Ffion Mair Jones MA, PhD

 
Llun o Ffion Mair Jones Swydd: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Teithwyr Chilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i'r Alban 1760-1815
  e-bost: ffion.jones@cymru.ac.uk
  Ffôn:  01970 636543
  Ffacs: 01970 639090
                                                        Cyfeiriad post:

Dr Ffion Mair Jones,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

Y mae Ffion Mair Jones yn aelod o brosiect y ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithiau yng Nghymru a’r Alban (1760–1820)', ac yn canolbwyntio ar ddarganfod a thrawsysgrifio gohebiaeth eang a hynod Thomas Pennant. Rhydd sylw arbennig i’w ohebiaeth Gymreig ynghyd â’r ohebiaeth rhyngddo a’i gyfaill, y casglwr printiau Richard Bull, lle y trafodir ymdrechion y ddau i ddarlunio sawl cyfrol o waith Pennant â phrintiau ac â dyfrlliwiau o waith ei arlunydd preswyl, Moses Griffith. Bydd ffrwyth yr ymchwil hwn yn ymddangos ar wefan y prosiect, curioustravellers.ac.uk.

Bu Ffion hefyd yn gweithio ar brosiect ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, 1740–1918’, lle y bu’n cyd-olygu tair cyfrol o ohebiaeth Iolo,The Correspondence of Iolo Morganwg, ac yn ysgrifennu cyfrol sy'n rhoi sylw i nodiadau ymyl-dalen Iolo mewn llyfrau o'i eiddo ac ar odrau ei lythyrau, ‘The Bard is a Very Singular Character: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture

Yn fwy diweddar, bu’n aelod o brosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’, a chyhoeddodd gyfrol o faledi o'r cyfnod rhwng blynyddoedd cynnar y Chwyldro a diwedd y rhyfeloedd Napoleonaidd, Welsh Ballads of the French Revolution 1793-1815, sawl ysgrif ynghylch y faled, yn ogystal â golygiad o anterliwt o waith Huw Jones, Glan Conwy, yn adrodd hanes y Chwyldro.

Y mae ei diddordebau’n rhychwantu gohebiaethau Cymraeg a Chymreig yn y ddeunawfed ganrif ynghyd â genres poblogaidd y faled a’r anterliwt. Yng nghyswllt y ddau genre olaf, canolbwyntiodd ar ddeunydd hanesyddol sy’n ymdrin â Rhyfeloedd Cartref Prydain yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r Chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig, ac ar ddeunydd cronicl megis hanes y Brenin Llŷr. Yn ogystal â hyn, y mae ganddi ddiddordeb mewn materion ynghlwm wrth lythrennedd yn y ddeunawfed ganrif fel y caiff ei awgrymu gan y baledi Cymraeg.

 

DETHOLIAD O GYHOEDDIADAU

Y Brenin Llŷr a Baledir Rhyfelwraig (Bangor, 2016).

'Iolo Morganwg a Llythyr y 'Colegwyr', Llên Cymru, 37 (2015), 35–44.

Y Chwyldro Ffrengig ar Anterliwt: Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc gan Huw Jones, Glanconwy (Caerdydd, 2014).

‘Y faled ym Meirionnydd yn y ddeunawfed ganrif’, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, XVIII, rhan I (2014), 26–49.

‘Welsh Balladry and Literacy’, yn Street Ballads in Nineteenth-Century Britain, Ireland, and North America: The Interface between Print and Oral Traditions, gol. David Atkinson a Steve Roud (Farnham, 2014), tt. 105–26.

‘“The silly expressions of French revolution…”: the experience of the Dissenting community in south-west Wales, 1797’, yn David Andress (gol.), Experiencing the French Revolution (Oxford, 2013), tt. 245–62.

‘“Gwyr Lloeger aeth benben â’u brodyr eu hunen”: Y Baledwyr Cymraeg a Rhyfel Annibyniaeth America’, Y Traethodydd, 166 (Hydref 2011), 197–225.

‘“To know him is to esteem him”: Ifor Ceri (1776-1829)’, Casgliadau Maldwyn, 99 (2011), 53–82.

‘“A'r Ffeiffs a'r Drums yn Roario”: Y Baledwyr Cymraeg, Y Milisia a’r Gwirfoddolwyr’, Canu Gwerin, 34 (2011), 18–42.

‘Huw Morys and the Civil Wars’, Studia Celtica, XLIV (2010), 165–99.

The Bard is a Very Singular Character: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture (Cardiff, 2010).

golygydd, Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol (Bangor, 2008).

[M]ae r Stori yn wir iw gweled / yn nghronicle y Brutanied’: Dramateiddiadau Cymraeg o’r ffug-hanes Brytanaidd (Aberystwyth, 2008).

Geraint H. Jenkins, Ffion Mair Jones a David Ceri Jones (goln.), The Correspondence of Iolo Morganwg (3 cyf., Cardiff, 2007).