'Croeso i Gymru?', gan Dylan Phillips

Fforwm: Twristiaeth ac Iaith yng Ngorllewin Ewrop

'Croeso i Gymru?', gan Dylan Phillips

[Dyma destun erthygl a ymddangosodd yn Golwg. Fe'i cyhoeddir yma gyda chaniatâd Golwg Cyf.]

Cynhadledd Undydd i gyhoeddi ymchwil newydd ar effeithiau twristiaeth ar y Gymraeg

Heidia cannoedd o filoedd o bobl i Gymru bob blwyddyn ar eu gwyliau. Does dim rhyfedd, wrth gwrs, fod y wlad fach hon mor boblogaidd, o gofio'r golygfeydd gogoneddus sy'n frith o'n cwmpas. Ond pa bris ydyn ni'n ei dalu am fod mor groesawgar?

Mewn cynhadledd undydd a gynhaliwyd yn y Ganolfan Geltaidd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 28 Ebrill 2001, cyhoeddwyd adroddiad newydd ar Effeithiau Twristiaeth ar yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd-Orllewin Cymru sy'n datgelu bod cysylltiad agos iawn rhwng twristiaeth, mewnfudiad a dirywiad iaith. Er bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant i economi Cymru, rhybuddia fod twristiaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi gweithredu fel catalydd i Seisnigo llawer o gymunedau yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

Mae pwnc twristiaeth yn un dyrys. Fe gyfranna'r diwydiant oddeutu biliwn o bunnau i economi'r wlad bob blwyddyn, ac yn ôl ffigurau'r Bwrdd Croeso cyflogir cynifer ag un o bob deg person yng ngweithlu Cymru mewn swyddi sy'n gysylltiedig â'r sector twristiaeth. Erbyn heddiw, mae'r diwydiant yn elfen anhepgor o economi Cymru ac yn allweddol bwysig i ffyniant llawer iawn o gymunedau - yn enwedig yng nghefn gwlad y gogledd a'r gorllewin. Gyda'r diwydiant amaeth mewn cymaint o drafferthion a phrinder buddsoddi mewn diwydiannau eraill, mae'r ardaloedd Cymraeg yn dibynnu'n drwm ar dwristiaeth am arian a swyddi. Er gwell neu er gwaeth, twristiaeth sy'n cynnal y Fro Gymraeg.

Eto i gyd, tystia profiad trefi gwyliau poblogaidd megis y Rhyl, Benllech, Aber-soch, Bermo, y Borth a Llangrannog mai colli iaith a chymdeithas yw'r pris a delir yn y tymor hir.

Er bod twristiaeth wedi datblygu i fod yn ddiwydiant o gryn bwys yng ngwledydd y gorllewin oddi ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, eithriadol brin yw'r astudiaethau gwyddonol o effeithiau twristiaeth ar ieithoedd a diwylliannau cenhedloedd lleiafrifol Ewrop. Mae hyn yn syndod o gofio bod llawer iawn o ganolfannau twristaidd poblogaidd, yn enwedig ar y Cyfandir, wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle y siaredir iaith leiafrifol.

Y mae'r adroddiad, sy'n rhan o brosiect Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ar Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, yn ffrwyth gwaith maes a gynhaliwyd yn Llanberis (Arfon), Llanengan (Dwyfor), a Llanfair Mathafarn Eithaf (Ynys Môn) dros gyfnod o flwyddyn. Noddir y prosiect gan y Gymuned Ewropeaidd. Trwy gyfrwng holiadur a ddosbarthwyd i drigolion y tair cymuned hyn casglwyd gwybodaeth bwysig am gefndir a gwaith y boblogaeth leol, eu man geni a'u rhesymau am symud i'r ardal os mewnfudwyr oeddynt; eu gallu i siarad Cymraeg, eu defnydd o'r iaith, a'u hagweddau at yr iaith; eu cysylltiadau â'r diwydiant ymwelwyr, a'u barn am le ac effaith twristiaeth yn y gymuned, yn enwedig o safbwynt y Gymraeg.

