Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a'r Chwyldro yn Ysgolheictod Cymru Oes Fictoria

Yn y prosiect hwn ymchwilir sut y trosglwyddwyd dysg o Ewrop i Ferthyr Tudful yn y 1840au a 1850au, ac yn enwedig dylanwd nawdd lleol a rôl y dosbarth canol is yn y broses o foderneiddio cymdeithas ac ysgolheictod yng Nghymru.

Thomas-Stephens-2Canolbwynt ein prosiect yw’r hanesydd, ysgolhaig Celtaidd, moderneiddiwr diwylliannol a diwygiwr cymdeithasol Thomas Stephens (1821–75) o Ferthyr Tudful. Nawdd Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer) a’r Arglwyddes Charlotte Guest a’i galluogodd ef i ddatblygu ei ymchwil a chyhoeddi ei waith mawr, Literature of the Kymry (1849). Drwyddynt hwy hefydy daeth i gysylltiad ag ysgolheigion enwog o statws cymdeithasol uchel, megis y Barwn Christian von Bunsen (llysgennad Prwsia i lys y Frenhines Fictoria) a Friedrich Max Müller (Athro Ieithoedd Modern Rhydychen). Cyhoeddwyd Literature of the Kymry dan nawdd y teulu Guest, a thrwy ymateb positif i’r cyhoeddiad galluogwyd Stephens i ohebu â rhagor o ysgolheigion, megis y Vicomte Théodore Hersart de la Villemarqué yn Llydaw, ac Albert Schulz a Karl Meyer yn yr Almaen.

Drwy gydol ei fywyd, gweithiodd Stephens fel moderneiddiwr diwylliannol a diwygiwr cymdeithasol, yn genedlaethol ac yn lleol. Brwydrodd yn ddygn i adnewyddu’r eisteddfod i fod yn sefydliad modern, i safoni orgraff yr iaith Gymraeg ac i hybu addysg plant Cymru. Gyda chymorth y teulu Guest ymgyrchodd tuag at sefydlu llyfrgell gyhoeddus ym Merthyr Tudful. Bu’n flaenllaw yn creu Bwrdd Iechyd a Neuadd Ddirwest yn y dref, ac yn gefn i H. A. Bruce, yr Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful rhwng 1852 a 1868. Trefnai hefyd gronfeydd cymorth, megis yr un ar gyfer gweddwon a phlant y dynion a laddwyd mewn ffrwydriad ym Mhwll 2 Crawshay Gethin ym 1862.

Y mae gweithredoedd a chyraeddiadau Thomas Stephens ar gof a chadw mewn tua 600 o lythyrau, 63 o lawysgrifau a chyfnodolion cyfoes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal ag mewn archifdai ymhellach i ffwrdd yn Lloegr a’r Almaen. Anelwn at gynhyrchu casgliad o’r llythyrau pwysicaf, ac astudiaeth a fydd yn ein galluogi ni i ddeall yn well y cysylltiadau rhwng Ewrop, Cymru a Merthyr Tudful. 

Cyhoeddiadau Perthnasol

Adam Coward, ‘English Anglers, Welsh Salmon and Social Justice: The Politics of Conservation in Mid-Nineteenth Century Wales’, Welsh History Review, 27/4 (2015), 730–54

Marion Löffler (with Hywel Gethin Rhys), ‘Thomas Stephens and the Abergavenny Cymreigyddion: Letters from the Cambrian 1842–3’, National Library of Wales Journal (May 2009) <https://net78.academia.edu/MarionLoeffler>

— ‘Thomas Stephens a Llythyru Cyhoeddus yng Nghymru Oes Fictoria’, Y Traethodydd, CLXV, no. 692 (Ionawr 2010), 35–49

— ‘Failed founder fathers and abandoned sources: Edward Williams, Thomas Stephens and the young J. E. Lloyd’, in Neil Evans and Huw Pryce (eds.), Writing a Small Nation's Past: Wales in Comparative Perspective, 1850-1950 (Farnham: Ashgate, 2013), pp. 67–81 

Trawsysgrifiadau o lythyrau at Thomas Stephens

Ceir yn Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 964E i–ii a 965E i–ii dros 400 o lythyrau a roddwyd i’r llyfrgell ym 1916. Rhwng 2013 a 2016, trawsysgrifiwyd a olygwyd y rhan fwyaf o’r deunydd gan Dr Adam Coward, ac adolygwyd y cyfan, yn enwedig y llythyrau Cymraeg, gan Dr Marion Löffler. Mae’r prosiect yn ddyledus i Dr Ceridwen Lloyd-Morgan am ei chymorth gyda’r llythyrau Ffrangeg. Yn y pedair cyfrol, rhifir y llythyrau o 1 hyd at 385B, gan gadw yn fras at drefn yr wyddor, o’r llythyr cyntaf a ysgrifennwyd gan yr Albanwr Alex Anderson, hyd at rif 385B a anfonwyd at Stephens gan William Wilde, tad Oscar Wilde. Ceir ar ddiwedd 965E ii ddeunydd amrywiol, megis visa, amlenni, beirniadaethau eisteddfodol, ac ambell gerdd. Mae’r trawsysgrifiadau yn dilyn trefn y deunydd yn cyfrolau. Ceir y trawsysgrifiadau nawr ar-lein:

https://archives.library.wales/index.php/letters-534

https://archives.library.wales/index.php/letters-889

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag arweinydd y prosiect  marion.loeffler@cymru.ac.uk