Disgrifiad Llawn

Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol: Synthesis Amlddisgyblaethol

Yr ysgogiad y tu ôl i’r prosiect hwn oedd y ffaith fod y diddordeb yn y pethau hynny a elwir yn ‘Geltaidd’ yn cynyddu ac yn esgor ar ddadleuon tanbaid (mewn cylchoedd academaidd a gwleidyddol), a bod cryn ddiffyg dealltwriaeth o’r maes yn bodoli ar adegau. Yn y cyfnod cythryblus hwn o integreiddio o fewn y gymuned Ewropeaidd ar y naill law ac o ddatganoli grym i ranbarthau diwylliannol a chenhedloedd o fewn cenhedloedd ar y llall, y mae arbenigwyr mewn astudiaethau Celtaidd mewn sefyllfa unigryw i ddehongli’r berthynas hanesyddol a diwylliannol rhwng Iwerddon, Prydain, tir mawr Ewrop, a’u gwahanol rannau. Ond oherwydd bod y dull academaidd o arbenigo yn tueddu i fod yn allgyrchol, prin, a goddrychol yn aml, yw’r golygon a geir ar y darlun cyfan. Ychydig yw’r ysgolheigion hynny sy’n fodlon mentro y tu allan i’r maes, y cyfnod a’r diriogaeth y maent wedi dewis arbenigo ynddynt. Ac o blith yr ychydig hynny, y mae gormod ohonynt yn syrthio i’r fagl o gyfuno syniadau a goleddid gan ieithegwyr neu archaeolegwyr genhedlaeth yn ôl, neu o’u beirniadu.

Wrth ymgymryd â’r prosiect hwn, felly, yr oeddem yn nofio yn erbyn llif patrwm arferol y math o waith ymchwil sy’n cael ei ariannu y dyddiau hyn. Yn hytrach na gosod ffiniau o amgylch maes cyfyng i’w ymchwilio’n fanwl, y nod oedd anelu i greu’r ‘darlun cyfan’ y soniwyd amdano uchod – Celtigrwydd ac astudiaethau Celtaidd yn eu cyfanrwydd ac mewn manylder.

Er mwyn cyflawni’r dasg hon, aeth yr Athro John T. Koch, Cymrawd Ymchwil Hŷn yn y Ganolfan, a’r Athro James P. Mallory, Prifysgol y Frenhines, Belfast, prif gyd-archwilydd y prosiect, ati i gynnull Panel Ymgynghorol o ysgolheigion rhyngwladol i nodi amrediad eang o safbwyntiau pwysig ar Geltigrwydd. Y mae’r naill yn awdurdod cydnabyddedig ar yr ieithoedd a’r llenyddiaethau Celtaidd cynnar, a’r llall yn archaeolegydd bydenwog ac awdur toreithiog ar bynciau megis Iwerddon yn Oes y Pres ac Oes yr Haearn, Astudiaethau Indo-Ewropeaidd, a sagâu canoloesol Iwerddon. Bu’r canlynol yn aelodau o’r Panel Ymgynghorol: yr Athro Robin Chapman Stacey, Prifysgol Washington, Seattle, yr Athro Barry Cunliffe, Rhydychen, yr Athro William Gillies, Caeredin, y diweddar Athro Gwenaël Le Duc o Rennes II, yr Athro Máirín Ní Dhonnchadha, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway, yr Athro Pádraig Ó Riain, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway Cork, yr Athro Peter Schrijver, Munich (Utrecht erbyn hyn), a’r Athro Stefan Zimmer o Bonn. Bu’r ysgolheigion hyn yn gefn i dîm o ymchwilwyr ieuanc o America, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Iwerddon a Chymru, yn cynnwys Caroline aan de Wiel, Peter Busse, Marion Löffler, Raimund Karl, Antone Minard, Simon Ó Faoláin, Britta Schultze-Thulin, ac Esther Roberts, ynghyd â’r golygydd profiadol Marian Beech Hughes a’r llyfryddwraig Anne Holley.

Y mae’r ymchwil yn ymwneud â chyfnod yn ymestyn o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw. (Yn y byd modern, y mae’r gwledydd Celtaidd yn perthyn i fan arbennig, sef y gornel o’r Hen Fyd sydd agosaf at y Newydd ac sy’n drwm dan effaith allfudo.) Y mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn cwmpasu deunydd ieithyddol cynnar yn yr ieithoedd Celtaidd a thystiolaeth ynghylch y diwylliant anieithyddol, yn enwedig y diwylliant materol archaeolegol sydd â’i deipoleg a’i ddosbarthiad ei hun. Cyfunwyd y dystiolaeth ieithyddol a’r dystiolaeth faterol hon ynghylch Celtigrwydd – tystiolaeth a ymchwiliwyd ar wahân cyn hyn. Pwrpas y gwaith ymchwil oedd cynhyrchu amryw o gyhoeddiadau pwysig ac adnoddau ymchwil amlddisgyblaethol a fyddai’n torri tir newydd, sef:

