Beirdd yr Uchelwyr
Manylyn o lsgr. LlGC 3050D. Hawlfraint LlGC. Cedwir pob hawl.
Y prosiect hwn oedd trydydd prosiect y Ganolfan, a’i nod oedd adeiladu ar lwyddiant y prosiect cyntaf| a golygu barddoniaeth Gymraeg a ganwyd rhwng cwymp tywysog annibynnol olaf Cymru ym 1282/3 hyd at farwolaeth Tudur Aled ym 1526 .
Rhoddwyd blaenoriaeth i farddoniaeth nad oedd eisoes wedi ei golygu ac i farddoniaeth nad oedd wedi ei golygu ers blynyddoedd lawer. Cyhoeddwyd y gwaith yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr|, ac erbyn 2007 yr oedd 36 o gyfrolau wedi eu cyhoeddi. Staff y prosiect a oedd yn gyfrifol am gysodi’r llyfrau a’u cyhoeddi, ac fe’u hargraffwyd yn ddigidol.
Arweinwyd y tîm o ysgolheigion talentog a fu’n ymgymryd â’r dasg hollbwysig hon gan Dr Ann Parry Owen,| ac ar y panel golygyddol yr oedd nifer o ysgolheigion, gan gynnwys aelodau o staff y prifysgolion yng Nghymru. Manteisiodd y cymrodyr ymchwil ar y cyfle dihafal a oedd ganddynt i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol, gan fod y Ganolfan wedi ei chysylltu yn gorfforol â Llyfrgell Genedlaethol Cymru,| un o bum llyfrgell hawlfraint y Deyrnas Unedig a chartref casgliad amhrisiadwy o lawysgrifau Cymreig a Cheltaidd.