Enwau Lleoedd Sir Amwythig

Enwau Cymraeg Sir Amwythig

 

Fel rhan o brosiect mawr i gwblhau’r gwaith o lunio arolwg Cymdeithas Enwau Lleoedd Lloegr o enwau lleoedd sir Amwythig dan nawdd yr AHRC (dilynwch y ddolen at wefan y prosiect), byddwn yn paratoi astudiaeth o enwau Cymraeg y sir. Byddwn yn neilltuo cyfrol swmpus i gantrefi Clun (yn y de-orllewin) a Chroesoswallt (yn y gogledd-orllewin), lle mae’r iaith Gymraeg wedi cyfrannu’n helaeth at y doponymeg leol. Ceir yma ddwsinau o bentrefi a phentrefannau yn dwyn enwau Cymraeg – lleoedd fel Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd ac Argoed; ac mae cannoedd o dai a chaeau yn dwyn enwau fel Rhyd y Cwm, Pencraig, The Maes a Vron. Nod cyntaf y gyfrol fydd cofnodi sillafiadau hanesyddol holl enwau’r ddwy ardal, o dai a phentrefi i’r clostiroedd lleiaf a choedwigoedd, nentydd a strydoedd. Bydd nifer o’r rhain yn enwau Saesneg, eraill yn Gymraeg, ac eraill wedyn yn dangos y rhyngwynebu, ac weithiau’r cydadweithio, a oedd yn digwydd rhwng yr ieithoedd. Yr ail nod fydd egluro tarddiad ieithyddol, neu ystyr, yr enwau cyn belled ag y bo modd.

Hyd at y fan hon, bydd y gyfrol yn enghraifft ‘safonol’ o arolwg gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Lloegr, heblaw am y deunydd Cymraeg. Ond mewn dau beth arall bydd yn bur anarferol. Yn gyntaf, byddwn yn llunio mynegai elfennau penodol Gymraeg, gan restru nid yn unig eirfa Gymraeg ac enwau personol o Glun a Chroesoswallt, ond hefyd yr holl ddeunydd Cymraeg a geir mewn rhannau eraill o’r sir, gan fod siaradwyr Cymraeg wedi bod yn trigo mewn rhannau eraill o’r gorllewin a’r gogledd, er nad yn yr un niferoedd o reidrwydd. Ac, yn ail, byddwn yn cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o’r holl ddeunydd mewn pennod ragarweiniol a fydd yn olrhain hanes yr iaith Gymraeg yn sir Amwythig (ac mewn siroedd cyfagos) yng ngoleuni’r dystiolaeth helaeth hon, nad ydyw erioed wedi ei hastudio o ddifrif o’r blaen.

Mae tîm y prosiect yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnwys Helen Watt, ymchwilydd archifol profiadol y mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Welsh Manors and their Records (2000) ac, yn fwy diweddar, argraffiad digidol o ohebiaeth Edward Lhwyd, a David Parsons, Dirprwy Gyfarwyddwr Arolwg Enwau Lleoedd Lloegr a chyn-Gyfarwyddwr Sefydliad Enwau Lleoedd Nottingham. Bydd Emily Pennifold, sy’n fyfyrwraig PhD yn y Ganolfan, hefyd yn cyfrannu at y prosiect, a’i thraethawd ar enwau caeau ôl-ganoloesol yn y gororau yn cynnwys astudiaeth achos fanwl o ran helaeth o gantref Croesoswallt. Seilir yr ymchwil ar ddeunydd a adawyd i ni gan Margaret Gelling a’i chyd-weithiwr, George Foxall, ac ar ddogfennau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Sir Amwythig. Bydd y tîm yn ymgynghori’n gyson â staff Geiriadur Prifysgol Cymru, sydd hefyd yn rhan o’r Ganolfan, ac yn pori yn eu casgliadau.

Yn olaf, ond nid lleiaf, byddwn yn ymgynghori â Richard Morgan, archifydd yn Archifau Morgannwg sydd wedi cyhoeddi llawer ar enwau lleoedd dwyrain Cymru, ac awdur y gyfrol Welsh Place-Names of Shropshire a ymddangosodd yn y lle cyntaf yn 1988. Bydd ein gwaith ni yn ymgorffori fersiwn diwygiedig o’r astudiaeth hon, a bydd cyngor profiadol Richard yn sicr yn gyfraniad mawr i’r gyfrol drwyddi draw. Disgwylir y bydd y llyfr yn barod i’w gyhoeddi cyn diwedd 2016.