I'r rheini sy'n byw mewn trefi glan-môr neu rannau eraill o'r wlad sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr, efallai na fydd yr adroddiad yn datgelu unrhyw gyfrinachau mawr. Ategu'r dystiolaeth amgylchiadol â ffeithiau caled a wna'r ymchwil hon, a chynnig prawf gwrthrychol a diamheuol fod sgil-effeithiau'r diwydiant ymwelwyr yn peri bygythiad difrifol iawn i ddyfodol yr iaith. A'r sgil-effaith mwyaf niweidiol o bell ffordd yw'r modd y mae twristiaeth yn annog mewnfudiad.

Atyniad pwysig iawn i fewnfudwyr i gefn gwlad Cymru yw'r tirwedd a'r amgylchedd hardd, ei llonyddwch a'i thawelwch. Weithiau bydd mewnfudwyr yn symud er mwyn ffoi rhag bwrlwm bywyd dinesig neu er mwyn ymddeol. Fodd bynnag, yr hyn sy'n gyffredin iddynt oll yw'r ffaith iddynt gael eu denu am yr un rhesymau ag y bydd twristiaid yn cael eu denu i dreulio eu gwyliau yng Nghymru.

Ond fe brofa astudiaeth y Ganolfan fod y cysylltiad rhwng twristiaeth a mewnfudiad yn llawer mwy uniongyrchol na hynny. Datgelodd yr ymchwil fod tri chwarter y mewnfudwyr a anwyd y tu allan i Gymru wedi bod ar wyliau yn yr ardal cyn penderfynu symud yno i fyw'n barhaol. Yn achos cymuned Llanengan, roedd gan gynifer â naw o bob deg o'r mewnfudwyr o'r tu allan i Gymru gysylltiadau gwyliau â'r ardal. At hynny, dangoswyd bod gan lawer o fewnfudwyr hefyd dai haf neu garafannau yn yr ardal. Yn wir, ymddengys fod cysylltiad penodol rhwng tai haf a mewnfudwyr sy'n ymddeol, gan fod 41% o'r rhai a chanddynt ail gartref yn un o'r tair cymuned wedi ei brynu'n fwriadol er mwyn ymddeol iddo maes o law.

Tuedd mewnfudiad yw tyfu fel caseg eira. Po fwyaf o fewnfudwyr sy'n ymsefydlu mewn ardal benodol, mwyaf byth o fewnfudwyr sy'n cael eu denu yno. Wrth ateb yr holiadur, nododd bron traean o'r mewnfudwyr fod ganddynt eisoes deulu a chyfeillion yn byw yn yr ardal cyn iddynt ymgartrefu yno.

O ganlyniad, tuedda mewnfudwyr i grynhoi mewn pentrefi a chymunedau arbennig er mwyn bod ymhlith eu tebyg. Yn ôl un wraig o Lerpwl a oedd bellach yn byw ym Menllech, symudodd yno'n fwriadol oherwydd bod mwy o Saeson yn byw yno nag mewn rhannau eraill o Ynys Môn. Nid gormodiaith fyddai honni, gyda llaw, fod rhannau o Benllech yn ymdebygu i'r Costa Brava, nid oherwydd y traethau gogoneddus ond oherwydd y gymuned o 'ex-pats' Seisnig sydd wedi ymddeol i'r ardal.

O ran effaith y mewnfudiad hwn ar y Gymraeg, dangosodd yr ymchwil yn eglur fod defnydd y trigolion lleol o'r iaith yn cael ei gyfyngu'n arw po fwyaf o bobl ddi-Gymraeg sy'n byw yn y gymuned. Mae siaradwyr Cymraeg y tair cymuned a astudiwyd yn gwneud defnydd helaeth o'u mamiaith yn ystod achlysuron lleol megis eisteddfod, noson lawen neu gymanfa, ac yn perthyn i gymdeithasau megis Merched y Wawr, yr Urdd, a'r Ffermwyr Ifainc. Ond po fwyaf o fewnfudwyr sy'n trigo o fewn y gymuned, tebycaf oll yw'r Cymry Cymraeg i orfod troi at y Saesneg.