Celtic Culture: A Historical Encyclopedia

Cyhoeddwyd Celtic Culture: A Historical Encyclopedia , dan olygyddiaeth yr Athro John T. Koch, arweinydd y prosiect, mewn print ac fel e-lyfr ym mis Rhagfyr 2005. Yn waith amlddisgyblaethol cynhwysfawr, y mae’r Gwyddoniadur yn rhagori o ran ei gwmpas a’i fanylder ar bob adnodd arall ym maes astudiaethau Celtaidd, gan gyflwyno arolwg manwl ar bob agwedd o ieithoedd, llenyddiaethau, hanes, archaeoleg, a diwylliannau y byd Celtaidd o’r cyfnod cynharaf hyd y presennol. Y mae pum cyfrol swmpus Celtic Culture yn cynnwys oddeutu 1,500,000 o eiriau mewn 1,569 o gofnodion gan 338 o arbenigwyr sy’n gweithio ledled y byd ym maes astudiaethau Celtaidd, gyda 367 o ddarluniau, yn cynnwys 59 o fapiau. Y mae’r llyfryddiaeth 220-tudalen a 10,000 eitem a geir yng Nghyfrol 5, sy’n cynnwys ffynonellau llawysgrifol gwreiddiol yn ogystal â gweithiau academaidd cyfoes, yn adnodd ymchwil gwerthfawr ynddo’i hun. Defnyddiwyd system hwylus o groesgyfeirio a cheir mynegai cyffredinol yn cynnwys 8,000 o destunau. Cynorthwywyd gyda chamau terfynol y gwaith golygu a darllen proflenni gan Marian Beech Hughes a Glenys Howells, a dyluniwyd a chysodwyd y gwaith yn y Ganolfan gan John T. Koch a’i gyflwyno i’r wasg ar ffurf ffeiliau PDF. Lansiwyd Celtic Culture yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddiwrnod y Llyfr, 3 Mawrth 2006, a chafwyd anerchiadau gan Geraint H. Jenkins, Cyfarwyddwr y Ganolfan, Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, a Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru. Diolchir yn gynnes i aelodau Panel Ymgynghorol y prosiect am eu cymorth hael, yn ogystal ag i’r holl gyfranwyr. Diolch hefyd i Ron Boehm, Llywydd cwmni cyhoeddi ABC-Clio, am ei ymrwymiad diwyro i’r prosiect dros gyfnod o bum mlynedd. Cydnabyddir yn ogystal aelodau’r tîm a fu’n gweithio ar y Gwyddoniadur yn ystod y cyfnod hwn, sef Dr Peter Busse, Ms Anne Holley, Dr Raimund Karl, Dr Marion Löffler, Dr Antone Minard, Mr Simon Ó Faoláin, Ms Esther Elin Roberts, Mr Will Slocombe, Ms Heike Vieth, a Ms Caroline aan de Wiel.

An Atlas for Celtic Studies

Y mae gweddill y gwaith a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sef An Atlas for Celtic Studies , bellach wedi ei gwblhau. Ceir yn yr Atlas filoedd o enwau lleoedd ac enwau grwpiau Celtaidd, yn ogystal ag arysgrifau Celtaidd a mathau eraill o dystiolaeth ieithyddol fapiadwy, gyda 358 o ddosraniadau archaeolegol. Yn hytrach na dethol tystiolaeth a fyddai’n cyflwyno stori ragdybiedig o’r Celtiaid, nod yr Atlas yw cyflwyno darlun eang ond manwl sy’n dangos perthynas ddaearyddol y dystiolaeth ieithyddol a’r dystiolaeth ddiwylliannol anieithyddol fel bod darllenwyr yn gallu dilyn eu trywydd eu hunain o ran ymchwilio a dehongli. Bydd fersiwn printiedig yr Atlas yn cynnwys 64 o dudalennau gorfaint o fapiau lliw ynghyd â thestun esboniadol, trafodaeth ddamcaniaethol, cyfeiriadau, a mynegai. Bydd mapiau digidol a ffeiliau GIS o’r mapiau ar gael ar ffurf disg-ffeiliau, a fydd yn adnodd amhrisiadwy i archaeolegwyr a daearegwyr.

  A Lexicon of the Celtic World
 

Yr oedd prosiect gorffenedig Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) hefyd yn cynnwys gwaith arloesol ar oblygiadau diwylliannol semanteg yr eirfa Broto-Celtaidd. Y mae ‘Cesair’ – cronfa ddata enfawr a rhyngweithiol o eiriau Saesneg–Gwyddeleg Gynnar, sy’n seiliedig ar Dictionary of the Irish Language Academi Frenhinol Iwerddon ac wedi ei datblygu gan yr Athro James Mallory o Brifysgol y Frenhines, Belfast, a chyd-gyfarwyddwr y Prosiect – bellach ar lein.

 

Adnoddau Ychwanegol:

Y mae angen Adobe Acrobat Reader i agor y ffeiliau PDF canlynol. Gellir ei lawrlwytho (yn rhad ac am ddim) fan hyn.

Tudalennau enghreifftiol o’r Atlas:

1. Cyflwyniad i fapiau Llydaw   [PDF: 48KB]

2. Mapiau o Lydaw  [PDF: 692KB]

3. Llydaw yn yr Oesoedd Canol Cynnar  [PDF: 2.4MB]

 
Cyhoeddiadau