Elizabeth Edwards BA, MA, PhD

  

Swydd:

Cymrawd Ymchwil, Prosiect Cymru a’r Chwyldro Ffrengig|
e-bost: e.edwardscymru.ac.uk|
Ffôn:  01970 636543
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad post:

Elizabeth Edwards,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH



Llun o Liz Edwards

 

 
 

 

 

 

Ymunodd Liz Edwards â staff y Ganolfan ym mis Ionawr 2009 fel Cymrawd Ymchwil ar y prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’| . Ar ôl graddio yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, aeth i Brifysgol Caerefrog, lle y cwblhaodd radd MA a doethuriaeth yn Nghanolfan Astudiaethau’r Ddeunawfed Ganrif. Yn ei thraethawd Ph.D. The Female Spectator: Poetry, Periodicals and Politics, 1744–1787, sy’n cael ei addasu ar hyn o bryd ar gyfer ei gyhoeddi, ceir ymdriniaeth ryngddisgyblaethol ac adolygiadol â maes ysgrifennu merched yn y blynyddoedd rhwng Gwrthryfel y Jacobitiaid a’r Chwyldro Ffrengig, a chanolbwyntir yn bennaf ar ymateb merched i ddigwyddiadau cenedlaethol a gwleidyddol pwysig y cyfnod hwnnw. Ymhlith ei diddordebau ymchwil eraill y mae disgrifiadau llenyddol o Wlad Pwyl yn y cyfnod Rhamantaidd, a barddoniaeth a ffuglen Charlotte Smith. Y mae Liz yn ei hystyried ei hun yn ffodus o gael y cyfle i sianelu ei diddordeb yn yr agweddau ymylol ac anghanonaidd ar lenyddiaeth i gyfeiriad newydd drwy gyfrwng y prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’.

Papurau a draddodwyd yn ddiweddar

 

‘“A Polonese ... wandering in a German forest” (The Banished Man): British writing women and the idea of Poland’, (Trans)National Identities/ Reimagining Communities, Prifysgol Bologna, Mawrth 2008.

‘“The Eyes of the Subject”: Women’s Writing and Politics in the 1770s’, British Society for Eighteenth-Century Studies 37th Annual Conference, Prifysgol Rhydychen, Ionawr 2008.

‘Broken Eminence: Charlotte Smith and the ruins of revolution’, Romanticism and War, Prifysgol Rhydychen, Medi 2007.