Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg

Cwblhawyd yn 2001 ail brif brosiect ymchwil y Ganolfan, sef astudiaeth gymdeithasol o hanes yr iaith Gymraeg yn y cyfnod rhwng Deddf Uno 1536 a’r presennol.

Yn y prosiect, dangoswyd sut y disodlwyd y Gymraeg i raddau pell iawn yn y cyfnod modern gan yr iaith Saesneg. Rhoddwyd sylw i statws a swyddogaeth y Gymraeg yn ei pherthynas â’r Saesneg, gan ganolbwyntio yn arbennig ar faint a dosbarthiad y boblogaeth ac ymagweddau at y Gymraeg yn y cartref a’r gwaith, ym myd y gyfraith a maes addysg, yng ngweithgarwch y wasg ac mewn cylchoedd crefyddol, diwylliannol, gweinyddol a gwleidyddol.

  Llun o ymchwilydd wrth ei waith

Ymchwilydd wrth ei waith 

Gyda chymorth demograffwyr, anthropolegwyr, daearyddwyr, haneswyr ac ieithyddwyr sy’n perthyn i adrannau o fewn sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Cymru, ynghyd â sefydliadau eraill, llwyddodd y tîm i ddarganfod trysorfa o ffynonellau nas archwiliwyd o’r blaen, ac a daflai oleuni newydd ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol. Arolygwyd yr ymchwil gan y cyn-Gyfarwyddwr, Yr Athro Geraint H. Jenkins, a chan Bwyllgor Ymgynghorol a oedd yn cynnwys rhai o ysgolheigion pennaf y maes.

Llwyddodd y prosiect arloesol hwn i ennyn diddordeb rhyngwladol sylweddol, ac y mae’r un gyfrol ar ddeg a gyhoeddwyd yn gyfraniad o bwys mawr i faes hanes cymdeithasol yr iaith.

Fel rhan o’r prosiect, cyhoeddwyd adroddiad dan y teitl Effeithiau Twristiaeth ar yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd-Orllewin Cymru sy’n datgelu bod cysylltiad agos iawn rhwng twristiaeth, mewnfudiad a dirywiad iaith. (Gw. hefyd erthygl gysylltiedig.)