Yr Eirfa Geltaidd
Celtic Lexicon / Geirfa geltaidd
Bydd yr Eirfa Geltaidd yn cynnwys geirfa adffurfiedig Proto-Celteg a’r geiriau cytras hysbys yn yr hen ieithoedd Celtaidd a’r ieithoedd modern (h.y. Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Fodern, Gaeleg yr Alban, Manaweg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Hen Frythoneg, Picteg, Galeg, Celtibereg a Galateg).
Ar hyn o bryd y mae’r dogfennau canlynol ar-lein:
Y mae angen Adobe Acrobat Reader i agor y ffeiliau PDF hyn. Gellir ei lawrlwytho (yn rhad ac am ddim) fan hyn.|
Pwysleisir mai gwaith sydd ar y gweill yw’r dogfennau hyn ac na ddylid cyfeirio atynt na dyfynnu ohonynt ar hyn o bryd. Y maent yn cynnwys tarddiadau Proto-Celteg y daethpwyd o hyd iddynt yn y gweithiau canlynol: Urkeltischer Sprachschatz gan Stokes (Göttingen, 1894), Indogermanisches etymologisches Wörterbuch (Bern, 1959–69) gan Pokorny, a Geiriadur Prifysgol Cymru| (4 cyf., Caerdydd, 1950–2002). Amcangyfrifir y canfyddir oddeutu 500 yn rhagor o darddiadau wedi i’r deunydd Llydaweg, Cernyweg, Gaeleg yr Alban, a Galeg gael ei ychwanegu.
Seiliwyd yr adffurfiadau Proto-Celteg ar ein dealltwriaeth o system seinegol Proto-Celteg, y ceir esboniad bras ohoni yma:
Adnoddau pellach
Geirfa Saesneg–Gwyddeleg Gynnar| [PDF: ffeil fawr: 2.96MB].
Cesair: Mynegai Semantig Rhyngweithiol Saesneg-Gwyddeleg Gynnar|
Cyhoeddiadau