Beirdd yr Uchelwyr: Disgrifiad Llawn

Prosiect cyntaf y Ganolfan oedd cynllun uchelgeisiol i olygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion mewn saith cyfrol sylweddol dan olygyddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan fel sefydliad Prifysgol.

Wrth weithio ar y prosiect hwnnw, sylweddolwyd bod corff helaeth o farddoniaeth anolygedig o’r cyfnod a ddeuai’n union ar ôl cyfnod Beirdd y Tywysogion, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Wrth i’r prosiect cyntaf dynnu at ei derfyn, dechreuwyd cynllunio trydydd prosiect y Ganolfan i olygu gwaith anolygedig y cyfnod 1282–1525. Cam cyntaf y gwaith rhagbaratoawl hwn oedd llunio rhestr o holl feirdd a cherddi’r cyfnod mewn cydweithrediad â staff y Llyfrgell Genedlaethol, gan elwa yn arbennig ar y cynllun i baratoi mynegai cyfrifiadurol i farddoniaeth y llawysgrifau (MALDWYN). Buan y sylweddolwyd bod llawer iawn mwy o waith i’w olygu nag a wnaed yng nghwrs Prosiect I.

Penderfynwyd canolbwyntio yn y lle cyntaf ar farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hon yn sicr yw un o’r canrifoedd pwysicaf a mwyaf cyffrous yn hanes ein llenyddiaeth. Ar y naill law ceir nifer o feirdd yn canu mawl a marwnad yn yr hen ddull gan ddefnyddio’r mesurau traddodiadol ac ar y llaw arall ceir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym a’i ddilynwyr ganu tra gwahanol ar fesur y cywydd yn dyrchafu themâu newydd megis serch. Dyma felly drobwynt yn hanes y canu caeth, a’r cyfnod yn gymysgedd o’r hynafol traddodiadol a’r newydd cyffrous. Erbyn y bymthegfed ganrif y mae nifer y beirdd a’r cerddi yn cynyddu’n sylweddol. Dyma yw oes aur y canu cywydd. 

Lansiwyd y prosiect ym 1993 ac apwyntiwyd Dr Ann Parry Owen yn olygydd cyffredinol ac arweinydd y prosiect. Dan arweiniad Pwyllgor Ymgynghorol yn cynrychioli pob Adran Gymraeg yn y Brifysgol, penderfynwyd ar ganllawiau golygyddol i gyfranwyr y gyfres. Fel yn achos Prosiect 1 cyfrannwyd cyfrolau pwysig i’r gyfres gan nifer o ysgolheigion mwyaf amlwg y maes. Buom yn ffodus i dderbyn barn ac arweiniad y diweddar Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams (a oedd hefyd yn Olygydd Ymgynghorol Prosiect 1) a’r Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd (a oedd yn Olygydd Cyffredinol Prosiect 1). Manteisiwyd yn rheolaidd hefyd ar sylwadau y pedwar ysgolhaig Cymraeg nodedig a oedd yn aelodau o’r Bwrdd Golygyddol.

Mae pob cyfrol yn cynnwys gwaith un neu ragor o feirdd, a cheir rhagymadrodd byr sy’n trafod y cefndir hanesyddol ac unrhyw ffeithiau hysbys am y bardd. Rhoddir y testun mewn orgraff ddiweddar gan nodi’r holl amrywiadau llawysgrifol pwysig. Ceir nodiadau byr ar enwau personau a lleoedd a grybwyllir yn y testun, ar gyfeiriadau arbennig, ac ar unrhyw broblemau cystrawennol neu fydryddol. Ceisir rhoi pob cerdd yn ei chyd-destun a cheir trafodaeth fer ar fydryddiaeth pob cerdd. Ar ddiwedd gwaith pob bardd ceir mynegai i’r nodiadau ac unrhyw eiriau anarferol ac i’r enwau personau a lleoedd ac ar ddiwedd y cyfrolau unigol ceir mynegeion i’r ffynonellau llawysgrifol, i’r llinellau cyntaf ac i’r noddwyr.

Erbyn diwedd 2007 yr oedd 36 o gyfrolau wedi eu cyhoeddi, a bydd gweddill cyfrolau’r gyfres yn ymddangos yn 2008/9. Staff y Prosiect a fu’n cysodi’r cyfrolau, ac fe’u hargreffir yn ddigidol – dull a gysylltir fel arfer â chyhoeddi ‘ar gais’, ond un sy’n gweddu’n union i ofynion cyhoeddi ysgolheigaidd yn y Gymraeg lle mae’r farchnad am lyfrau o’r fath yn gyfyngedig. Trwy gynhyrchu, cyhoeddi, a marchnata’r gyfres ei hun, gall y Ganolfan gyhoeddi ffrwyth yr ymchwil o fewn ychydig wythnosau, neu ychydig ddyddiau, ar ôl iddi gael ei chwblhau gan gadw cost y cyfrolau unigol i’r lefel isaf posibl.


Y bardd yn ymweld â’i neiaint amser y Nadolig

Fy swydd gyda’m harglwyddi,
Hyn fydd, a’u câr hen wyf i:
Darllain cyfraith, rugliaith raid,
Sifil, i’m cyfneseifiaid;
Gwisgaw o befrlaw bob un,
Gwrdd roddion, gwyrdd o’r eiddun;
Clau ddychanu llu lletffrom,
Clywir ei dwrf, clêr y dom;
Rhugl o beth y’m hanrhegwyd,
Rhydebygu Lleucu Llwyd
I hardd flodeuros gardd gain,
I hael Fair, neu i haul firain.
Digrif gan gleiriach achul,
Awr dda y sydd ar dduw Sul,
Clybod yn ôl Nadolig
Dyrnodau cogau mewn cig,
Cynnwrf milgwn, gwn nad gau,
Cedenog o’u cadwynau,
Cytgerdd crwth chwimwth a chod,
Cydgerddau pennau peunod,
A chlych aberth a chwerthin,
A galw y gwŷr i gael gwin.

Llywelyn Goch ap Meurig Hen ( fl . c .1350– c .1390)