ystod cyfnod y prosiect hwnnw, 'Gwydr Lliw yng Nghymru' (2009–2011), creodd Martin gannoedd o gofnodion o ffenestri ar gyfer y gronfa ddata ac ychwanegu dros 4,000 o ffotograffau. Lansiwyd ei Gatalog Gwydr Lliw yng Nghymru| ym Mehefin 2011 ac mae hwnnw'n parhau i dyfu.

Yn ogystal â gweithio'n annibynnol fel ffotograffydd a dylunydd mewn sawl cyfrwng, mae Martin wedi arddangos ei waith fel artist ar hyd a lled Cymru ac yn rhyngwladol. Ym mis Tachwedd 2011, daeth yn un o fyfyrwyr PhD cyntaf y ganolfan, gyda chymorth ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru. Bydd yn dod â'r holl brofiad a gafodd ar y prosiectau ymchwil blaenorol ynghyd â'i waith fel artist gweledol at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar ganoloseoldeb yn niwylliant gweledol Cymru.

Gwefan [http://www.martincrampin.co.uk| ]

 

Detholiad o Gyhoeddiadau

 

Gwydr Lliw yng Nghymru, catalog ar-lein (lansiwyd 2011), [http://stainedglass.llgc.org.uk|]

[Biblical Art from Wales; DVD-ROM]                                                             gyda John Morgan-Guy), Imaging the Bible in Wales (basdata ar-lein, lansiwyd 2008) [http://imagingthebible.org/wales|]

‘Biblical Art from Wales: the Mediaeval Influence’, yn Martin O’Kane a John Morgan-Guy (goln.), Biblical Art from Wales (Sheffield, 2010).

(gyda John Morgan-Guy), Imaging the Bible in Wales (DVD-ROM) (Sheffield, 2010).

(gyda John Morgan-Guy), Imaging the Bible in Wales, cronfa ddata ar-lein (lansiwyd yn 2008), http://imagingthebible.llgc.org.uk|

‘Interpreting Welsh Medieval Narratives: Exploring Parallel Traditions and Historical Process through Contemporary Art’, Studi Celtici, III (2004), 295–324.

Cyfraniadau i’r CD-ROMau yng nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru gan Peter Lord (Caerdydd, 2000, 2002, 2004).

‘Arthur y Saeson’, Tu Chwith, 15 (Haf 2001), 112–14