Heather Williams MA, MSt, DPhil

Llun o Heather Williams 

Swydd: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Cymru a’r Chwyldro Ffrengig|
e-bost: h.williamscymru.ac.uk|
Ffôn: 01970 636543
Ffacs:  01970 639090
Cyfeiriad post:

Dr Heather Williams, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH


 
 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymunodd Heather Williams â staff y Ganolfan yn 2007 fel Cymrawd Hŷn Pilcher. Ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar brosiect Cymru a’r Chwyldro Ffrengig| , gan ganolbwyntio ar gyfieithu. Y mae hyn yn caniatáu iddi gyfuno ei phrofiad o lenyddiaeth Ffrangeg gydag Astudiaethau Celtaidd. Ar ôl graddio mewn ieithoedd modern (Ffrangeg) o Goleg Santes Hilda, Prifysgol Rhydychen, cwblhaodd ei D.Phil. yno ar Stéphane Mallarmé. Bu’n Gymrawd Ymchwil Iau yn Rhydychen, a bu’n darlithio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgolion Nottingham ac Aberystwyth.

Diddordebau ymchwil

  • Cyfieithu a chyfnewid diwylliannol rhwng Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig. Y mae hi wedi gweithio ar gyfieithu rhwng Ffrangeg a Llydaweg, yn enwedig yn yr 1830au, yr 1960au a’r 1970au.
  • Ecofeirniadaeth, yn enwedig mewn cysylltiad â beirniadaeth ôl-drefedigaethol, ac yng nghyd-destun Llydaw a Chymru o’r cyfnod Rhamantaidd hyd heddiw.
  • Llydaw, y delweddau o Lydaw a geir mewn llenyddiaeth Ffrangeg ei hiaith, boed yn deillio o Lydaw neu o draddodiad llenyddol Ffrainc. Y mae ei chyfrol Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (2007) yn ymdrin â’r bwlch rhwng dwy iaith Llydaw fodern, trwy gyfrwng cyfres o ddarlleniadau manwl o weithiau llenyddol Ffrangeg sy’n cynnig delweddau o Lydaw neu o Lydewdod.
  • Beirniadaeth lenyddol ôl-drefedigaethol yng nghyd-destun gwledydd a rhanbarthau Celtaidd.
  • Barddoniaeth Ffrangeg, yn enwedig gwaith Stéphane Mallarmé. Ceir yn ei chyfrol Mallarmé’s Ideas in Language (2004) gyfres o ddarlleniadau agos o farddoniaeth a gwaith theoretig Mallarmé, sy’n archwilio syniadau’r bardd o fewn cyfyngiadau iaith yn hytrach na’i syniadau am iaith. Dadleuir bod ffordd unigryw Mallarmé o wreiddio syniadau mewn ieithwedd yn ennill lle iddo nid yn unig yn hanes barddoniaeth, ond hefyd yn hanes athroniaeth, a disgẃrs theori.
  • Ysgrifennu taith, yn enwedig mewn cysylltiad ag ôl-drefedigaethedd ac astudiaethau cyfieithu; teithwyr i Lydaw ac i Gymru o’r cyfnod Rhamantaidd ymlaen.

Prosiectau cyfredol

  • Cymru a Llydaw: cyfnewid diwylliannol (Cultural changes and exchanges: Brittany and Wales / Bretagne/pays de Galles : quand les chemins se croisent et se décroisent )
    Dr Heather Williams yw arweinydd y tîm Prydeinig ar y prosiect hwn, a ariennir gan y Cyngor Prydeinig a’r Ministère des Affaires étrangères (Partenariats Hubert Curien), ac sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Centre de Recherche Bretonne et Celtique (CRBC) yn Llydaw. Ceir manylion ein gweithdai yma .
  • Teithwyr i Gymru
    Prosiect ar y cyd  yw hwn gyda Dr Kathryn Jones (Prifysgol Abertawe) a Dr Carol Tully (Prifysgol Bangor). Y mae’r prosiect yn ymwneud â’r cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd/diwylliannau eraill (yn Ewrop yn bennaf) o 1750 hyd heddiw, ac yn enwedig hanes teithiau i Gymru o’r gwledydd hyn. Yr ydym yn gobeithio darganfod patrymau a chyfnodau arwyddocaol o weithgarwch y gellid canolbwyntio arnynt gyda golwg ar sefydlu rhwydwaith ymchwil neu wneud cais am grant ymchwil. Cynhaliwyd gweithdy cychwynnol yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym mis Ebrill 2009.

Cyhoeddiadau

Llyfrau

Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (Oxford: Peter Lang, 2007), 191tt.

Mallarmé’s Ideas in Language (Oxford: Peter Lang, 2004), 175tt.

Barddoniaeth i Bawb? Stéphane Mallarmé ([Aberystwyth]: Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1998), 64tt.

Erthyglau a phenodau mewn llyfrau: 

'Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw', Llên Cymru, 34 (2011), 216-25.

‘Translating Bretonness – colonizing Brittany’, i’w gyhoeddi mewn Festschrift i Rosemary Lloyd.

'"Me zo bet sklav": African Americans and Breton Literature', Comparative American Studies ar ‘The Celts and the African Americas’, 8:2 (2010), 126-39.

‘Between French and Breton: the politics of translation’, Romance Studies, 27:3 (2009), 223–33. [PDF]

‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 3 (2008) [2009], 1–28.

‘Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux’, Y Traethodydd, CLXI (2006), 34–50.

‘Celtomania’, yn Celtic Culture: A Historical Encyclopedia, gol. John T. Koch (5 cyf., Santa Barbara: ABC-CLIO, 2006).

‘Writing to Paris: poets, nobles, and savages in nineteenth-century Brittany’, French Studies, 57 (2003), 475–90.

‘Séparisianisme or internal colonialism’, yn Francophone Postcolonial Studies: A Critical Introduction, goln. Charles Forsdick a David Murphy (London: Arnold, 2003), tt. 102–11.

‘Une sauvagerie très douce’, yn Visions/ Revisions: Essays on Nineteenth-Century French Culture, goln. Nigel Harkness, Paul Rowe, Tim Unwin, Jennifer Yee (Oxford: Peter Lang, 2003), tt. 99–106.

‘Diffinio Llydaw’, Y Traethodydd, CLVII (2002), 197–208.

‘Mallarmé and the language of ideas’, Nineteenth-Century French Studies, 29 (2001), 302–17.

‘Mallarmé’s early correspondence: the language of crisis’, Romance Studies, 19 (2001), 148–59.

‘Dafydd ap Gwilym and the debt to Europe’, Études celtiques, 34 (1998–2000), 185–213.

‘Mallarmé dans la critique littéraire galloise’, Revue d’études françaises, 5 (2000), 109–15.

‘La Pensée corporelle de Mallarmé’, Vives Lettres, 9 (2000), 109–22.

‘Diffinio dwy lenyddiaeth Llydaw’, Tu Chwith, 12 (1999), 51–6.

‘Taliesin, l’Alexandre gallois, le retour de la cynghanedd’, Formules: Revue des littératures à contraintes, 2 (1998), 85–95.

‘Barddoniaeth i bawb o bobl y byd: cabledd?’, Taliesin, 95 (1996), 56–62.

Y mae Heather wedi adolygu llyfrau ar gyfer Barn, Cambrian Medieval Celtic Studies, French Studies, Modern and Contemporary France, New Welsh Review, New Zealand Journal of French Studies, a Nineteenth-Century French Studies.