Elizabeth Edwards BA, MA, PhD

Cymrawd Ymchwil, Prosiect Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i'r Alban (1760-1820)

LizEdwardse-bost: Elizabeth Edwards
Ffôn: 01970 636543
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad: Elizabeth Edwards,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH

 

Astudiodd Liz Edwards Saesneg ym Mhrifysgol y Drindod, Rhydychen, ac yng Nghanolfan Astudiaethau’r Ddeunawfed Ganrif ym Mhrifysgol Caerefrog, cyn ymuno â’r Ganolfan ym mis Ionawr 2009 fel Cymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Ei diddordebau ymchwil yw llenyddiaeth a diwylliant y ddeunawfed ganrif a’r cyfnod Rhamantaidd, gyda phwyslais arbennig ar ailddarganfyddiadau llenyddol, golygu testunol, dulliau beirniadol archipelagig a hanes llenyddiaeth merched. Detholiad beirniadol o farddoniaeth Saesneg o Gymru yn y cyfnod 1789–1806 oedd ei chyfrol gyntaf, ac ynddi mae’n troi at lawysgrifau, papurau newydd a gweithiau printiedig llai cyfarwydd er mwyn cyflwyno corff newydd o lenyddiaeth o, ac ynglŷn â, Chymru yn y cyfnod Rhamantaidd. Cyhoeddwyd ei hail gyfrol, detholiad o farddoniaeth y bardd dosbarth gweithiol o Fôn, Richard Llwyd (1752–1835), yn rhan o’r gyfres ‘Poetry Recoveries’ gan Trent Editions yn 2016. Mae Liz wrthi’n ysgrifennu llyfr am Gymru a llenyddiaeth merched yn y cyfnod 1789–1830, ac yn golygu detholiad o deithiau yng Nghymru ar gyfer y prosiect ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban (1760–1820)’ dan nawdd yr AHRC. 

Ym mis Medi 2013, cynhaliodd Liz gynhadledd ‘Four Nations Fiction: Women and the Novel, 1780–1830’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd casgliad o erthyglau yn seiliedig ar y gynhadledd fel rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840 yn 2017; gellir ei ddarllen yn rhad ac am ddim yma: http://www.romtext.org.uk/issues/issue-22

Ym mis Ebrill 2016, bu Liz yn cydgyflwyno cyfres o bodlediadau ar lenyddiaeth merched yn y ddeunawfed ganrif i’r New Statesman, dan y teitl ‘The Great Forgetting: Women Writers before Jane Austen’; gellir gwrando arnynt yma: http://www.newstatesman.com/culture/fiction/2016/04/hidden-histories-podcast.

Mae Liz hefyd wedi cyhoeddi erthyglau a phenodau mewn cyfrolau ar y Gothig Cymreig, barddoniaeth y cyfnod Rhamantaidd, canu cenedlaethol a llenyddiaeth daith. Ar hyn o bryd, mae’n cydgyfarwyddo doethuriaeth ar deithwyr o ogledd Lloegr i Gymru ac i’r Alban (1760–1820), a byddai’n croesawu ymholiadau ynglŷn â chyfarwyddo ymchwil yn unrhyw un o’r meysydd y sonnir amdanynt uchod.

 

Detholiad o Gyhoeddiadau:

‘Four nations fiction by women, 1789–1830: introduction’, Four Nations Fiction, rhifyn arbennig o Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840,22 (2017), 11–22, http://www.romtext.org.uk/articles/rt22_n01.

gyda Mary-Ann Constantine, ‘Introduction/Rhagymadrodd’, Teithwyr Chwilfrydig: Symud, Tirlun, Celf / Curious Travellers: Movement, Landscape, Art, catalog i gyd-fynd ag arddangosfa gelf (Aberystwyth, 2017), tt. 3–10.

‘“A galaxy of the blended lights”: the reception of Thomas Pennant’, yn Mary-Ann Constantine a Nigel Leask (goln.), Enlightenment Travel and British Identities: Thomas Pennant’s Tours of Scotland and Wales (London, 2017), tt. 141–60.

‘“Local and contemporary”: reception, community and the poetry of Ann Julia Hatton (‘Ann of Swansea’)’, ‘Welsh Women’s Writing 1536–1914’, rhifyn arbennig o Women’s Writing, gol. Jane Aaron (2017). 

‘Archipelagic Anglesey: coastal contexts for Romantic-period poetry and travel writing’, Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club 2015–16 (2016), 100–13.

(gol. a rhagymadrodd), Richard Llwyd: Beaumaris Bay and Other Poems (Nottingham, 2016), 240 tt. 

‘Footnotes to a Nation: Richard Llwyd’s Beaumaris Bay (1800)’, yn Joanna Fowler ac Allan Ingram (goln.), Voice and Context in Eighteenth-Century Verse: Order in Variety (Basingstoke, 2015), tt. 133–54.

‘“Lonely and voiceless your halls must remain”: Romantic-era national song and Felicia Hemans’s Welsh Melodies (1822)’, Journal for Eighteenth-Century Studies,38: 1 (2015), 83–97.

‘“Place makes a great Difference”: Hester Piozzi’s Welsh independence’, Wales Arts Review, 3:17. 

‘“Je me suis cru l’espace d’un instant dans mon proper pays”: paysage et voyage dans le pays de Galles du dix-huitième siècle’, yn Jean-Yves le Disez a Heather Williams (goln.), Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany (Brest, 2013), tt. 155–72.

‘The voices of war: poetry from Wales, 1794–1804’, yn Mary-Ann Constantine a Dafydd Johnston (goln.), Footsteps of Liberty and Revolt: Essays on Wales and the French Revolution (Cardiff, 2013), tt. 271–90.

(gol. a rhagymadrodd), English-Language Poetry from Wales 1789–1806 (Cardiff, 2013), 328 tt. 

‘Confined to a Living Grave: Welsh Gothic and the French Revolution’, yn Marion Gibson, Garry Tregidga a Shelley Trower (goln.), Mysticism, Myth, and Celtic Nationalism (London, 2012), tt. 87–98.

gyda Mary-Ann Constantine, ‘Bard of Liberty: Iolo Morganwg, Wales and radical song’, yn Michael Brown, John Kirk ac Andrew Noble (goln.), United Islands? The Languages of Resistance (London, 2012), tt. 63–76.

‘Iniquity, terror and survival: Welsh Gothic, 1789–1804’, Journal for Eighteenth-Century Studies, 35: 1 (2012), 119–33.

 

Dolenni Perthnasol