Yr Athro Lorna Hughes MA (Anrhydedd), MPhil

lorna Swydd: Deiliad Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru a Cymrawd Ymchwil Hŷn
e-bost: Lorna.Hughesllgc.org.uk|
Ffôn: 01970 636499
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad Post:

Yr Athro Lorna Hughes,
National Library of Wales,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3BU

Yr Athro Lorna Hughes yw deiliad Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru, swydd sydd wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n Gymrawd Ymchwil Hŷn yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Mae Lorna’n arwain rhaglen ymchwil yn seiliedig ar gasgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol, gyda phwyslais arbennig ar ddeall y defnydd a wneir o adnoddau digidol, eu gwerth a’r dylanwad a gânt ar ymchwil, addysgu ac ar gyswllt â’r cyhoedd. Mae ganddi ddiddordeb neilltuol yn y defnydd a wneir o offer a dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i ddadansoddi casgliadau digidol mawr a hefyd mewn ymchwil gydweithredol rhwng y dyniaethau a’r gwyddorau.

Cyn dechrau ar y swydd hon ym mis Ionawr 2011, bu’n gweithio yng Ngholeg y Brenin, Llundain, yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan e-Ymchwil a chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Cefnogi e-Wyddoniaeth y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Rhwng 2005 a 2008, bu’n Gyfarwyddwr Rhaglen ar Rwydwaith Dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yr AHRC, menter i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o ymchwil ddigidol yn y celfyddydau a’r dyniaethau drwy Brydain. Bu’n gweithio ym maes dyniaethau digidol ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Talaith Arizona, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Glasgow.

Hi yw awdur Digitizing Collections: Strategic Issues for the Information Manager (London: Facet, 2004), golygydd Evaluating & Measuring the Value, Use and Impact of Digital Collections (London: Facet, 2011), a chyd-olygydd The Virtual Representation of the Past (London: Ashgate, 2007). Bu’n Llywydd Cymdeithas Cyfrifiadura yn y Dyniaethau (2002–6), ac yn Ysgrifennydd Cynghrair y Sefydliadau Dyniaethau Digidol. Hi yw golygydd rheoli a chomisiynu cyfres Ashgate, ‘Digital Research in the Arts and Humanities’.

Detholiad o Gyhoeddiadau:

golygydd, Evaluating & Measuring the Value, Use and Impact of Digital Collections (London, 2011).

golygydd, The AHRC ICT Network (London, 2011).

gydag A. Voss, R. Procter, P. Halfpenny, M. Asgari-Targhi ac M. Poschen, ‘Steps Towards Mapping e-Research and Measuring Impact’, Proceedings of the UK e-Science All Hands Meeting (Edinburgh, 2008).

gydag M. Greengrass (goln.), The Virtual Representation of the Past (London, 2007).

gydag S. Dunn ac N. Gold, ‘CHIMERA: A Service-oriented Approach to Archaeological Research’, Proceedings of Computational Applications and Quantitive Methods in Archaeology (Berlin, 2007).

gydag G. Shawver ac M. Zimmerman (goln.), Proceedings of the 2003 Joint International ACH-ALLC Conference: Literary and Linguistic Computing, 20, 2005.

Digitizing Collections: Strategic Issues for the Information Manager (London, 2004).

gyda J. Lavagnino (goln.), Digital Media and Humanities Research: Proceedings of the 2001 Joint International ACH-ALLC Conference: Computers and the Humanities, 37, no. 1, 2003.

‘Multimedia for Contemporary History Studies’, yn The Handbook of Contemporary History, goln. B. Brivati et al. (New York and London, 1997), tt. 57–67.

‘Removing the Structures of Historical Data’, yn History and Computing: The Proceedings of the 1994 Conference of the Association of History and Computing, goln. O. Boonstra et al. (Holland: University of Nijmegen Press, 1996), tt. 273–80.

gydag S. D. Lee, CTI Centre for Textual Studies Resources Guide, 1994 (Oxford, 1994).

gydag S. D. Lee (goln.), CTI Centre for Textual Studies Special Series, Number 1: The Victorian Periodicals Hypertext Project gan Lynette Hunter, et al. (Oxford, 1994).