At ei gilydd roedd yr holl drigolion, yn frodorion ac yn fewnfudwyr, yn credu bod y Gymraeg yn iaith werthfawr. Serch hynny, yr oedd canran helaeth o'r mewnfudwyr di-Gymraeg yn teimlo bod eu plant yn cael gormod o Gymraeg yn yr ysgol. Ofnai rhai fod addysg cyfrwng Cymraeg yn rhwystro datblygiad addysgol eu plant. Felly, er gwaethaf tystiolaeth astudiaethau gwyddonol ac ysgolheigaidd sy'n profi manteision dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg, mae'n amlwg fod nifer o rieni di-Gymraeg heb eu darbwyllo a bod lleiafrif bychan yn agored wrthwynebus.

Yn wyneb hyn, nid yw'n rhyfedd fod canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn teimlo mai'r mewnfudiad sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddirywiad yr iaith. Teimlant fod prisiau tai yn rhy uchel a thu hwnt i gyrraedd y trigolion lleol, a bod gormod o gystadleuaeth am dai yn dod o'r tu allan i'r ardal. Pa ryfedd, felly, fod tri chwarter y brodorion a'r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn cefnogi'r alwad am fesurau i reoli tai haf.

Ac nid llawer ohonynt ychwaith a oedd yn fodlon â'r diwydiant ymwelwyr, yn enwedig mewn perthynas â'r Gymraeg. Roedd bron pawb, fel y gellid disgwyl, yn croesawu manteision economaidd a chyflogaeth y diwydiant, ond roedd ganddynt hefyd amheuon ynghylch anfanteision cymdeithasol a diwylliannol twristiaeth.

Credai mwyafrif helaeth yr atebwyr fod angen gwneud rhagor o ddefnydd o'r Gymraeg o fewn y sector twristiaeth, ac roedd yn amlwg hefyd fod gwrthwynebiad mawr i ddatblygiadau megis marinas, pentrefi gwyliau a meysydd carafannau.

Felly, beth yw'r gwersi sydd raid i ni eu dysgu? Fe all y diwydiant croeso fod o fudd sylweddol i'r iaith trwy ddod ag elw i'r ardaloedd Cymraeg, creu swyddi i'w trigolion a hyrwyddo hunaniaeth genedlaethol sy'n rhoi pwys mawr ar iaith a diwylliant unigryw y wlad.

Yn sicr, roedd trigolion Llanberis, Llanengan a Llanfair Mathafarn yn ymwybodol iawn o fanteision twristiaeth o safbwynt yr economi a chreu swyddi, ac yn fodlon gweld y diwydiant yn datblygu ymhellach ar yr amod fod hynny'n digwydd ar raddfa fechan a than reolaeth y cymunedau lleol. Mae'n amlwg eu bod nhw hefyd yn frwd o blaid gwneud defnydd helaethach o'r Gymraeg o fewn y diwydiant ac yn awyddus i sicrhau bod y diwydiant yn
cael ei ddatblygu mewn modd sy'n llesol i'r iaith.

Ond mae'n amlwg hefyd fod mwyafrif trigolion yr ardaloedd hyn o'r farn fod twristiaeth wedi cyfrannu at enciliad y Gymraeg yn un o'i chadarnleoedd pennaf yng Nghymru, a hynny trwy ysgogi mewnfudiad mawr o bobl anghyfiaith i'r ardal.

Gan fod Pwyllgor Diwylliant a Hamdden y Cynulliad Cenedlaethol yn awyddus i sicrhau bod ei arolwg presennol o'r Gymraeg yn ymarferiad defnyddiol a phwrpasol, un o'i dyletswyddau pwysicaf fydd cynnal trafodaeth adeiladol a deallus ar sut y gellir datrys problem mewnfudiad i gefn gwlad Cymru. Dylai'r adroddiad hwn fod yn fan cychwyn.