Yr Athro Dafydd Johnston BA, PhD, FLSW
|
|
Swydd:
|
Cyfarwyddwr y Ganolfan
|
|
e-bost:
|
d.r.johnstoncymru.ac.uk|
|
|
Ffôn:
|
01970 636543
|
|
Ffacs:
|
01970 639090
|
|
Cyfeiriad
post:
|
Yr Athro Dafydd Johnston,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH
|
|
Mae’r Athro Dafydd Johnston yn frodor o Swydd Efrog. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan ym mis Hydref 2008. Cyn hynny yr oedd yn Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod, gan gynnwys rhai o awduron Saesneg Cymru. Ef yw golygydd y gyfrol ar yr 20fed ganrif yng nghyfres Guide to Welsh Literature Gwasg Prifysgol Cymru, ac awdur y gyfrol ar lenyddiaeth Cymru yn y gyfres ‘Llyfrau Poced’. Ei faes ymchwil arbennig yw barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus y mae tri golygiad pwysig, Gwaith Iolo Goch (1988), Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995) a Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (1998), yn ogystal â dau gasgliad thematig sydd wedi torri tir newydd, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991) a Galar y Beirdd (1993). Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth gynhwysfawr, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525, cyfrol a fu ar y rhestr fer ar gyfer ‘Llyfr y Flwyddyn’ yr Academi. Yr Athro Johnston oedd arweinydd prosiect ymchwil rhyngadrannol dan nawdd yr AHRC (2001–6) sydd wedi cynhyrchu golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym ar ffurf electronig, http://www.dafyddapgwilym.net/| . Ar hyn o bryd y mae’n gydymchwilydd ar Brosiect Guto’r Glyn| yn y Ganolfan. Mae wedi bod yn gydolygydd Studia Celtica er 2002, a bu’n aelod o Is-Banel Astudiaethau Celtaidd RAE 2008.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Cyd-olygydd (gyda Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras a Sara Elin Roberts), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 2010), xxv + 760tt.
‘Hywel ab Owain Gwynedd a Beirdd yr Uchelwyr’, yn Nerys Ann Jones (gol.), Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (Caerdydd, 2009), tt. 134–51.
‘Semantic Ambiguity in Dafydd ap Gwilym’s “Trafferth mewn Tafarn” ’, Cambrian Medieval Celtic Studies , 56 (2008), 59–74.
‘Cyngan Oll?’ Cynghanedd y Cywyddwyr Cynnar, Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams (Aberystwyth, 2007).
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd, 2005).
‘Early translations of Dafydd ap Gwilym’, yn Alyce von Rothkirch a Daniel Williams (goln.), Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (Cardiff, 2004), tt. 158–72.
‘Dafydd ap Gwilym and Oral Tradition’, Studia Celtica, XXXVII (2003), 143–61.
‘Oral Tradition in Medieval Welsh Poetry: 1100–1600’, Oral Tradition, 18/2 (2003), 192–3.
Cyd-olygydd, gyda Iestyn Daniel, Marged Haycock a Jenny Rowland, Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003).
‘Bywyd marwnad: Gruffudd ab yr Ynad Coch a’r traddodiad llafar’, yn Iestyn Daniel et al. (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, tt. 200–19.
Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998).
Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).
gyda N. G. Costigan a R. Iestyn Daniel, Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).
Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995).
A Pocket Guide: The Literature of Wales (Cardiff, 1994).
The Complete Poems of Idris Davies (Cardiff, 1994).
Galar y Beirdd / Poets’ Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Tafol, 1993).
Iolo Goch: The Poems, Welsh Classics Series (Llandysul, 1993).
Canu Maswedd yr Oesoedd Canol / Medieval Welsh Erotic Poetry (Tafol, 1991).
Blodeugerdd Barddas o’r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (Barddas, 1989).
Iolo Goch (Gwasg Pantycelyn, 1989).
Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988).