Barry Lewis BA, MPhil, PhD
|
Swydd:
|
Cymrawd Ymchwil,
Prosiect Guto’r Glyn
|
|
|
e-bost:
|
barry.lewiscymru.ac.uk|
|
|
Ffôn:
|
01970 636543
|
|
Ffacs:
|
01970 639090
|
|
Cyfeiriad post:
|
Dr Barry Lewis,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH
|
Maes ymchwil Barry Lewis yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Y mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn materion genre a thechneg farddol, yn ogystal â chyd-destun cymdeithasol, deallusol a chrefyddol llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Dau bwnc arall sydd o ddiddordeb mawr iddo yw perthynas llenyddiaeth â’r byd naturiol a dadansoddi gwaith y beirdd Cymraeg o safbwynt rhethreg.
Cafodd Barry ei radd gyntaf mewn Almaeneg a Rwsieg, ond symudodd wedyn i’r maes Celtaidd ac ennill gradd M.Phil. yn Adran Eingl-Saesneg, Norseg a Chelteg Prifysgol Caer-grawnt. Aeth wedyn i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 2004 derbyniodd radd Ph.D. am draethawd ar farddoniaeth grefyddol yn y Gymraeg cyn c.1400. Ymunodd â staff y Ganolfan fel aelod o brosiect Beirdd yr Uchelwyr| yn 2001.
Ei gyfraniad cyntaf i Gyfres Beirdd yr Uchelwyr oedd ei olygiad o gerddi mawl Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, Gogynfardd diweddar o Fôn a ganai yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Dilynwyd y gyfrol honno gan olygiad o ganu crefyddol yr un bardd. Yr oedd Gruffudd yn fardd crefyddol penigamp, ac uchafbwynt y gyfrol yw ei awdl fawl fawreddog i’r Grog o Gaer. Wedi cwblhau ei waith ar Ruffudd ap Maredudd, bu Barry yn cynnull ac yn golygu cerddi gan nifer o gyfoeswyr Gruffudd, yn enwedig y cywyddwr Madog Benfras, a fu’n gyfaill i Ddafydd ap Gwilym ac fel Dafydd yn fardd serch medrus. Cyhoeddwyd y gwaith hwn ym mis Hydref 2007.
Yna, ar y cyd ag Eurig Salisbury ac Ann Parry Owen, bu’n golygu gwaith un o gydnabod Dafydd, sef Gruffudd Gryg, cywyddwr cynnar o Fôn. Canodd Gruffudd nifer o gerddi apelgar iawn, gan gynnwys cywyddau i’r lleuad ac i’r don tra oedd ar bererindod i Santiago de Compostella yn Sbaen, a marwnadau adnabyddus i Ddafydd ap Gwilym. Bydd Gwaith Gruffudd Gryg yn ymddangos yn 2009. Y mae Barry bellach yn gweithio ar brosiect newydd y Ganolfan sy’n canolbwyntio ar fywyd a gwaith Guto’r Glyn| .
Detholiad o Gyhoeddiadau:
‘‘Gwaith Natur a Edmygaf’: Afonydd, Llynnoedd a Ffynhonnau yn Llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol', Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2007 (Aberystwyth, 2008).
‘Bardd Natur yn Darllen Bardd y Ddinas? Dafydd ap Gwilym, "Y Don ar Afon Dyfi" ac Ofydd, Amores, III.6’, Llên Cymru, 31 (2008), 1–22.
Gwaith Madog Benfras a Beirdd Eraill y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (Aberystwyth, 2007).
‘Genre a Dieithrwch yn y Cynfeirdd: Achos “Claf Abercuawg”’, Llenyddiaeth mewn Theori, 2 (2007), 1–33.
‘Llawysgrifau a Barddoniaeth Grefyddol yn y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg’, yn Cof Cenedl XXI: Ysgrifau ar Hanes Cymru, gol. Geraint H. Jenkins (Llandysul, 2006), tt. 31–62.
‘Golwg y Beirdd Canoloesol ar Harddwch Natur’, Dwned, 11 (2005), 35–63.
‘“Llafurfaith a waith a weinyddaf”: Dulliau’r Gogynfeirdd o Agor Cerdd’, Llên Cymru, 28 (2005), 1–25.
Welsh Poetry and English Pilgrimage: Gruffudd ap Maredudd and the Rood of Chester (Aberystwyth, 2005).
Gwaith Gruffudd ap Maredudd, ii: Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005).
Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, i: Canu i Deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003).
‘Trafod Barddoniaeth yn yr Oesoedd Canol: Y Traddodiad Mawl a Chrefydd’, Dwned, 8 (2002), 1–34.
‘Adeiladu Cerdd: Cyfuniadau Geiriol yng Nghanu Crefyddol y Gogynfeirdd’, Llên Cymru, 24 (2001), 35–51.