Helen Watt, MA
|
Swydd:
|
Cynorthwyydd Ymchwil, Gohebiaeth Edward Lhuyd
|
|
e-bost:
|
helenwcymru.ac.uk|
|
|
Ffôn:
|
01970 636543
|
|
Ffacs:
|
01970 639090
|
|
Cyfeiriad post:
|
Miss Helen Watt,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH
|
|
Wedi graddio mewn Ieithoedd Modern (Sbaeneg a Phortiwgaleg) o Goleg Iesu, Rhydychen, ym 1980, enillodd Helen Watt ddiploma mewn Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ym 1992. Ers hynny, bu’n gweithio ar sawl prosiect ymchwil ac archifo, gan ddechrau gyda chronfa ddata o gofnodion maenorol Cymru – prosiect ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol – rhwng 1993 a 1996. Yna, rhwng 1999 a 2009, bu’n gweithio ar wahanol gamau mewn prosiect a gafodd ei reoli gan brifysgolion Caergrawnt, Bangor a Chaerefrog yn eu tro i ymchwilio i gofnodion trethi lleyg ac eglwysig yng Nghymru a Lloegr, c.1200–1700, ac a gedwir yn yr Archifdy Gwladol yn Kew. Hi oedd yn gyfrifol am adrannau o’r gronfa ddata E 179 ar-lein a oedd yn cynnwys cofnodion am y pedair esgobaeth Gymreig a phob un o dair sir ar ddeg Cymru, yn ogystal â sawl sir ac esgobaeth yn Lloegr a rhai ar y ffin. Yn ystod camau Cymreig y prosiect, bu Helen yn astudio cofnodion treth a gedwir mewn casgliadau ar wahân i rai’r Archifdy Gwladol, gan gynnwys y rheini sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bu’n casglu enghreifftiau o enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer eu cynnwys yn y gronfa ddata E 179 ar-lein yn ogystal ag ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd ym Mangor.
Y mae ei gwaith ymchwil wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar Gymru a threthiant, ac y mae’n cynnwys astudiaeth o’r modd y gallai gwrthryfel Owain Glyn Dŵr fod wedi effeithio ar gyllid y Goron mewn trethi yn y siroedd Seisnig ar y ffin â Chymru. Bydd prosiect arall yn y dyfodol yn dadansoddi dwy ddogfen dreth ganoloesol sydd newydd eu darganfod ynglŷn â rhannau o Sir Gaernarfon. Ar wahân i hyn, bu’r cyfnod a dreuliodd Helen yn gweithio yn yr Archifdy Gwladol yn fodd i feithrin ei diddordeb yn y Llynges Frenhinol Brydeinig rhwng 1793 a 1815, a chyd-olygodd erthygl ar derfysg yn y Llynges ym 1797, gan seilio’r gwaith ar adroddiad llygad-dyst a oedd newydd ddod i’r golwg ac a ysgrifennwyd gan gapten un o’r llongau llai a oedd yn gysylltiedig â’r terfysg yn y Nore. Wedi darganfod bod llythyrau gan forwyr cyffredin o flynyddoedd y Chwyldro Ffrengig a rhyfeloedd Napoleon wedi goroesi, y mae hi bellach yn cyd-olygu casgliad o ddeunydd o’r cyfnod hwnnw, gan gynnwys nifer o lythyrau a gyfansoddwyd adeg terfysg 1797 yn benodol.
|
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Welsh Manors and their Records (Aberystwyth, 2000).
Ar y cyd â J. Mackman, ‘Tax Trails Further Explored’, Ancestors, Hydref/Tachwedd 2003, 19–25.
Ar y cyd â J. Mackman, ‘The E 179 (Lay Taxation) Project: The Records and the Database’, Genealogists’ Magazine, 28, rhif 1 (2004), 3–15.
‘Old Welsh Tax Returns/Hen Gofnodion Treth: The Central Government Taxation Records for Wales 1291–1689 Project’, North American Journal of Welsh Studies, 6, rhif 1 (2006), 19–47 (fersiwn estynedig o ddarlith a draddodwyd yng nghynhadledd Cymdeithas Gogledd America Er Astudio Diwylliant a Hanes Cymru [NAASWCH] a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Gorllewin Virginia, Morgantown, UDA, yng Ngorffennaf 2004).
‘ “On account of the frequent attacks and invasions of the Welsh”: The impact of the Glyn Dŵr rebellion on Henry IV's revenue from England’ yn D. Biggs ac G. Dodd (goln.), The Reign of Henry IV: Rebellion and Survival, 1403–1413 (Woodbridge, 2008), tt. 48–81.
‘Was Wales “a joy for greedy or indigent kings”? A re-evaluation of the subsidies granted to Richard II in 1393 in Carmarthenshire and Cardiganshire’ yn P. Brand ac S. Cunningham (goln.), Foundations of Modern Scholarship: Records Edited in Honour of David Crook (York, 2008), tt. 197–213.
Ar y cyd â Rosemary Hayes, ‘The Records of Central Government Taxation in England and Wales: Clerical Taxes, 1173–1664: Introducing a newly-accessible source for the history of the Welsh Medieval Church’ yn nhrafodion ar-lein cynhadledd ‘The Welsh Medieval Church and its Context’ a gynhaliwyd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Tachwedd 2008.
‘Taxation of the Clergy in England and Wales, c.1180–1664: an introduction to the E 179 project and database’ yn nhrafodion cynhadledd ‘Clergy, Church and Society in England and Wales, c.1200–1800’ a gynhaliwyd yn y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, Llundain, Mawrth 2009 (eto i ymddangos, 2010).